Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas
a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad canlynol: Y Cynghorydd M B Lewis – Cais
Cynllunio 2021/2219/FUL (I 2) – Personol Y Cynghorydd P Lloyd - Cais Cynllunio 2021/1431/FUL (Eitem
3) & 2018/1683/FUL (Eitem 4) - Personol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd M B
Lewis – Cais Cynllunio 2021/2219/FUL (Eitem 2) – Personol Y Cynghorydd P Lloyd
- Ceisiadau Cynllunio 2021/1431/FUL (Eitem 3) a 2018/1683/FUL (Eitem 4) -
Personol |
|||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 11 a 18 Ionawr fel cofnod cywir. |
|||||
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|||||
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1 –2021/2718/S73 - Cymeradwywyd 2 –2021/2219/FUL - Cymeradwywyd 3 – 2021/1431/FUL –
Cymeradwywyd 4 –2018/1683/FUL - Gwrthodwyd 5 – 2021/1571/S73 - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer: Dosbarthwyd
yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r
Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod) Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio y
cyfeirir atynt isod 1)
yn
amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod: (Eitem 1) – Cais Cynllunio 2021/2718/S73 -
Amrywiad ar amod 1 caniatâd materion a gadwyd yn ôl 2018/1894/RES a roddwyd i
ganiatáu cyflwyno cynlluniau diwygiedig mewn perthynas â Lleiniau 3, 4, 5-13,
16, 17, 92 a 93 yng Nglofa Cefn Gorwydd gynt, Gorwydd Road, Tre-gŵyr,
Abertawe. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn:
(Eitem 2) –
Cais Cynllunio 2021/2219/FUL - Newid defnydd o fanwerthu (Dosbarth A1) i salon
ewinedd (Dosbarth A2) a chadw caeadau rholer i'r blaen a'r ochr yn 40 Woodfield
Street, Treforys, Abertawe. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd Andrea Lewis (aelod lleol) a siaradodd o blaid y
cais. Roedd y Pwyllgor, wrth nodi cynnwys y CCA o'r enw
'Canllaw Dylunio Blaenau Siopau a Thu Blaenau Masnachol', o'r farn bod y cynnig
yn cydymffurfio â'r gofyniad statudol i gadw neu wella Ardal Gadwraeth Treforys
ac nad oedd yn niweidiol i amwynder gweledol yr eiddo, y strydlun yn
gyffredinol ac Ardal Gadwraeth ehangach Treforys. Nid ystyriwyd bod y cynnig yn
groes i bolisïau PS2, HC1 a HC2 CDLl Abertawe (2010-25). Cymeradwywyd y cais
yn groes i argymhelliad y swyddog ac yn amodol ar yr amodau canlynol: Rhaid ymgymryd â'r datblygiad yn unol â'r
cynlluniau a'r dogfennau cymeradwy canlynol: 01 cynlluniau lleoliad safle a bloc, derbyniwyd 28
Medi 2021. 03 REV B cynlluniau arfaethedig, 04 REV B
gweddluniau presennol ac arfaethedig, 05 REV caead rholer arfaethedig,
derbyniwyd 19 Tachwedd 2021. Rheswm: I osgoi amheuaeth a sicrhau cydymffurfio
â'r cynlluniau a gymeradwywyd. Ni fydd y defnydd a gymeradwyir drwy hyn yn
gweithredu, ac ni chaniateir unrhyw gwsmeriaid ar y safle, y tu allan i'r oriau
canlynol: 09.00 i 18.30 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn Ni fydd y defnydd cymeradwy yn gweithredu ac ni
chaniateir unrhyw gwsmeriaid ar y safle ar ddydd Sul na Gwyliau Banc. Rheswm: Diogelu amwynderau preswylwyr cyfagos a
sicrhau bod y defnydd a gymeradwyir drwy hyn yn weithredol yn ystod y dydd. (Eitem 3) –
Cais Cynllunio 2021/1431/FUL - Estyniad i weithdy i gynnwys ardal ar gyfer
gwasanaethu a chynnal a chadw cerbydau masnachol ynghyd ag ystafell beiriannau
ar gyfer boeler a ffliw biomas yn Uned 11 Swansea Truck Centre, St Davids Road,
Parc Menter Abertawe, Abertawe. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn:
(Eitem 5) – Cais Cynllunio 2021/1571/S73 - Cadw
estyniad cefn deulawr, ychwanegu balconi blaen llawr cyntaf, newidiadau i'r
ffenestriad, ychwanegu talcen blaen at y to, mynediad newydd i gerbydau,
dymchwel modurdy ar wahân, tynnu'r cyntedd blaen, adeiladu garej ochr atodedig
a ffens derfyn ochr - Amrywiad ar amod 1 caniatâd cynllunio 2020/0071/FUL a
roddwyd ar 14 Gorffennaf 2020 i ganiatáu ar gyfer diwygiadau sy'n cynnwys
cynnydd yn uchder y garej, newid ffenestriad, cyntedd blaen, mynediad newydd,
llawr caled, wal a darparu estyniad ochr unllawr (ystafell beiriannau) yn 41A
Beaufort Avenue, Langland, Abertawe. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan Charlotte Roberts (gwrthwynebydd) a siaradodd yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr
adroddiad ar lafar fel a ganlyn: Adroddwyd am
lythyr gwrthwynebiad hwyr a llythyr hwyr gan yr asiant. 2)
Ei wrthod
am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad: (Eitem 4) –
Cais Cynllunio 2018/1683/FUL - Datblygiad preswyl arfaethedig (cymuned ymddeoliad)
sy'n cynnwys 70 o fflatiau ynghyd ag arwynebedd llawr masnachol hyblyg (A1-A3
neu D1-D2), adeilad cymunedol (D1) a swyddfeydd (B1) gyda mynediad, parcio,
tirlunio a datblygiad cysylltiedig yng Nghartref Gofal Hengoed Park, Cefn
Hengoed Road, Winsh-wen, Abertawe. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd Geraint
John (asiant) y pwyllgor gan siarad o blaid y cais. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd Mandy Evans (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y
cais. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Mae Ecolegydd y cyngor wedi cwblhau prawf Effaith
Sylweddol Debygol ac Asesiad Priodol dilynol (Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd) o
ystyried agosrwydd Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Cors Crymlyn. Daw'r asesiad i'r casgliad nad yw'r datblygiad
arfaethedig yn debygol o gael effaith sylweddol ar ACA Cors Crymlyn gan nad
yw'r cynnig yn debygol o danseilio amcanion cadwraeth y safle, ar yr amod bod y
Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu a'r strategaeth ddraenio a gyflwynwyd yn
cael eu rhoi ar waith ac y cedwir atynt drwy gydol holl gamau'r prosiect. Yn ogystal, mae'r cais wedi'i sgrinio a
phenderfynwyd nad oes angen Asesiad Effaith Amgylcheddol ar y datblygiad o
ystyried ei natur a'i raddfa. Mae gwall ar t.93
o'r adroddiad a dylid fod wedi dileu brawddeg olaf y paragraff cyntaf (Ynni
Adnewyddadwy a Charbon Isel). Nid yw diffyg Datganiad Ynni yn rheswm dros
wrthod |