Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y cysylltiadau canlynol: Y Cynghorydd P
Lloyd – Eitem 4 ar yr agenda - Canllawiau Cynllunio Atodol Newydd: Canllaw
Dylunio AHNE Gŵyr - Diwygiedig
(drafft ymgynghori) – personol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn rhoi
crynodeb i'r Pwyllgor o’r Canllaw Dylunio AHoNE
Gŵyr diwygiedig ac amlinellodd fersiwn newydd o'r Canllaw Dylunio y bwriedir
iddo ddisodli'r fersiwn bresennol, a cheisiodd gymeradwyaeth yr Aelodau i
gynnal ymarfer ymgynghori eang â'r cyhoedd a rhanddeiliaid
ar y ddogfen arfaethedig. Rhoddodd swyddogion gyflwyniad gweledol manwl a chynhwysfawr i'r Pwyllgor
ar y ddogfen ddiwygiedig a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol: ·
Cyflwyniad
a'r rhesymau dros y ddogfen ddiwygiedig; ·
Newidiadau
a diweddariadau yn y fframwaith cynllunio, Polisi Cynllunio Cymru a chyngor
technegol ers i'r ddogfen gychwynnol gael ei mabwysiadu; ·
Mabwysiadu'r
Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn 2019; ·
Cefndir
a chyd-destun y newidiadau arfaethedig; ·
Pwysau
datblygu ym Mhenrhyn Gŵyr; ·
Nodau
ac amcanion y polisi diwygiedig; ·
Prif
newidiadau sylweddol i’r ddogfen newydd gan gynnwys hysbysebion a hysbysebu, canllawiau ar gyfer sialés
preswyl a goleuadau awyr dywyll; ·
Materion
a Heriau Allweddol Yn dilyn y
cyflwyniad helaeth, gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor gwestiynau ynghylch y CCA
diwygiedig, ac ymatebodd y swyddogion yn unol â hynny. Amlinellodd a
manylodd y swyddogion yr amserlenni arfaethedig ar gyfer yr ymarfer ymgynghori
a fyddai'n cynnwys sylw yn y wasg, negeseuon e-bost wedi'u targedu, gwefan,
arolygon, holiaduron a chyfeirion nhw at y posibilrwydd o gyfarfodydd a
digwyddiadau wyneb-yn-wyneb y byddai'n rhaid iddynt fod yn unol ag unrhyw
reoliadau COVID-19. Penderfynwyd y dylid cymeradwyo'r CCA drafft (fel sydd
wedi’u hatodi yn Atodiad A yr adroddiad) at ddibenion ymgynghori â'r cyhoedd ac
ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn
rhoi crynodeb i'r Pwyllgor o ddwy ddogfen Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) drafft
newydd a oedd yn ymwneud â Datblygu a Bioamrywiaeth Coed, Coetiroedd a
Gwrychoedd a cheisiodd gymeradwyaeth yr aelodau i gynnal ymgynghoriad â'r
cyhoedd a rhanddeiliaid ar y ddwy ddogfen. Rhoddodd swyddogion gyflwyniad gweledol manwl a chynhwysfawr i'r Pwyllgor
unwaith eto ar y ddwy ddogfen ddiwygiedig a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol: ·
Cyflwyniad
a'r rhesymau dros y dogfennau diwygiedig; ·
Cefndir
a chyd-destun y newidiadau arfaethedig; ·
Newidiadau
eang i'r fframwaith deddfwriaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf; ·
Ymrwymiadau
corfforaethol i natur a bioamrywiaeth; ·
Treftadaeth
naturiol a natur unigryw Gŵyr; ·
Mae
80% o ardal Cyngor Abertawe yn amgylchedd naturiol; ·
Prif
ddibenion y CCA a'r ymagwedd ddilyniannol at bedwar prif nod y dogfennau; ·
Agwedd
cam wrth gam at fioamrywiaeth; ·
Ymwybyddiaeth
y cyhoedd o bwysigrwydd coed a'u heffaith ar yr amgylchedd; ·
Prif
newidiadau sylweddol i'r ddwy ddogfen newydd ; ·
Nodau
ac amcanion y polisïau diwygiedig; ·
Materion
a Heriau Allweddol Anerchwyd y
Pwyllgor gan y Cynghorydd P K Jones (Hyrwyddwr y Cyngor dros yr Amgylchedd) a
siaradodd o blaid y cynigion yn gyffredinol a nododd y byddai'r Panel Craffu ar
yr Amgylchedd Naturiol a gadeiriwyd ganddo yn adolygu'r ddwy ddogfen
ddiwygiedig ac yn cymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori. Unwaith eto, yn
dilyn y cyflwyniad helaeth, gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor amryw o gwestiynau
ynghylch y ddau CCA diwygiedig, ac ymatebodd y swyddogion yn unol â hynny. Unwaith eto,
amlinellodd y swyddogion y terfynau amser arfaethedig ar gyfer yr ymarfer
ymgynghori a fyddai'n debyg i'r rhai a amlinellwyd yn yr eitem flaenorol. Penderfynwyd y dylid cymeradwyo'r ddau CCA drafft (fel
sydd wedi’u hatodi yn Atodiad A-C yr adroddiad) at ddibenion ymgynghori â'r
cyhoedd ac ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid. |