Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Cais i Ohirio Cyfarfod. Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i gyfarfod y Pwyllgor Archwilio i’w gynnal
dan Reoliadau Coronafeirws (Cymru) 2020. Dywedodd Huw
Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, fod problem TGCh dros y penwythnos
wedi arwain at dorri cysylltiad y gweinydd â Modern.gov (meddalwedd agenda'r
awdurdod). Roedd hyn yn golygu nad oedd agenda'r Pwyllgor Cynllunio ar gael i
aelodau'r pwyllgor na'r cyhoedd ei gweld ar we-dudalennau'r awdurdod o 01/08/20
nes i'r cyfarfod gychwyn. Felly, nid
oedd yr awdurdod wedi cydymffurfio â'r gofynion mynediad at wybodaeth a
dywedodd y dylid gohirio'r cyfarfod. Cynigwyd
gohirio'r cyfarfod tan ddydd Gwener, 7 Awst 2020 am 10.00am. Penderfynwyd gohirio'r cyfarfod tan ddydd Gwener, 7 Awst 2020 am 10.00am. |