Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1) –2020/0434/FUL - Cymeradwywyd (2) –2021/3008/FUL - Cymeradwywyd . Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Penderfynwyd
cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio
y cyfeirir atynt isod yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad. (Eitem 1) -
Cais Cynllunio 2020/0434/FUL - Adeiladu 9 annedd newydd gyda mynediad, garejys,
parcio a mannau agored cysylltiedig, addasu The Poplars
yn 2 uned breswyl, addasu adeilad stabl yn 1 uned breswyl, dymchwel adeilad
porthdy a gwaith cysylltiedig yn The Poplars,
Pontlliw, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd Luke
Grattarola (asiant) y Pwyllgor. Nid oedd y
Cynghorydd D G Sullivan (Aelod Lleol) yn gallu bod yn bresennol, felly
darllenodd y Cadeirydd ddatganiad ar ei ran yn amlinellu ei bryderon, yn
enwedig mewn perthynas â thraffig a phroblemau o ran mynediad. (Eitem 2) -
Cais Cynllunio 2021/3008/FUL - Newid defnydd o uned fasnachu (Dosbarth A1) i
fod yn glinig osteopathi (Dosbarth D1) yn 73 St Teilo
Street, Pontarddulais, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. |