Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe datganwyd y buddiannau canlynol: - Y Cynghorydd P Lloyd – Cofnod Rhif 34 - Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (2021/1331/FUL) – Personol a Chofnod Rhif 38 – Mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol: Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer AoHNE Gŵyr - Personol Cofnodion: Y Cynghorydd P Lloyd – Cofnod
Rhif 34 - Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
(2021/1331/FUL) – Personol a Chofnod Rhif 38 – Mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol: Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer
AoHNE Gŵyr - Personol |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (1) – 2021/1331/FUL – Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cais
cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) 1) Cymeradwyo'r
cais cynllunio a nodir isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu a
nodir isod: #(Eitem 1)
– Cais Cynllunio 2021/1331/FUL – Cae dan do, estyniadau newydd i adeiladau presennol
y ganolfan hamdden ynghyd ag ad-drefnu mewnol i ganiatáu ar gyfer darparu
campfa a chyfleusterau newid gwell, ystafell gymunedol, derbynfa a chaffi,
adnewyddu'r stiwdio ffitrwydd bresennol i alluogi defnydd buddiol gan yr ysgol,
adnewyddu'r cyrtiau tenis presennol gyda ffensys a goleuadau cysylltiedig,
cysylltu llwybrau cerddwyr rhwng yr ysgol a'r ardaloedd hamdden a chysylltiadau
allanol presennol o amgylch y safle, maes parcio newydd gyda mynediad newydd
oddi ar Cefn Hengoed Road yng Nghanolfan Hamdden Cefn Hengoed, Caldicot Road, Bôn-y-maen, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Adroddiad a
gwybodaeth ychwanegol i gynnwys cyfeiriad at Bolisi'r CDLl
RP6 (Halogi Tir). Dileu brawddeg olaf
yr adran 'Sefydlogrwydd Tir' (mewn perthynas â nwy daear). Ychwanegu'r adran
newydd ganlynol ar ôl yr adran 'Sefydlogrwydd Tir': Halogi Tir Oherwydd
gweithgareddau'r gorffennol yn y safle ac o'i gwmpas, mae potensial ar gyfer
halogi tir ar y safle. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, mae Asesiad Geoamgylcheddol a Geodechnegol, a
baratowyd gan Earth Science Partnership, yn
cyd-fynd â'r cais. Mae'r asesiad yn tynnu sylw at y gofyniad posib am fesurau
adfer er mwyn mynd i'r afael â halogi tir hanesyddol gan gynnwys y potensial ar
gyfer mesurau diogelu nwy. Darparwyd strategaeth adfer yn seiliedig ar yr
ymchwiliadau safle cyfyngedig a gynhaliwyd hyd yma, fodd bynnag, bydd angen
rhagor o waith ymchwilio i'r safle er mwyn llywio'r strategaeth arfarnu ac opsiynau
adfer terfynol. O ystyried yr wybodaeth a ddarperir yn yr Asesiad Geoamgylcheddol a Geodechnegol,
ac o ystyried y gofynion ym Mholisi'r CDLl RP6,
argymhellir bod amodau'n cael eu gosod i fynd i'r afael â'r risgiau gweddilliol
sy'n deillio o halogi tir ar y safle, pe bai caniatâd cynllunio'n cael ei
roi. Mewn perthynas â'r risgiau i ddyfroedd a reolir, nid yw CNC wedi codi
unrhyw bryderon mewn perthynas â'r mater hwn. Mae'r Asesiad Geoamgylcheddol a Geodechnegol yn
ystyried bod y risgiau i ddyfroedd a reolir o ddatblygiad y safle yn debygol o
fod yn isel ac nid yw'n ystyried bod angen unrhyw asesiad
pellach. Derbynnir y casgliad hwn. Ychwanegu'r
amodau newydd canlynol: 17. Cyn dechrau
unrhyw ddatblygiad, caiff yr elfennau canlynol i gynllun sy'n ymdrin â'r
risgiau sy'n gysylltiedig â halogi'r safle, gan gynnwys nwy daear, eu cyflwyno
i'r awdurdod cynllunio lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig: 1. Cynllun
ymchwilio pellach i'r safle, yn seiliedig ar yr argymhellion yn yr Asesiad Geoamgylcheddol a Geodechnegol a
baratowyd gan Earth Science Partnership
(ESP7263mte.3241). 2. Yn seiliedig
ar yr wybodaeth a ddarparwyd yn 1. strategaeth arfarnu ac opsiynau adfer sy'n
rhoi manylion llawn y mesurau adfer sydd eu hangen a sut y cânt eu cyflawni
ynghyd ag amserlen ar gyfer eu gweithredu. Bydd y cynllun yn
cael ei weithredu'n llym yn unol â'r manylion a'r amserlenni a gymeradwywyd ar
gyfer eu gweithredu.
Rheswm: Er budd
iechyd a diogelwch ac i warchod yr amgylchedd. 18. Ar ôl
cwblhau'r gwaith adfer, a chyn i'r datblygiad ddod i'r safle drwy hyn, caiff
adroddiad dilysu ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i gymeradwyo'n
ysgrifenedig i ddangos bod y gwaith adfer wedi'i wneud i safon foddhaol a bod
targedau adfer wedi'u cyflawni. Rheswm: Er budd
iechyd a diogelwch. |
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio (Ebr) - 2019-20 a 2020-21. PDF 306 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynwyd yr
Adroddiad Perfformiad Blynyddol gan Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas er
gwybodaeth. Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried bod yr adroddiad yn ddull pwysig
ar gyfer monitro perfformiad awdurdodau cynllunio lleol yn erbyn cyfres
allweddol o ddangosyddion perfformiad cenedlaethol. Dywedodd fod Llywodraeth
Cymru, oherwydd pandemig COVID, wedi nodi nad oedd
angen paratoi'r adroddiad y llynedd nac eleni, ond bod yr awdurdod wedi
llunio'r adroddiad hwn er gwaethaf y ffaith hon. Mae'r adroddiad
hefyd yn offeryn pwysig ar gyfer meincnodi perfformiad awdurdodau lleol ar
draws Cymru. Rhoddwyd manylion yr adroddiad drafft ar gyfer y cyfnod Ebrill
2019 i Fawrth 2021 yn Atodiad A i’r adroddiad. Rhoddwyd manylion
y ffigurau perfformiad gwirioneddol, y gwelliannau sylweddol a gyflawnwyd dros
y blynyddoedd diwethaf a'r materion i'w datrys yn yr adroddiad, yn ogystal â
chyfres o benderfyniadau apêl yn deillio o geisiadau roedd penderfyniadau
wedi'u gwneud arnynt, yn groes i argymhellion swyddogion. Gofynnodd yr
Aelodau gwestiynau am faterion amrywiol yn ymwneud â'r adroddiad gan gynnwys
camau gorfodi ac ôl-groniad, a hysbysu aelodau lleol ynghylch gorfodi yn eu
wardiau; nododd y swyddog y byddai'n adrodd yn ôl ymhellach ar faterion gorfodi
ac yn ceisio diweddaru a gwella'r wybodaeth a drosglwyddir i aelodau lleol. |
|
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i'r
Aelodau am ganfyddiadau'r 2il Adroddiad Monitro Blynyddol CDLl
(AMB) ar gyfer y cyfnod 2020-21, a cheisiodd gymeradwyaeth i'w gyflwyno'n
ffurfiol i Lywodraeth Cymru. Dywedodd fod yr
adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau rhan allweddol o broses y cynllun datblygu
statudol, ac yn nodi sut y mae nodau, amcanion a pholisïau Cynllun Datblygu
Lleol Abertawe wedi'u rhoi ar waith ar gyfer y cyfnod Ebrill 2020 i Fawrth
2021. Darparwyd
cyflwyniad gweledol manwl yn ymwneud â'r prif feysydd a amlinellwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Penderfynwyd: 1)
Y
bydd canfyddiadau'r 2il AMB, fel a grynhoir yn yr adroddiad hwn ac a nodir yn
llawn yn y ddogfen AMB (Atodiad A i'r adroddiad) yn cael eu nodi; 2)
Y
cymeradwyir y fersiwn derfynol yr 2il AMB i'w chyflwyno i Lywodraeth Cymru yn
unol â gofynion statudol; 3)
Y
bydd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog priodol a ddirprwyir,
yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau argraffyddol, gramadegol,
cyflwyniadol neu ffeithiol sy'n weddill i'r 2il AMB cyn iddo gael ei gyflwyno
a'i gyhoeddi. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn hysbysu'r Aelodau
o'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Canllawiau
Creu Lleoedd drafft ar gyfer gwahanol raddfeydd o ddatblygiad preswyl, a
thynnodd sylw at ymatebion swyddogion i'r rhain, a cheisiodd gymeradwyaeth i
fabwysiadu'r fersiynau diwygiedig fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA). Amlinellwyd
cefndir a chyd-destun yr adroddiad, yn ogystal â’r ymgynghoriad a gynhaliwyd
â’r cyhoedd a rhanddeiliaid, yr ymatebion a gafwyd
a'r prif faterion sy'n codi o'r ymarfer. Darparwyd
cyflwyniad gweledol manwl yn ymwneud â'r prif feysydd a amlinellwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Penderfynwyd: 1)
Y
bydd y materion a godwyd yn y sylwadau a wnaed yn ystod y broses ymgynghori, ac
ymatebion yr Awdurdod Cynllunio i'r rhain (fel y'u hamlinellir yn Atodiad A, B
ac C i'r adroddiad hwn) yn cael eu nodi; 2)
Bod
fersiynau terfynol y tri CCA ar gyfer Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer
Datblygiadau Preswyl, Datblygiadau Mewnlenwi a Thir
Cefn a Datblygiadau Deiliaid Tai (a amlinellir yn Atodiadau D, E ac F i'r
adroddiad) yn cael eu cymeradwyo a'u mabwysiadu; 3)
Bod
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog priodol a ddirprwyir, yn
cael ei awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau argraffyddol, gramadegol,
cyflwyniadol neu ffeithiol i'r fersiynau terfynol a fabwysiadwyd o'r CCA cyn
iddynt gael eu cyhoeddi'n derfynol. |
|
Mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol: Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer AoHNE Gwyr. PDF 401 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn hysbysu'r Aelodau
o’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Ganllawiau
Creu Lleoedd drafft ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) Gŵyr, a thynnodd sylw at ymatebion swyddogion
i'r rhain, a cheisiodd gymeradwyaeth i fabwysiadu'r fersiwn ddiwygiedig yn
ffurfiol fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA). Amlinellwyd
cefndir a chyd-destun yr adroddiad, yn ogystal â’r ymgynghoriad a gynhaliwyd
â’r cyhoedd a rhanddeiliaid, yr ymatebion a gafwyd
a'r prif faterion sy'n codi o'r ymarfer. Darparwyd
cyflwyniad gweledol manwl yn ymwneud â'r prif feysydd a amlinellwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Penderfynwyd: 1)
Y
bydd y materion a godwyd yn y sylwadau a wnaed yn ystod y broses ymgynghori, ac
ymatebion yr Awdurdod Cynllunio i'r rhain (a amlinellir yn Atodiad A a B i'r adroddiad hwn) yn cael eu nodi. 2)
Bod y
fersiwn derfynol y CCA (sydd wedi'i atodi yn Atodiad C a D i'r adroddiad) yn
cael ei chymeradwyo a'i mabwysiadu; 3)
Y
bydd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog priodol a ddirprwyir,
yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau argraffyddol, gramadegol,
cyflwyniadol neu ffeithiol i'r fersiwn derfynol a fabwysiadwyd o'r CCA cyn
iddynt gael eu cyhoeddi'n derfynol. |
|
Mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol: Coed, Gwrychoedd a Choetiroedd. PDF 352 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Aelodau o’r
sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar fersiynau drafft
o'r ddogfen Coed, Gwrychoedd a Choetiroedd, a thynnodd sylw at ymatebion
swyddogion i'r rhain, a gofynnodd am gymeradwyaeth i fabwysiadu'r fersiwn
ddiwygiedig yn ffurfiol fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA). Amlinellwyd
cefndir a chyd-destun yr adroddiad, yn ogystal â’r ymgynghoriad a gynhaliwyd
â’r cyhoedd a rhanddeiliaid, yr ymatebion a gafwyd
a'r prif faterion sy'n codi o'r ymarfer. Darparwyd
cyflwyniad gweledol manwl yn ymwneud â'r prif feysydd a amlinellwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Penderfynwyd: 1)
Y
bydd y materion a godwyd yn y sylwadau a wnaed yn ystod y broses ymgynghori, ac
ymatebion yr Awdurdod Cynllunio i'r rhain (a amlinellir yn Atodiad A a B i'r adroddiad hwn) yn cael eu nodi; 2)
Y
bydd fersiwn derfynol y CCA (a atodir yn Atodiad A i'r adroddiad hwn) yn cael
ei chymeradwyo a'i mabwysiadu gan y cyngor; Y bydd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog priodol a ddirprwyir, yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau argraffyddol, gramadegol, cyflwyniadol neu ffeithiol i'r fersiwn derfynol o'r CCA cyn iddynt gael eu cyhoeddi'n derfynol |