Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

39.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

 

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddion canlynol.

 

Datganodd y Cynghorydd P M Black gysylltiad personol a rhagfarnol ag Eitem 4 – Cais Cynllunio 2018/2692/FUL, a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth.

 

Datganodd y Cynghorydd M H Jones gysylltiad personol a rhagfarnol ag Eitem 4 – Cais Cynllunio 2018/1342/FUL, a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth.

 

Datganodd y Cynghorydd P Lloyd gysylltiad personol ag Eitem 4 – Cais Cynllunio 2018/2692/FUL.

 

40.

Cofnodion. pdf eicon PDF 169 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2019 fel cofnod cywir.

 

41.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

42.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

                                      

Penderfynwyd  

 

Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio y cyfeirir atynt isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad:

 

#(Eitem 1) – Cais Cynllunio 2019/2144/RES - Adeiladu 144 o anheddau preswyl a gwaith cysylltiedig (Cais Materion a Gadwyd yn Ôl yn dilyn 2019/0911/S73 a roddwyd ar 13 Medi 2019 a'r caniatâd amlinellol 2005/2355 a roddwyd ar 23 Ebrill 2010) ar dir i'r gorllewin o Heol Gower View ac i'r gogledd o Heol Brynafon, Penyrheol, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Rhianydd Jenkins ac Elfed Roberts (ymgeiswyr)

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Cyflwynwyd llythyr pellach gan y cwmni sy'n gweithredu ar ran y preswylwyr. Mynegwyd

y rhan fwyaf o'r pryderon hyn o'r blaen er eu bod wedi darparu dadansoddiad manylach o'r

broses hyd yma. Mae'r rhan fwyaf o'r materion hynwedi'u cynnwys yn yr adroddiad ond mae'r

materion hyn yn newydd:

 

Dengys y cynlluniau ddraen tir 225mm Ø ar hyd ffin ogleddol yr eiddo presennol i Ffordd y

Coegylfinir.

 

Sylwer: Mae cyfrifiadau a chanfyddiadau peirianwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cadarnhau

y byddai draen 225mm Ø yn gwbl annigonol i ymdrin â dŵr wyneb topograffigol sy'n ffoi ynghyd

â materion dŵr/ffynhonnau sy'n deillio o'r problemau a dalgylch Ffawt Gwili a synclin Gorseinon

i'r dwyrain o'r datblygiad presennol 2012/1113, yr eir i'r afael â nhw yn COMP2015/0130.

·         Nid yw'r darluniau Trefniad Cyffredinol yn cymryd sylw o'r problemau dŵr/ffynhonnau

na'r gwaith dylunio cynlluniedig a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru,

nac yn darparu ar eu cyfer.

 

Sylw

Mae'r ymgeisydd yn ymwybodol o'r problemau draenio ar y safle ac yn prynu'r tir oddi wrth

Lywodraeth Cymru. Mae awdurdod draenio'r cyngor hefyd yn ymwybodol o'r sefyllfa.

Ni chodwyd y problemau hyn yng ngham A73 pan ystyriwyd yr egwyddor. Fodd bynnag, ar sail

yr wybodaeth yr oedd y cyngor y ymwybodol ohoni, roedd cais A73 yn cynnwys amodau draenio

(nid yw'r rhain yn cael eu cyflawni fel rhan o'r cais hwn). Byddai angen cymeradwyaeth Corff

Cymeradwyo SuDS hefyd, sef y brif ddeddfwriaeth yn hyn o beth, i ddraenio'r dŵr wyneb

 o'r safle ond hefyd ei reoli drwy amod o ganiatâd A73.

 

Darparwyd cynllun safle parcio ddydd Gwener 29 Tachwedd ynghyd â Chynllun Tirlunio Meddal

diwygiedig. Mae'r un blaenorol wedi arwain at osod teras o 3 eiddo (lleiniau 33 i 35) ychydig yn

ôl. Nid oes problemau'n codi yn y safle o ganlyniad i hyn ond bydd angen diweddaru'r holl gyfres

o ddogfennau fel eu bod yn cyd-fynd â'i gilydd. 

 

Mae'r Swyddog Coedyddiaeth (Tirwedd) yn fodlon bod y diwygiadaun mynd i'r afael â'r

pryderon a godwyd, gyda rhywogaethau mwy priodol yn cael eu cynnwys ynghyd â choed

ffrwythau traddodiadol ar gyfer cyfleoedd chwilio am fwyd.

 

Nid oes gan yr ecolegydd unrhyw wrthwynebiadau i'r cynllun na'r cynnig tirlunio.

Nid oes gan yr Awdurdod Priffyrdd ragor o sylwadau am barcio.

 

O ganlyniad i'r newidiadau a nodwyd uchod, bydd angen diweddaru Amod 1 i adlewyrchu'r

cynlluniau diwygiedig y mae eu hangen.

 

Mae Amod 2 wedi'i ddiweddaru hefyd i gyfeirio at gynllun y Trefniad Parcio Ceir ynghyd â

chynnwys rhif y lluniad a’r dyddiad y derbyniwyd y cynllun.

 

 

Sylwer: Ni chyhoeddir y penderfyniad nes bod y cynlluniau diwygiedig yn cael eu derbyn ac amod 1 yn cael ei ddiweddaru.

 

 

 

 

#(Eitem 2) - Cais Cynllunio 2019/0502/RES - Adeiladu 121 o anheddau, lle agored ac isadeiledd ategol, (manylion golwg, tirlunio, cynllun a maint y datblygiad cam 2 yn unol â'r cais amlinellol 2014/0977 a roddwyd ar 11 Ionawr 2018) yn 'Cwmrhydyceirw Quarry Co Ltd', Teras Great Western, Cwmrhydyceirw, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Robert Lewis (gwrthwynebydd).

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Derbyniwyd un llythyr pellach yn ymwneud â phroblemau draenio a oedd yn ailadrodd pryderon a nodwyd mewn llythyr blaenorol.

 

Dyma'r amodau diwygiedig:

·         Amod 2 (Tirlunio)

·         Gwnaed rhywfaint o waith clirio eisoes yng ngham 2 felly dylid diwygio'r sbardun i "Ni fydd gwaith uwch-adeiledd yn dechrau..."

 

·         Amod 4 (Deunyddiau)

·         Nodir manylion y deunyddiau ar y cynlluniau cymeradwy felly nid yw'r amod hwn yn ofynnol. Gellir dileu'r amod ac ail-rifo'r lleill yn unol â hyn.

 

 

#(Eitem 4) – Cais Cynllunio 2018/2692/FUL - Cadw a chwblhau datblygiad ar gyfer 107 o anheddau preswyl a'r isadeiledd cysylltiedig ar dir yn Upper Bank Pentrechwyth, Ffordd Nantong, Pentrechwyth, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Dylid diwygio amod 18 i ddarllen:

18. Ni chaniateir datblygiad pellach nes bod cynllun lliniariad amgylcheddol hanesyddol ysgrifenedig wedi'i gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i gymeradwyo ganddo'n ysgrifenedig. Ar ôl hynny, cynhelir y rhaglen waith yn unol â gofynion a safonau'r cynllun ysgrifenedig.

 

Dywedwyd wrth y pwyllgor y cyrhaeddwyd cytundeb ar ddaliadaeth y tai fforddiadwy. Byddai'r tai hyn yn rhai perchnogaeth cost isel.

 

 

#(Eitem 5) - Cais Cynllunio 2018/2720/FUL - Dymchwel  yr adeiladau presennol ar y safle ac ailddatblygu'r safle i ddarparu 60 o unedau preswyl a fydd yn cynnwys 6 annedd ar wahân, 21 pâr o anheddau pâr a 12 o fflatiau mewn  3  bloc deulawr gyda mynediad, parcio, a thirlunio cysylltiedig, gorsaf bwmpio a gwaith ategol ar dir yn at Land Fferm Tyrisha, Pengelli, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y cyfarfod gan Geraint John (asiant).

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Derbyniwyd llythyr pellach oddi wrth wrthwynebydd sy'n datgan fel a ganlyn:

1.    1. Mae'r safle'n cael ei amgáu â mwg yn rheolaidd, gyda thân mawr o leiaf bob blwyddyn. Ni fydd y rheini a fydd yn byw yn yr eiddo'n ymwybodol o'r tanau hyn na chael eu hamgáu gan fwg, a gofynnwn i'r pwyllgor ystyried a fydden nhw eu hunain yn rhoi eu teulu mewn eiddo yn y fath leoliad.

2.    2. Mae mynedfa'r safle yn amlwg yn anniogel ac nid diogelwch neu symudiadau cerddwyr yw ystyriaeth gyntaf y dyluniad fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Teithio Llesol Cymru. Gofynnaf i'r pwyllgor ystyried sut bydd plentyn yn symud yn ddiogel o'r ardal chwarae neu'r safle i'r lôn/llwybr troed cyffredin. Noder y darnau canlynol o'r Ddeddf:

a.9.3.16 a 9.3.20 - Nid ystyrir bod cysylltiadau Teithio Llesol yn ddewisol, ac nid ddylid cymeradwyo  datblygiadau nad ydynt yn darparu ar gyfer cerdded,

a.        b.9.4.1 noder nad yw cynlluniau sy'n canolbwyntio ar

briffyrdd bellach yn dderbyniol o dan y Ddeddf.

b.        c. Hefyd mae 9.3.8 yn nodi pwysigrwydd caffael tir er mwyn adeiladu priffordd newydd, a'i bod yn hanfodol sefydlu digon o dir tir i gynnwys llwybrau troed o led a math addas.

c.         ch. Mae'n ofynnol yn ôl y ddeddf i ddilyn dyluniad dau lwybr troed.

 

cid:image003.jpg@01D5A96B.BA486880

 

3. Roedd y CDLl yn nodi'r glir ei bod hi'n ofyniad hanfodol i'r safle gael ei gysylltu â'r Hawl Tramwy Cyhoeddus gerllaw, ac nid ydyw.

 

4. Dylai'r pwyllgor nodi nad oes modd torri'r berth ar law dde'r fynedfa yn ôl fel y cynigiwyd i ffurfio llain welededd gan nad yw ar dir y datblygwr.

5. Gofynnaf i'r pwyllgor ystyried y rhag-amod y byddai cymeradwyo'r safle hwn yn ei adael. Er bod y

datblygwr eisoes wedi ehangu'r safle sawl gwaith o'r hyn a gynhwyswyd yn wreiddiol yn y CDLl a'r tu hwnt, darparodd y datblygwr ymatebion anwir i gwestiynau yn y CDLl gan gynnwys o ran stribed pridwerth i osgoi craffu ar y broblem, er gwaethaf y ffaith nad oedd y cynigion gwreiddiol erioed yn gyflawniadwy. Mae derbyn cynnig cynllunio sy'n seiliedig ar gamgyfleadau gwreiddiol yn nodi bod datblygwyr yn cael rhwydd hynt o ran y broses gynllunio ac y gall datblygwyr ddefnyddio'r broses er mantais bersonol.
 Mae hefyd yn cadarnhau, yn groes i'r llu o bolisïau cynllunio a deddfwriaethau cenedlaethol, y gall datblygwyr rhoi mwy o bwyslais ar symudiadau traffig na symudiadau cerddwyr mewn datblygiadau preswyl.

 

Sylw swyddog: Mae'r gwrthwynebydd wedi cyflwyno copi o ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth sy'n nodi y bu 18 o danau gwyllt ar dir ers mis Ebrill 2009. Gellir dangos ffotograff o dân a gyflwynwyd gyda'r arsylwadau os hoffai'r pwyllgor ei weld. Aed i'r afael â phroblemau mynediad yn yr adroddiad. O ran yr Hawl Tramwy Cyhoeddus, mae'r safle yn cysylltu â'r Hawl Tramwy Cyhoeddus wrth y fynedfa i'r safle. 

 

Mae'r Swyddog Draenio wedi cadarnhau nad oes ganddynt wrthwynebiadau yn amodol ar amodau draenio safonol.

 

Ar ddiwedd yr argymhelliad, dylid ychwanegu'r canlynol:

Os na lofnodir cytundeb adran 106 o fewn 3 mis i Weinidogion Cymru'n tynnu'r cyfeiriad dal yn ôl, gellir darparu pwerau dirprwyedig i Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas i wrthod caniatâd cynllunio ar y sail y byddai'r cynnig yn methu cyd-fynd â Pholisïau H3 y CDLl (Tai Fforddiadwy ar y safle), S13 (Cyfleusterau Addysg), T1 (Mesurau Trafnidiaeth ac Isadeiledd) ac IO1 (Cefnogi Isadeiledd).

 

O ystyried pryderon dros ddraeniad, argymhellir diwygio Amod 3 i ddarllen fel a ganlyn (gyda'r testun diwygiedig mewn llythrennau italig):

 

Cyn cychwyn y datblygiad, a heb ystyried y manylion a ddangosir ar y llun o'r cynllun draenio a gynigiwyd, 110 P11, cyflwynir manylion llawn y trefniadau draenio dŵr wyneb i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, a'u cymeradwyo ganddo'n ysgrifenedig. Bydd hyn yn cynnwys:

 - Manylion llawn cyfrifoldeb am fonitro a rheoli'r basn am oes y datblygiad;

- Manylion llawn manylebau cynllunio yn y basn gwanhau dŵr wyneb

- cynllun bioddiogelwch i helpu i leihau'r perygl o gyflwyno/lledaenu unrhyw rywogaethau anfrodorol ymledol wrth blannu'r basn gwanhau ar gyfer SuDS. Bydd y cynllun yn cynnwys manylion cyflenwr/wyr a/neu ffynhonnell y planhigion.

 

Caiff y basn gwanhau ei gwblhau'n unol â'r manylion cymeradwy cyn i ddigon o breswylwyr ddechrau byw yn unrhyw un o'r anheddau a ganiateir drwy hyn a'u cadw am oes y datblygiad.

 

Caiff y basn gwanhau ei reoli, ei fonitro a'i adolygu 2 flynedd ar ôl ei greu, a chyflwynir adroddiad cryno i'r ACLl a fydd yn amlinellu llwyddiannau/methiannau ac unrhyw angen pellach am blannu plygiau fel yn 4.6 a 4.7 yr Adroddiad Technegol Ecolegol a'r amserlenni ar gyfer hyn. Caiff unrhyw waith ychwanegol ei wneud wedi hynny yn unol â'r amserlen gytunedig.

 

Ni chaniateir i ddŵr wyneb a/neu ddraeniad tir gysylltu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â'r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus oni bai y dangoswyd nad oes unrhyw opsiynau eraill ar gael.

 

Rheswm: Sicrhau ffordd foddhaol a chynaliadwy o ddraenio dŵr wyneb i atal risg gynyddol o lifogydd, hybu bioamrywiaeth a sicrhau y gellir cynnal a chadw'r nodweddion hyn yn y dyfodol.

 

(Sylwer: Cafodd y pwyllgor egwyl o 5 munud am 4.20pm, yn dilyn y penderfyniad ar eitem 5)

 

#(Eitem 6) Cais Cynllunio 2018/2168/OUT - Adeiladu hyd at 20 o anheddau, ffordd fynediad newydd a phont newydd (amlinellol) ar dir oddi ar Felin Frân, Felin Frân, Llansamlet, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Os na lofnodir cytundeb adran 106 o fewn 3 mis o ddyddiad penderfyniad y pwyllgor, darperir pwerau dirprwyedig i Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas wrthod caniatâd cynllunio ar y sail y byddai'r cynnig yn methu cyd-fynd â Pholisïau H3 y CDLl (Tai Fforddiadwy ar y safle), S13 (Cyfleusterau Addysg), T1 (Mesurau Trafnidiaeth ac Isadeiledd).

 

 

2) GWRTHOD y cais cynllunio isod am y rhesymau a amlinellir isod:

 

#(Eitem 3) – Cais Cynllunio 2019/1342/FUL - Dymchwel yr annedd bresennol ac adeiladu 1 byngalo ar wahân a 2 annedd ar wahân yn Rhif 2 , Y Bryn, Sgeti, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Eleanor Sullivan (asiant) ac Alyson Downing a Bernard Cairns (gwrthwynebwyr).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr A M Day a C L Philpott a oedd wedi siarad o blaid gwrthwynebiadau'r preswylydd.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

   Ar 2 Rhagfyr 2019, tynnodd perchennog/preswylydd rhif 6

   Harford Court ei wrthwynebiad i'r datblygiad

   yn ei ôl y datblygiad yn ei ôl.

Cymeradwyo

 

Amod Rhif 5 a nodir ar dudalen 76 i'w ddiwygio i ddarllen fel a ganlyn:

5. Er y manylion cyflwynedig a nodwyd ar Gynllun Safle TB/18/100 Cyf F, ni chaniateir unrhyw ddatblygiad nes bod manylion llawn y mynediad, troi, parcio a'r lleiniau gwelededd ar gyfer pob annedd wedi'u cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo ganddo'n ysgrifenedig. Bydd y manylion yn darparu ar gyfer cadw amlenni gwelededd yn rhydd o gaeadleoedd neu ddalfeydd ac eithrio'r coed hynny i'w cadw, darparu manylion llawn y deunydd wynebu caled a fydd yn fandyllog a manylion yr ardaloedd i'w dynodi'n fannau parcio a throi sy'n gysylltiedig â phob annedd.

 
Ni wneir unrhyw waith adeiladu ar y safle nes bydd y mynedfeydd newydd wedi'u darparu ar y safle yn unol â'r manylion cymeradwy. Bydd y datblygiad ar ôl hynny'n cael ei godi'n unol â'r manylion cymeradwy, a chedwir yr ardaloedd parcio at ddibenion parcio a chedwir lleiniau gwelededd yn rhydd o gaeadleoedd a dalfeydd am byth.

Hysbyswyd aelodau ar lafar yr awgrymir ychwanegu amod ychwanegol at yr adroddiad, yn dilyn ymweliadau safle gan aelodau, er mwyn darparu ar gyfer manylion llawn triniaethau ffin ledled y safle.

 

Gwrthodwyd y cais yn groes i argymhellion y swyddog am y rhesymau canlynol:

Ni fyddai'r byngalo arfaethedig yn rhinwedd ei leoliad, ei faint, ei ffurf a'i ddyluniad cynlluniedig yn parchu cymeriad a golwg yr ardal leol ac yn niweidiol amwynderau gweledol y strydlun a chyd-destun y safle amgylchynol, yn groes i bolisi PS2 Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (a fabwysiadwyd ym mis Chwefror 2019) a Canllaw Dylunio Mewnlenwi a Chefnwlad (CCA) yr awdurdod.

 

 

 

43.

Canllawiau Cynllunio Atodol - Tai Amlfeddiannaeth a Llety Pwrpasol i Fyfyrwyr pdf eicon PDF 281 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol adroddiad a oedd yn  hysbysu Aelodau o'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y fersiwn ddrafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA), a thynnodd sylw at ymatebion swyddogion i'r rhain. Nododd y diwygiadau canlyniadol arfaethedig i'r ddogfen a cheisiodd benderfyniad i fabwysiadu'r fersiwn derfynol yn ffurfiol.

 

Amlinellwyd cefndir a chyd-destun y cynigion, y polisïau a'r ddeddfwriaeth sydd ar waith, yr ymgynghoriad/ymgysylltu wedi'u cyflawni, a'r materion allweddol a oedd yn codi o'r ymgynghoriad yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd  

 

a)    Nodi sylwadau'r ymgynghoriad ac ymatebion yr Awdurdod Cynllunio i'r rhain (fel y'u hamlinellir yn Atodiad A yr adroddiad).

 

b)    Cymeradwyo a mabwysiadu fersiwn derfynol y CCA (fel y'u hamlinellir yn Atodiad B yr adroddiad).