Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2022 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: 2020/0434/FUL - Gohiriedig Cofnodion: Adroddodd y Rheolwr Datblygu nad arddangoswyd hysbysiadau safle priodol
mewn perthynas ag Eitem 1 (2020/0434/FUL) ac argymhellwyd bod y pwyllgor yn
gohirio'r mater er mwyn i'r cyhoedd gael y cyfle i fod yn bresennol a
chyflwyno'u barn am y cais. Penderfynwyd gohirio'r cais isod er mwyn caniatáu i'r
hysbysiadau safle priodol gael eu harddangos. (Eitem 1) -
Cais Cynllunio 2020/0434/FUL - Adeiladu 9 annedd newydd gyda mynediad, garejys,
parcio a mannau agored cysylltiedig, addasu The Poplars
yn 2 uned breswyl, addasu adeilad stabl yn 1 uned breswyl, dymchwel adeilad
porthdy a gwaith cysylltiedig yn The Poplars,
Pontlliw, Abertawe |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 2021/2822/RES - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cais
cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Penderfynwyd
cymeradwyo'r cais
cynllunio y cyfeirir ato isod am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad. (Eitem 2) - Cais Cynllunio 2021/2822/RES - cynnig
i roi terfyn ar dirlenwi a gweithrediadau eraill, gan alluogi datblygiad
preswyl o oddeutu 300 annedd, man cyhoeddus agored, a gwaith priffordd ac
ategol arall (Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer diwygiadau i leiniau 139,
144-151, 154 a 156-158. Darparu anheddau ar leiniau 152 a 153 a diwygio’r pen
troi o fewn cam 3 gan gynnwys manylion mynediad o fewn ac o amgylch y
datblygiad, golwg, cynllun, gmaint a thirlunio yn
unol â chaniatâd cynllunio amlinellol 2014/0977 a roddwyd ar apêl ar 11 Ionawr
2018 ac a amrywiwyd gan 2020/2068/S73 a roddwyd ar 1 Medi 2021) yn
Cwmrhydyceirw Quarry Co Ltd, Teras Great Western Terrace,
Cwmrhydyceirw, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. |