Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad canlynol: Y Cynghorydd M H Jones – Cais Cynllunio 2021/2996/FUL (Eitem 4) – Personol a Rhagfarnol a'i adael cyn trafodaeth. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd M H
Jones - Cais Cynllunio 2021/2996/FUL (Eitem 4) – Personol a rhagfarnol, a
gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1 - 2021/1790/FUL - Cymeradwywyd 2 - 2021/2001/FUL - Cymeradwywyd 3 - 2021/2770/FUL - Cymeradwywyd 4 - 2021/2996/FUL -
Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer:
Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i
Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y
cyfarfod) Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn
unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod: (Eitem 1) -
Cais Cynllunio 2021/1790/FUL - Adeiladu 3 annedd ar wahân a gwaith mynediad cysylltiedig
ar dir y tu ôl i 68-94 Lone Road, a'r tu ôl i 3-21 Waungron Road, Clydach, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Mae 1 llythyr
ychwanegol wedi’i gyflwyno’n ail-ddweud pryderon ynghylch diogelwch ffyrdd o
ystyried y tir sy'n disgyn yn sylweddol i lawr i'r afon ger y fynedfa/lledu'r
safle. (Eitem 2) Cais Cynllunio 2021/2001/FUL - Newid
defnydd o hen feithrinfa gofal dydd i blant (D1) i annedd breswyl (C3) ynghyd
ag estyniadau blaen/ochr deulawr, estyniad ochr unllawr,
gosod grisiau troellog yn lle’r allanfa dân gefn, creu dau ddrws mynediad
newydd gyda grisiau a chynteddau (gweddluniau blaen a'r ochr dde), gosod llwybr
dihangfa dân yn lle’r balconi uwchben to gwastad y llawr cyntaf yn y cefn a
gwneud newidiadau cysylltiedig i ffenestri a tho’r hen Feithrinfa Ddydd Tree Tops, Comin
Clun, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. (Eitem 3) - Cais Cynllunio 2021/2770/FUL -
Addasu’r adeilad presennol a’i adnewyddu’n allanol (gan gynnwys llenfuriau gwydrog), a chodi estyniad deulawr ar yr 2il a’r
3ydd llawr, gan greu 4 uned fanwerthu/masnachol ar y llawr gwaelod (Dosbarth
A1/A3) gyda 3 llawr o swyddfeydd uwchben (Dosbarth B1) gan gynnwys teras ar y
to, 3 phod cyfarfod ar y to ac isadeiledd gwyrdd yn
18-20 Princess Way,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Derbyniwyd 1 llythyr cefnogi. Bydd yr adeilad diolwg sydd wedi'i
esgeuluso’n cael ei wella a'i adnewyddu. Bydd yn dod â busnes y mae mawr ei
angen i'r ffordd a gobeithio y bydd yn arwain at adfywiad Princess
House, sydd wedi'i esgeuluso'n fawr. (Eitem 4) - Cais Cynllunio 2021/2996/FUL –
Addasu’r llawr gwaelod, y llawr cyntaf a’r ail lawr (Dosbarth A1/A3) i greu Hwb
Cymunedol gan ddarparu llyfrgell, archifau, caffi, gwasanaethau cymunedol,
swyddfa staff a lle cydweithio hyblyg (Defnydd Unigryw) gyda addasiadau allanol
yn cynnwys llenfuriau gwydrog/sgrîn law, isadeiledd
gwyrdd a phaneli solar ar y to yn 277-278 Stryd Rhydychen, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. |