Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorwyr C
Anderson, P M Black, W Evans, M H Jones, M B Lewis, R D Lewis, P Lloyd, C
Richards, P B Smith, D W W Thomas a T M White –
Personol – Eitem 4 – Cais Cynllunio 2020/116/106 – mae'r ymgeisydd yn
gyd-gynghorydd. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd
Pwyllgorau Cynllunio a gynhaliwyd ar 1 a 6 Hydref 2020 fel cofnodion cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. 1)
Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio y cyfeirir atynt isod yn amodol ar yr
amodau yn yr adroddiad. (Eitem 1) –
Cais Cynllunio 2020/0097/FUL - Adeiladu llety myfyrwyr pwrpasol uchel iawn â
328 gwely gyda gwaith parcio, mynediad a seilwaith cysylltiedig ar dir i’r
gogledd o Jockey Street,
Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl. Anerchodd Matthew Gray (asiant) y Pwyllgor a siaradodd o blaid y cynigion. Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb Adran 106. (Eitem 2) – Cais Cynllunio 2019/2882/S73 -
Datblygiad preswyl sy'n cynnwys 70 o dai annedd gyda ffyrdd a lle agored
cysylltiedig, (manylion golwg, tirlunio, cynllun a maint y datblygiad gan
gynnwys lefelau arfaethedig o ganiatâd cynllunio ar gyfer pob tŷ annedd
2006/0650 fel y'i hamrywir gan 2011/0329 a 2013/0425) ar dir ym Mryn Hawddgar,
Clydach, Abertawe (Amrywiad ar amod 1 caniatâd cynllunio 2018/1279/RES a
roddwyd ar 6 Rhagfyr 2018 i ddiwygio'r cynlluniau cymeradwy ar Dir ym Mryn
Hawddgar, Clydach, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchodd Phil Baxter (asiant) y Pwyllgor a siaradodd o blaid y cynigion. Anerchodd y Cynghorydd P B Smith (Aelod Lleol) y Pwyllgor a siaradodd o
blaid pryderon y preswylwyr lleol ynghylch problemau draenio posib sy'n deillio
o'r safle. (Eitem 3) –
Cais Cynllunio 2020/1818/FUL - Dormer blaen, estyniad i dalcen cefn y to,
cyntedd blaen, ail-doi prif ran yr annedd, gosod ffenestri to, ychwanegiadau at
y ffenestriad ac addasiadau iddo , estyniad i'r dramwyfa01810, y sied gefn a’r storfa feiciau
yn 19 Manselfield Road, Murton, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. (Eitem 4) –
Cais Cynllunio 2020/1169/106 - Ffermdy newydd (Addasu cymal 4a a 4b o gytundeb
A52 ar ganiatâd cynllunio 2/2/88/0046/03 a roddwyd ar 28 Ebrill 1989) a rhoi
cyfyngiad annedd menter wledig TAN6 yn ei le yn llain 6717 Ochr Ogleddol
Ffermdy Llannant, Llannant
Road, Gorseinon, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb Adran 106. |