Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo Cofnodion y Pwyllgorau
Cynllunio a gynhaliwyd ar 22 Hydref a 2 Tachwedd 2021 a'u llofnodi fel
cofnodion cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Cofrestru Tir Comin - Cais i gywiro'r Gofrestr Tiroedd Comin (Cais rhif. 002/19) PDF 259 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfreithiwr Arweiniol ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r
Ddinas adroddiad a oedd yn nodi bod cais wedi'i dderbyn i ddiwygio'r Gofrestr
Tir Comin i gywiro camgymeriad honedig lle mae'r hawliau sy'n gysylltiedig â
Fferm Tyle Coch yn ymarferadwy dros uned gofrestr
CL74 ond eu bod wedi'u cofnodi fel rhai sy'n ymarferadwy
dros CL45. Amlinellwyd manylion cefndir a hanes y mater a manylwyd
arnynt yn yr adroddiad gan Swyddogion. Amlinellwyd y rhestr o gyrff yr ymgynghorwyd â hwy
ynglŷn â'r cais a manylwyd arnynt yn yr adroddiad, yn ogystal â'r
ymatebion a gafwyd. Adroddodd y Cadeirydd nad oedd y
Cynghorydd B J Rowlands (Aelod Lleol) yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod
ond ei fod wedi cyflwyno e-bost yn cefnogi'r cais. Penderfynwyd derbyn y cais a bod y diwygiadau angenrheidiol yn
cael eu gwneud i'r Gofrestr Tir Comin i gofnodi'r hawliau fel rhai sy'n ymarferadwy dros uned gofrestr CL74. |
|
Y Diweddaraf am TAN 15. Penderfyniad: Er gwybodaeth Cofnodion: Rhoddodd y
Rheolwr Datblygu'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r pwyllgor am benderfyniad
diweddar Llywodraeth Cymru i ohirio TAN 15 tan fis Mehefin 2023. Amlinellodd y
byddai unrhyw geisiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod hwnnw’n cael eu trin o
dan weithdrefnau TAN presennol. Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhoi i'r
pwyllgor pan gânt eu derbyn oddi wrth Lywodraeth Cymru. Yn dilyn
cwestiynau gan Aelodau, byddai copïau o'r mapiau llifogydd TAN newydd
arfaethedig a'u goblygiadau ar y safleoedd datblygu lleol a'r safleoedd
strategol yn arbennig yn cael eu dosbarthu i aelodau'r pwyllgor yn dilyn y
cyfarfod. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1) 2021/0787/FUL - Cymeradwywyd (2) –2021/2490/RES - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn
unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod: (Eitem 1) –
Cais Cynllunio 2021/0787/FUL - Dymchwel uned fanwerthu bresennol ac adeiladu
archfarchnad, lle parcio ceir, tirlunio a gwaith cysylltiedig yn Poundstretcher, Gorseinon Road, Penlle'r-gaer , Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Siaradodd y
Cynghorydd Wendy Fitzgerald (Aelod Lleol) o blaid y cais. Cymeradwywyd y
cais yn amodol ar gytundeb Adran 106. (Eitem 2) – Cais Cynllunio 2021/2490/RES - Cynnig
i roi'r gorau i weithrediadau tirlenwi a
gweithrediadau eraill a alluogir gan ddatblygiad preswyl â thua 300 o anheddau,
man agored cyhoeddus, priffordd gysylltiedig a gwaith ategol (Manylion
tirlunio’n unol â chaniatâd cynllunio amlinellol 2014/0977 a roddwyd ar apêl ar
11 Ionawr 2018) ar gyfer camau 3 (73 annedd) a 4 (36 annedd) ym Mharc Ceirw, Great Western Terrace,
Cwmrhydyceirw, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. |
|
Tir yn New Cut Road/Morfa Road, Abertawe - 2007/2826. PDF 379 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn gofyn
am ystyriaeth i amrywio Rhwymedigaeth Gynllunio Adran 106 ar gyfer y
"Cyfraniad Ardal Chwarae i Blant" i'w defnyddio tuag at ddarparu neu
wella cyfleusterau presennol oddi ar y safle mewn mannau eraill yn yr ardal
leol. Amlinellwyd
cefndir a chyd-destun yr adroddiad, yn ogystal â'r hanes cynllunio manwl ar y
safle, yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r polisïau cynllunio
perthnasol sy'n berthnasol i'r mater hwn. Siaradodd y
Cynghorydd Bev Hopkins (Aelod Lleol) o blaid y cynigion. Penderfynwyd diwygio Rhwymedigaeth Gynllunio Adran 106
drwy Weithred Amrywio i ddatgan y dylid defnyddio'r cyfraniad tuag at ddarparu
neu wella cyfleusterau oddi ar y safle presennol mewn mannau eraill yn yr ardal
leol yn unol â Pholisi SI 6 Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 2010-2025. |