Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

62.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

63.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 455 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

                                 

Penderfynwyd  

 

1)  cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir ato isod am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad/isod:

 

(Sylwer: Cafodd y diweddariadau i'r adroddiad y cyfeirir ato isod eu dosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor, yr asiant a'r Aelod Lleol a'u cyhoeddi ar wefan y cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod)

 

# (Eitem 1) – Cais Cynllunio 2018/2697/OUT - Tir i'r de o'r A4240, Parc Mawr, Penllergaer, Abertawe.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl a chynhwysfawr.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Adroddwyd am lythyr a anfonwyd yn hwyr oddi wrth y Cynghorydd E W Fitzgerald at y Prif Weithredwr yn gofyn i ohirio'r cais hwn er mwyn caniatáu i'r Aelodau ymweld â'r safle a galluogi aelodau'r cyhoedd i annerch y Pwyllgor yn bersonol.

 

Ymateb Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas yn amlinellu’r

 

3 llythyr gwrthwynebiad ychwanegol a anfonwyd yn hwyr.

 

Adroddwyd am becyn briffio/gwybodaeth a anfonwyd yn hwyr gan yr ymgeisydd sy’n ymwneud â'r safle.

 

Adroddwyd am lythyr gwrthwynebu hwyr a phecyn gwybodaeth gan Gyngor Cymuned Penllergaer.

 

Mae Gweinidogion Cymru wedi derbyn cais 'galw i mewn' ar gyfer y cais hwn sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd ac maent wedi cyhoeddi cyfarwyddyd sy’n atal yr awdurdod rhag rhoi caniatâd ar gyfer y datblygiad hwn heb awdurdodiad ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru. Mae'r cyfarwyddyd yn atal y cyngor rhag rhoi caniatâd cynllunio yn unig; nid yw'n rhwystro'r cyngor rhag parhau i brosesu neu ymgynghori ar y cais neu benderfynu cymeradwyo'r cais. Nid yw'n rhwystro'r cyngor rhag gwrthod rhoi caniatâd cynllunio ychwaith. Mae'r Gweinidogion yn ceisio penderfynu ar geisiadau galw i mewn o fewn 21 diwrnod i dderbyn yr adroddiad a anfonwyd cyn gynted ag y cwblhawyd yr agenda

 

Mae paragraff olaf adran 7.8 ar dudalen 119 yn nodi bod y safle yn safle a ddyrennir. Dylid egluro bod safle'r cais hefyd yn cynnwys tir o fewn y lletem las (polisi ER 3) ac ardal gwarchod y tirlun (ER 5). Yn gyffredinol, mae'r parseli datblygu arfaethedig, fel y'u nodir yn yr uwch gynllun darluniadol, yn osgoi dynodiadau diogelu'r lletem las/y dirwedd, a byddent yn amodol ar geisiadau a gadwyd yn ôl i ystyried y manylion/cynllun yn y cyfnod dilynol. Fodd bynnag, byddai ffordd gyswllt yr A484 a llwybr teithio llesol 14 yn rhedeg drwy'r ddau ddynodiad hyn. Mae polisïau ER 3 ac ER 5 yn ceisio diogelu natur agored y lletem las a sicrhau nad yw cynigion yn cael effaith andwyol sylweddol ar gymeriad ac ansawdd tirwedd y sir. I ddechrau, mae'r cysylltiadau hyn yn ofynion hanfodol ac annatod o ddyrannu safleoedd a derbynnir y byddai'r isadeiledd hwn yn rhedeg drwy'r ardaloedd hyn fel y dangosir yn y cynllun cysyniad. Yn ogystal, ni ystyrir y byddai'r cynigion yn effeithio ar natur agored y lletem las nac yn cael effaith andwyol sylweddol ar gymeriad ac ansawdd y dirwedd. Byddai'r ffordd yn destun cais am faterion a gadwyd yn ôl yn y dyfodol a byddai angen tirlunio er mwyn darparu sgrinio ychwanegol ond, mewn egwyddor, ystyrir bod cynnwys yr isadeiledd trafnidiaeth leol yn dderbyniol. Mae polisi CV2 Datblygu yng Nghefn gwlad yn caniatáu datblygu darpariaeth isadeiledd angenrheidiol, megis isadeiledd trafnidiaeth gofynnol, ar yr amod y caiff uniondeb y cefn gwlad ei warchod a'i wella.

 

Atodir crynodeb o bolisïau ER 3 a CV 2 yn Atodiad A ynghyd â darn o'r CDLl.

 

Mae gwall ar dudalen 100 yr adroddiad gan fod un gwrthwynebiad ychwanegol wedi ei anfon ymlaen oddi wrth yr asiant ar gyfer y cais. Ni chodwyd unrhyw faterion newydd ond dylai adran 6, paragraff 3 ddarllen "8" gwrthwynebiad.

 

Mae gwall ar dudalen 119 yr adroddiad. Dylai adran 7.9, paragraff 1 ddarllen "dibwys" yn hytrach na "darllenadwy".

 

Mae gwall ar dudalen 123 yr adroddiad ym mharagraff 3 a ddylai ddatgan y byddai 3 LEAP (Ardal Chwarae Leol â Chyfarpar) yn cael eu darparu ar y safle yn hytrach na 2. Byddai LEAP ychwanegol yn agos at y NEAP (Cymdogaeth Addas ar gyfer Chwarae) er mwyn darparu gwell ardal chwarae.

 

Holodd Ecolegydd y cyngor ynghylch lleoliad y 62 o flychau ystlumod ac adar a gynigiwyd yng ngham 1A (fel y nodwyd yn y strategaeth isadeiledd glas gwyrdd) a nodwyd ar dudalen 156, paragraff 2. Nodir 40 ohonynt ar gynllun tirwedd cam 1A ond nid yw'r rhain yn cael eu hystyried yn ddigonol gan yr Ecolegydd a bydd amodau 15 a 65 yn cael eu diweddaru i adlewyrchu hyn.

 

Mae angen un diwygiad yn yr adran Rhwymedigaethau Cynllunio (7.27), yn y pwynt bwled cyntaf – byddai'r tai fforddiadwy yn cael eu gwerthu naill ai drwy landlord cymdeithasol cofrestredig (LCC) neu'r cyngor. Hepgorwyd yr eitem olaf yn y drafft.

 

Amodau a Nodiadau Cyngor:

 

11) Byddai amod 15 (Cynllun Rheoli Tirwedd ac Ecolegol) yn cael ei ddiwygio i gynnwys y canlynol (ychwanegu mewn llythrennau italig i gael eglurhad):

 

·       Manylion llawn y gwelliannau ecolegol o fewn pob cyfnod (gan gynnwys lleoliad 62 o flychau adar ac ystlumod yng ngham 1A er mwyn osgoi amheuaeth)

 

12) Byddai amod 47 (Strategaeth Gwefru ULEV) yn cael ei newid o'r canlynol:

 

"Strategaeth Gwefru Cerbydau Isel Iawn"

i:

"Strategaeth Gwefru Cerbydau Allyriadau Isel Iawn"

 

13) Diwygio amod 65 (cam 1A Gweithredu Tirlunio) o'r canlynol:

... Bydd y manylion hefyd yn cynnwys gweithredu'r gwelliannau ecolegol ar gyfer am 1A fel y nodwyd ar y Cynllun Tirwedd Meddal (cam 1A – coed yn unig) (Darluniad rhif 1565704-SBC-00-XX-DR-L-001 Rev PL05) ...

i:

          ... Bydd y manylion hefyd yn cynnwys rhoi'r gwelliannau ecolegol ar gyfer cam 1A ar waith fel y'u cymeradwywyd yn y Cynllun Rheoli Tirwedd ac Ecolegol ar gyfer y cyfnod hwn

          sy'n ofynnol yn ôl amod 15.

 

14) Ychwanegu nodyn cyngor ynghylch trafodaethau am iechyd yn y dyfodol, fel y nodwyd ar dudalen 171.

 

15) Caiff y nodyn cyngor ynghylch polisïau'r CDLl ei ddiweddaru i gyfeirio at

Bolisïau CV2 ac ER3.

 

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Pete Sulley (asiant) a siaradodd o blaid y cais.

 

Anerchodd y Cynghorydd E W Fitzgerald (Aelod Lleol) y Pwyllgor a siaradodd yn erbyn y datblygiad arfaethedig ac amlinellodd unwaith eto ei chais a'i chefnogaeth ar gyfer cais preswylwyr i ohirio'r mater nes y gellir cynnal ymweliad â'r safle a nes y bydd aelodau'r cyhoedd yn gallu annerch y Pwyllgor.

 

Ar ôl gweld cyflwyniad gweledol helaeth y swyddogion, ni wnaed unrhyw gynnig ar gyfer ymweliad â'r safle gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gadarnhad gan Lywodraeth Cymru nad ydynt yn bwriadu galw'r cais i mewn, a thrwy hynny gael gwared ar eu Hysbysiad Gohirio, ac yn amodol ar yr adran amodau a rhwymedigaethau cynllunio diwygiedig uchod.