Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

68.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd C R Evans gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod Rhif 71 – Cais Cynllunio – 2020/0108/FUL – tir i'r gogledd o Rodfa Fadog, Cwmrhydyceirw, Abertawe SA4 6LQ a gadawodd y cyfarfod ar ôl gwneud datganiad personol ynghylch y cais.

69.

Cofnodion: pdf eicon PDF 336 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2020 fel cofnod cywir.

70.

Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

71.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

                                 

Penderfynwyd:  -

 

1)    CYMERADWYO'R cais cynllunio y cyfeirir ato isod yn unol ag argymhelliad yn amodol ar GYTUNDEB A106 a'r amodau diwygiedig fel y'u nodir ar y daflen ddiweddaru.

 

(Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod #)

 

# (Eitem 1) - Cais Cynllunio 2020/0108/FUL - Dymchwel yr adeilad sydd eisoes yn bodoli ar y safle ac adeiladu datblygiad preswyl sy'n cynnwys 29 o unedau fforddiadwy (gan gynnwys 7 tŷ a 22 fflat), 3 uned manwerthu, lleoedd parcio, tirlunio a gwaith atodol cysylltiedig ar dir i'r gogledd o Rodfa Fadog, Cwmrhydyceirw, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor am:

 

  • Un llythyr gwrthwynebu ychwanegol-copi wedi'i atodi i'r daflen newyddion.

 

·       I resymoli'r amodau, mae amodau 4 a 6 wedi'u cyfuno, fel y mae amodau 10 a 15. Er mwyn hwyluso'r broses o ddymchwel yr adeilad presennol ar y safle, diwygiwyd y sbardunau ar gyfer yr amodau cyn cychwyn. Atodwyd rhestr lawn o'r amodau diwygiedig i'r daflen ddiweddaru.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Geraint John (Geraint John Planning) (asiant) a siaradodd o blaid y cynigion.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorydd C R Evans (Aelod Lleol) a amlinellodd ei wrthwynebiad personol i'r datblygiad arfaethedig.

 

2) Cymeradwyo'r cais cynllunio isod yn amodol ar yr

      amodau yn yr adroddiad.

 

(Eitem 2) – Cais Cynllunio 2020/0257/FUL – gosod parc solar 9MW, sy'n cynnwys hyd at 25,000 o baneli ffotofoltäig, 9 chaban mewnol/trawsnewid, adeilad rheoli sengl a gwaith cysylltiedig ar Fferm Felin Wen, Rhydypandy Road, Treforys, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl.

72.

Cais Cynllunio 2019/1342/FU L2 - The Bryn, Sgeti, Abertawe. pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu gwybodaeth am benderfyniad apêl yr Arolygiaeth Gynllunio i roi caniatâd mewn perthynas â  Chais Cynllunio Cyf: 2019/1342/FUL - 2 The Bryn, Sgeti, Abertawe - dymchwel yr annedd presennol ac adeiladu 1 byngalo ar wahân a 2 annedd ar wahân.