Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

19.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

 

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorwyr C Anderson, M B Lewis, P Lloyd a T M White - Personol - Eitem 4(2019/0069/FUL) - Aelodau o'r Awdurdod Iechyd Porthladd.

 

20.

Cofnodion. pdf eicon PDF 345 KB

Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Awst 2019 fel cofnod cywir.

 

21.

Eitemau i'w Gohirio/Tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

22.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Penderfynwyd  

 

(1)            Cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir ato isod am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad:

 

(Eitem 1) - Cais Cynllunio - 2019/1557/FUL - Addasu annedd yn 2 fflat gyda newidiadau allanol yn 90 Heol Eaton, Brynhyfryd, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Noel West (gwrthwynebydd).

 

 

(Eitem 2) - Cais Cynllunio - 2019/1138/FUL - Adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd â 2.5 dosbarth mynediad sy'n cynnwys cyfleuster Dechrau'n Deg gan gynnwys meysydd chwarae, Ardal Gemau Amlddefnydd, cyfleusterau parcio/gollwng, a newidiadau drefniadau a symudiadau'r traffig sydd eisoes yn bodoli ar safle ehangach Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe a'r Ganolfan Hamdden Gymunedol ym Mhen-lan, Abertawe ar dir gerllaw Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Heol Gwyrosydd, Pen-lan, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

 

(Eitem 3) - Cais Cynllunio - 2019/1635/FUL - Newid defnydd o A1 (manwerthu) i uned gwerthu cerbydau modur (Sui Generis) gyda newidiadau allanol cysylltiedig ac addasu Is-adran 106 mewn perthynas â chaniatâd cynllunio 92/0865 dyddiedig 12 Ionawr 1993 er mwyn caniatáu gwerthu cerbydau modur a nwyddau ategol yn Uned 23 Heol Samlet, Parc Menter Abertawe, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar addasu a/neu gyflawni'r cytundeb cyfreithiol a atodir i ganiatâd cynllunio 92/0865 er mwyn caniatáu gwerthu cerbydau modur.

 

 

(Eitem 4) - Cais Cynllunio - 2019/0069/FUL - Cadw a chwblhau adeilad ar wahân at ddibenion dyframaeth gyda chaban a lle caeëdig cysylltiedig i gadw generadur ym mhlot yn Nhoc y Frenhines, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

 

(Eitem 5) - Cais Cynllunio - 2019/1543/S73 - Datblygiad preswyl sy'n cynnwys 91 o unedau mewn 1 bloc 4 llawr annibynnol gydag uned Dosbarth A3 (bwyd a diod) ar y llawr gwaelod ac 1 bloc rhannol 5 llawr, rhannol 6 llawr, rhannol 7 llawr, rhannol 8 llawr, rhannol 9 llawr, rhannol 11 llawr, gyda lle parcio ar yr islawr a gofynion tirlunio ac isadeiledd - cymeradwywyd cais Adran 73 is amrywio amod 1 o ganiatâd cynllunio 2006/0499 ar 10 Medi 2006 mewn perthynas ag adeiladu islawr ychwanegol (2 lefel), cynllun parcio diwygiedig a darpariaeth uned storio batrïau (gan gynnwys ardal mynediad) yn llain B3 Riverside Wharf, Glannau Abertawe, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

23.

Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Tai Amlbreswyl a Llety Myfyrwyr a Adeiladwyd at y Diben. pdf eicon PDF 488 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn ceisio darparu trosolwg i aelodau o'r Canllawiau Cynllunio Atodol drafft (SPG) mewn perthynas â Thai Amlfeddiannaeth a Llety Pwrpasol i Fyfyrwyr ac yn ceisio hawl i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y ddogfen ddrafft.

 

Amlinellwyd y trosolwg i'r cefndir, y cyd-destun cynllunio, crynodeb o'r prif gynigion ar gyfer newidiadau i'r Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth a Llety Pwrpasol i Fyfyrwyr, y broses ymgynghori a'r camau nesaf i'w cymryd yn fanwl i'r Pwyllgor. 

 

Siaradodd y Cynghorydd C E Lloyd (Aelod ward St Thomas) o blaid y cynigion.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r canllawiau cynllunio atodol fel y'u hamlinellir yn Atodiad A i'r adroddiad at ddibenion ymgynghoriad.

 

24.

Cyfeirnod Cais Cynllunio: 2018/1014/FUL Adeiladu 20 annedd ar wahân, garejis, mynedfeydd a gwaith tirlunio cysylltiedig a dymchwel 188 Stryd Teilo Sant, Pontarddulais, tir a adwaenid yn flaenorol fel The Gardens a'r tu ôl i 188 Stryd Teilo Sant, Pontarddulais. pdf eicon PDF 219 KB

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn ceisio awdurdod i ddiwygio gofynion arfaethedig cytundeb Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd) er mwyn dileu'r cyfraniad tai fforddiadwy.

 

Amlinellwyd y materion cefndir a'r hanes sy'n ymwneud â'r cais yn fanwl, yn enwedig y trafodaethau â'r ymgeisydd a'r asesiad dichonoldeb dilynol a gyflwynwyd ers cafodd y cais ei ystyried gan y Pwyllgor ym mis Mawrth 2019 sy'n dangos y byddai cynnwys y tai fforddiadwy yn ormod ar gyfer y safle.

 

Mae swyddogion wedi ystyried yr asesiad dichonoldeb ac wrth ystyried holl amgylchiadau'r achos, maent wedi cytuno i ddileu'r gofyniad i ddarparu tai fforddiadwy o'r cytundeb cyfreithiol arfaethedig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais cynllunio yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad blaenorol a naill ai:

·         bod yr ymgeisydd yn ymrwymo i gytundeb A106 (rhwymedigaeth cynllunio) i ddarparu'r cyfraniadau Priffyrdd ac Addysg cyfunol gwerth £124,776 yn unol â'r amserlenni canlynol yn unig:

            Gwerthu'r 6ed uned - £45,000

            Gwerthu'r 12fed uned - £45,000

            Gwerthu'r 18fed uned - £34,776; neu

·          bod yr ymgeisydd yn cyflwyno ymgymeriad unochrog er mwyn diogelu'r cyfraniadau hyn.