Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd M H Jones – Eitem 1 (2022/0249/FUL)
- Personol a rhagfarnol, a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth. Y Cynghorydd C Richards – Eitem 2
(2021/1820/FUL) – Personol. Y Cynghorwyr P Downing a P Lloyd – Eitem 3
(2018/2629/FUL) – Personol. Y Cynghorydd K Griffiths – Eitem 4 (2021/3019/FUL) – Personol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd M H
Jones - Eitem 1 (2022/0249/FUL) (Eitem 0249) – Personol a rhagfarnol, a
gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth. Y Cynghorydd C
Richards – Eitem 2 (2021/1820/FUL) – Personol. Y Cynghorwyr P
Downing a P Lloyd – Eitem 3 (2018/2629/FUL) – Personol. Y Cynghorydd K
Griffiths – Eitem 4 (2021/3019/FUL) – Personol. 69
Cofnodion |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd y dylid cymeradwyo Cofnodion y
cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 1 a 22 Chwefror a 2022 Mawrth 2021 a'u llofnodi fel
cofnodion cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: (3) – 2018/2629/FUL - Deferred Cofnodion: Penderfynwyd gohirio'r cais canlynol tan gyfarfod
nesaf y pwyllgor: (Eitem 3) –
Cais Cynllunio 2018/2629/FUL - Adeiladu 56 o anheddau ag isadeiledd
cysylltiedig (Cynigion diwygiedig) ar dir oddi ar Coed Bach Road,
Pontarddulais, Abertawe Rheswm: Rhoi
cyfle i'r ymgeisydd gyflwyno cynlluniau diwygiedig mewn ymgais i oresgyn y
rhesymau a argymhellwyd dros wrthod. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1) – 2022/0249/FUL - Cymeradwywyd (2) –2021/1820/FUL - Cymeradwywyd (4) –2021/3019/FUL - Cymeradwywyd (5) –2021/3149/FUL - Cymeradwywyd (6) –2020/2151/FUL - Cymeradwywyd (7) – 2021/2011/FUL - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio
isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod: (Eitem 1) –
Cais Cynllunio 2022/0249/FUL - Datblygiad preswyl (hyd at 101 o unedau) gyda
mynediad i gerbydau o Aneurin Way a mynediad i
feiciau/lwybr troed o Parkway, gyda gwanhau draeniad;
tirlunio/isadeiledd gwyrdd a gwaith cysylltiedig ar dir a oedd yn rhan o Ysgol
yr Olchfa, Aneurin Way, Sgeti, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd Phil
Baxter (asiant) y pwyllgor. Anerchodd Noel
Edwards a Phil Thompson (gwrthwynebwyr) y pwyllgor. Anerchodd y
Cynghorwyr C L Philpott ac A M Day (Aelodau Lleol) y pwyllgor gan siarad yn erbyn
y cais. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Roedd y 47 o lythyrau gwrthwynebu hwyr ychwanegol yn ailadrodd y sylwadau
presennol i raddau helaeth ond roeddent gwneud y sylwadau canlynol yn
gyffredinol: 1) Mae 101 eiddo’n ormodol ar gyfer darn mor fach o dir, a bydd yn debygol
o gynyddu sŵn. aflonyddwch yn yr ardal ac mae mannau gwyrdd a darpariaeth barcio’n
gyfyngedig. 2) 200+ o geir a cherbydau ychwanegol, ymwelwyr, masnachwyr (HGV a
cherbydau gwaith yn ystod y gwaith adeiladu) yn mynd i mewn drwy fynedfa fach,
sengl gyda mynediad gwael i'r brif ffordd, ar ran o Aneurin Way
sydd eisoes yn brysur a lle ceir tagfeydd yn barod. 3) Mae mynedfa'r safle gyferbyn â pharcio stryd preswyl, heb fawr o le i
droi. ar y cyd â thwmpathau cyflymder lletchwith a gwelededd gwael oherwydd
parcio ar ochr y ffordd. 4) byddai'r safle bws/coets/cilfach barcio ar gyfer casglu/gollwng myfyrwyr
yn mynd yn gyfan gwbl ac ni chynigir unrhyw ddewis
arall ymarferol ar hyn o bryd, 5) Nid yw'r cynlluniau'n glir o ran a fydd mynedfa Aneurin Way yr ysgol yn aros ar agor. O ystyried ei fod yn agos at y datblygiad, byddai aros ar agor yn creu
problemau diogelu i fyfyrwyr wrth ymyl safle adeiladu datblygiad tai prysur.
Byddai ei chau yn gwthio'r mater o ollwng a chasglu myfyrwyr i'r ddwy gât ysgol
arall sydd eisoes yn brysur iawn ar Parkway a Gower Road, a'u strydoedd cyfagos. 6) Mae angen y caeau chwarae hyn ar blant ysgol, sy'n cael eu defnyddio ar
hyn o bryd, felly nid yw’n dir ‘nad oes ei angen’ o gwbl. Ar ôl ei werthu a'i
ddatblygu, bydd y man gwyrdd hwn wedi'i golli am byth i'r myfyrwyr, y gymuned
a'r bywyd gwyllt sy'n ei ddefnyddio. 7) Effaith amgylcheddol - colli mannau gwyrdd, effaith ar ansawdd aer o
ryddhau carbon sy'n cael ei ddal yn y glaswellt ar hyn o bryd, colli fflora, ffawna a chynefin bywyd
gwyllt. Problemau draenio a charthffosiaeth sylweddol a fydd yn debygol o
effeithio ar dai cyfagos ac yn peri risg o lifogydd pellach yn Nyffryn Clun. 8) Mae 101 eiddo yn golygu o leiaf 350-400 o breswylwyr newydd y mae angen
i bob un ohonynt gael mynediad at feddygon teulu, deintyddion, ysgolion (mae
gormod o alw am leoedd yn ysgolion cynradd yr Olchfa a Parkland
fel y mae), ffyrdd ac amwynderau eraill; cyfleusterau sydd eisoes dan straen ac
yn yr ardal hon. Argymhelliad Diwygiedig Ar hyn o bryd, y cyngor sy'n berchen ar safle'r cais, ac ni all y cyngor
gyfamodi ag ef ei hun mewn cytundeb Adran 106 ar dir y mae’n berchen arno.
Nodir bod y gwerthiant tir yn amodol ar gael caniatâd cynllunio, a chaiff ei
gwblhau ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi yn unig. Ar hyn o bryd, mae'r argymhelliad yn amodol ar gwblhau Adran 106 mewn
perthynas â thai fforddiadwy a chyfraniad ariannol tuag at Addysg. Mae canllawiau
cynllunio’n amlinellu na ddylai fod angen trosglwyddo taliadau drwy amod ac
felly, fel ffordd ymlaen, argymhellir y dylid cynnwys amod ychwanegol yn y
caniatâd cynllunio yn hytrach na'r gofyniad i lofnodi Rhwymedigaeth Gynllunio
Adran 106 cyn rhoi caniatâd cynllunio. Effaith hyn fydd sicrhau'r
rhwymedigaethau angenrheidiol gan na all unrhyw ddatblygiad ddechrau hyd nes y
bydd rhwymedigaeth gynllunio wedi'i chwblhau. Y cyngor sy'n berchen ar y tir ar
hyn o bryd ond nid yw'n bwriadu datblygu'r tir ei hun. Mae caniatâd cynllunio’n
berthnasol i'r tir felly unwaith nad oes gan y cyngor fudd cyfreithiol yn y
safle, yna bydd yn gallu cyfamodi â'r datblygwr i sicrhau'r rhwymedigaethau
drwy gytundeb Adran 106. Nid yw'n arfer a fyddai'n cael ei ddefnyddio mewn
perthynas â thir nad yw'n eiddo i'r cyngor a chaiff ei awgrymu’n unig yma i
bontio bwlch afreolaidd yn y ddeddfwriaeth gynllunio sy'n effeithio ar
awdurdodau unedol yn unig. Amodau ychwanegol: 22. Ni fydd y datblygiad yn dechrau nes bod pawb sydd â budd yn y tir sy'n
cynnwys y datblygiad wedi cytuno i ymrwymo i rwymedigaeth gynllunio gyda'r
awdurdod cynllunio lleol o dan Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Bydd y rhwymedigaeth yn gofyn am: •35% o dai fforddiadwy ar y safle, yn unol â Pholisi’r CDLl
sy'n cynnwys darparu 35 o unedau tai fforddiadwy. Bydd angen i'r unedau tai
fforddiadwy gydymffurfio â Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru (GADC) (neu
gyfwerth), a'u darparu yn y cymysgedd o feintiau/fathau o eiddo a deiliadaethau
fforddiadwy fel y nodir yn y cais. Bydd dyluniad a manyleb y tai fforddiadwy
fod o safon sy'n gyfartal â'r rhai a ddefnyddir yn yr Unedau Marchnad Agored. •Cyfraniad Addysg o: i) £377,500.00 mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Parkland; ii) £466,528 mewn
perthynas ag Ysgol Gyfun Olchfa; Rheswm: Sicrhau bod y datblygiad yn cyfrannu at ddarparu tai fforddiadwy a
chyfleusterau addysg hanfodol yn unol â pholisïau H3 ac SI3 Cynllun Datblygu
Lleol Abertawe 2010-2025. 23 Ymgymerir â’r datblygiad yn unol ag argymhellion y Strategaeth Ynni a
Chynaliadwyedd a gyflwynir a bydd y mesurau'n cael eu hymgorffori cyn i unrhyw Rheswm: Er budd
cynaliadwyedd a lleihau dibyniaeth ar ynni tanwydd ffosil. (Eitem 2) –
Cais Cynllunio 2021/1820/FUL - Datblygiad preswyl o 98 o anheddau sy'n cynnwys
37 o anheddau fforddiadwy a 61 o anheddau preifat gyda mynediad, tirlunio a
draenio cysylltiedig, a gwaith cysylltiedig ar dir i'r De-orllewin o Fferm
Beili Glas, Casllwchwr, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Anerchodd Phil
Baxter (asiant) y pwyllgor. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd C Richards (Aelod Lleol) a'r Cynghorydd R V Smith
(Aelod Ward gyffiniol) ac amlinellwyd eu gwrthwynebiadau i'r cynllun
arfaethedig. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Dywedwyd wrth y
pwyllgor fod Swyddogion Addysg wedi cadarnhau mai Tre Uchaf yw'r ysgol gynradd
ddalgylch. Mae asiant yr ymgeisydd wedi gofyn am ddiwygio'r 'pwyntiau sbarduno' sy'n ymwneud
â nifer o'r amodau cynllunio a argymhellir. Ystyrir bod y rhan fwyaf o'r
gwelliannau y gofynnwyd amdanynt yn dderbyniol. O ganlyniad i hyn, mae'r
fersiwn ddiwygiedig o'r amodau hyn fel a ganlyn; 13. Er y manylion a ddangosir ar y darluniau a gyflwynwyd, bydd Cynllun
Plannu Tirwedd diwygiedig (sy'n cynnwys plannu Isadeiledd Gwyrdd diwygiedig ar
lefel y stryd) yn cael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i
gymeradwyo'n ysgrifenedig, cyn i’r gwaith gychwyn ar yr aradeiledd uwchben y
ddaear. Bydd yr holl waith plannu, hau neu osod glaswellt a ddangosir yn y
Cynllun Plannu Tirwedd cymeradwy yn cael ei wneud yn y tymhorau plannu a hau
cyntaf ar ôl cwblhau'r datblygiad. Bydd y cynllun tirlunio wedi'i gwblhau’n cael ei reoli a/neu ei gynnal yn
unol â chynllun rheoli a/neu gynnal cymeradwy i'w gyflwyno i'r Awdurdod
Cynllunio Lleol a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig cyn i'r gwaith datblygu ddechrau. Caiff planhigion o faint a rhywogaeth debyg eu plannu yn ystod y tymor
plannu nesaf lle bydd unrhyw goed neu blanhigion yn marw, yn cael eu symud
neu'n cael eu difrodi'n ddifrifol neu'n afiach o fewn 5 mlynedd o gwblhau'r
datblygiad. Rheswm: Er lles amwynder gweledol a phreswyl ac er lles cynnal cynllun
tirlunio addas er mwyn amddiffyn amwynderau gweledol yr ardal, i gynnal
rhinweddau arbennig y dirwedd a'r cynefinoedd trwy amddiffyn, creu a gwella
cysylltiadau rhwng safleoedd a'u hamddiffyn am eu gwerth o ran amwynderau,
tirwedd a bioamrywiaeth. 14. Er y manylion a ddangosir ar y lluniadau a gyflwynwyd, bydd manylion
diwygiedig gwaith tirlunio caled a meddal (ac eithrio gwaith plannu
arfaethedig) yn cael eu cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo'n
ysgrifenedig, cyn i’r gwaith gychwyn ar yr aradeiledd uwchben y ddaear. Bydd y
manylion hyn yn cynnwys: i) datganiad yn nodi'r amcanion dylunio a sut y caiff y rhain eu cyflawni; ii) cloddwaith sy'n dangos
y lefelau neu’r cyfuchlinau gorffenedig presennol ac arfaethedig; iii) dulliau amgáu a chynnal adeileddau; iv) mynedfeydd eraill i gerbydau a cherddwyr a mannau
lle gallant fynd o gwmpas; v) deunyddiau arwynebu caled; vi) mân arteffactau ac adeileddau (e.e. celfi, offer
chwarae, unedau sbwriel neu unedau storio eraill, arwyddion, etc.), ac vii) unrhyw nodweddion dŵr. Bydd y gwaith tirlunio cymeradwy’n cael ei wneud yn y tymhorau plannu a
hadu cyntaf ar ôl cwblhau'r datblygiad. Bydd y cynllun tirlunio wedi'i gwblhau’n cael ei reoli a/neu ei gynnal yn
unol â chynllun rheoli a/neu gynnal cymeradwy i'w gyflwyno i'r Awdurdod
Cynllunio Lleol a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig cyn i'r gwaith strwythuro uwchben
y ddaear ddechrau. Rheswm: Er mwyn diogelu amwynder gweledol. 15. Ni fydd unrhyw waith datblygu sy'n ymwneud â'r orsaf bwmpio arfaethedig
yn dechrau, hyd nes y bydd manylion llawn yr orsaf bwmpio arfaethedig (gan
gynnwys manylion y driniaeth ffin sy'n amgáu'r orsaf bwmpio) yn cael eu
cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig. Bydd y
datblygiad wedi hynny yn cael ei gynnal yn llawn yn unol â'r manylion y
cymeradwywyd: Rheswm: Er budd amwynder gweledol. (Sylwer) Cymeradwywyd y
cais yn unol â‘r argymhelliad ac yn amodol ar gytundeb A106 ar yr amod na dderbynnir
unrhyw wrthwynebiadau ychwanegol sy'n codi materion nad ystyriwyd yn flaenorol
cyn 11 Ebrill, ac yn amodol ar y cywiriadau/diwygiadau canlynol i'r amodau a
gofynion A106: Gofynion A106 wedi'u
cywiro: Newid "£35,000 tuag at Groesfan TUCAN ar Brynllwchwr
Road" i "£35,000 tuag at Groesfan TWCAN ar Glebe
Road" (Eitem 4) –
Cais Cynllunio 2021/3019/FUL - Cyswllt llwybr troed/beicio arfaethedig a rennir
rhwng Pentre Road a Tidal Reach
gan gynnwys ffensys diogelwch a gwaith cysylltiedig ar Drac Rheilffordd Segur
yn Pentre Road, Pontarddulais, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd y
Cynghorydd K Griffiths (Aelod Lleol) y pwyllgor ac amlinellodd ei bryderon
ynghylch y cais. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Mae Polisi RP 5 hefyd yn berthnasol a bydd angen caniatâd ar wahân ar gyfer
unrhyw newidiadau i'r hawl dramwy gyhoeddus. Yn ogystal, dywedodd y tîm Mynediad i Gefn Gwlad
hefyd fod y cynnig yn effeithio ar hawliau tramwy cyhoeddus Llwchwr 9 a 10 (LC
9 a LC10) ac y byddai angen ymgynghori â hwy ar newidiadau arfaethedig i'r
llwybrau cyn i unrhyw waith ddigwydd. Nid yw'r ychwanegiadau hyn yn newid yr
argymhelliad. (Eitem 5) –
Cais Cynllunio 2021/3149/FUL - Adeiladu cynllun amddiffyn rhag llifogydd
arfordirol ar hyd y morglawdd/gwrthglawdd presennol, gan gynnwys gwaith i'r
promenâd i ganiatáu ehangu llwybr troed/llwybr beicio, gwelliannau i fannau
cyhoeddus gan gynnwys tirlunio caled/meddal a rhesymoli parcio ceir ym
Mhromenâd y Mwmbwls a'r Morglawdd, y Mwmbwls, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. (Eitem 6) –
Cais Cynllunio 2020/2151/FUL - Newid defnydd siop llawr gwaelod (Dosbarth A1) i
Fwyty (Dosbarth A3), blaen siop newydd, gosod drws cefn, grisiau allanol, ffliw
allanol a chadw blaen siop yn 136-137 Woodfield Street, Treforys, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Mae'r disgrifiad o'r datblygiad yn anghywir yn
Adroddiad y Pwyllgor. Mae'r cais wedi'i ddiwygio ac mae bellach ar gyfer blaen
siop newydd ac nid i gadw blaen y siop a gaiff ei ddileu o'r disgrifiad. Fel y nodwyd yn Adroddiad y Pwyllgor, mae'r cais
wedi'i hysbysebu fel cais gwyro ac mae'r cyfnod ymgynghori diweddaredig
yn dod i ben heddiw. Ni chafwyd unrhyw sylwadau pellach ers cwblhau'r
adroddiad. Cafodd y cynlluniau llawr a gyflwynwyd eu hepgor ar
gam o Amod 2 ac maent yn wahanol i'r gweddluniau diwygiedig o ran lleoliad y
drysau. Byddant yn cael eu cynnwys ynghyd ag eglurhad yn hyn o beth. (Eitem 7) – Cais Cynllunio 2021/2011/FUL -
Estyniad cefn deulawr, tynnu simnai ac ychwanegu chwe ffenestrdo
yn y cefn, grisiau allanol cefn a mân newidiadau allanol i'r safle presennol i
greu pedair ystafell wely a wasanaethir a darparu dau bod gwersylla moethus y
tu ôl i'r eiddo yn Dolphin Inn,
Mill Lane, Llanrhidian, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. |