Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd C Anderson - Personol - Eitem 1(2018/2698/FUL) - Mae rhan o'r datblygiad yn fy ward.

 

Y Cynghorydd P Lloyd - Personol - Eitem 1(2018/2698/FUL) - Rwy'n adnabod un o'r siaradwyr.

 

Y Cynghorwyr M B Lewis, P Lloyd a T M White - Personol - Eitem 7(2019/0960/FUL) - Aelodau o'r Awdurdod Iechyd Porthladd.

15.

Cofnodion. pdf eicon PDF 105 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir.

16.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

(Eitem 6) - Cais Cynllunio 2016/1356 - Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff i'w Ailgylchu sy'n cynnwys peiriannau, cludwyr, adeiladau a mannau storio deunydd cludadwy/dros dro yn Iard Gwyn, 4 Stryd Teilo Sant, Pontarddulais, Abertawe

 

Tynnwyd y cais yn ôl gan yr ymgeisydd.

17.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

Penderfynwyd  

 

(1)            Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad ac/neu a nodir isod(#):

 

#(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2018/2698/FUL - Cais cynllunio hybrid ar gyfer ailddatblygu'r safle i ffurfio hyd at 160 o unedau preswyl ac 1 uned fanwerthu (Dosbarth A1) sy'n cynnwys caniatâd cynllunio llawn er mwyn dymchwel y rhan fwyaf o'r adeiladau, heblaw am y brif ran o'r adeilad a adeiladwyd ym 1912 (dymchwel yn rhannol) sydd am gael ei drawsnewid a'i ymestyn er mwyn creu 62 o fflatiau â mynediad cysylltiedig (o Heol Townhill a Heol Pantycelyn), parcio ar yr arwyneb ac o dan yr adeilad, gwaith tirlunio a mynediad ar draws y safle, gwaith draenio a pheirianneg er mwyn creu llwyfannau datblygu; Ceisir caniatâd cynllunio amlinellol i adeiladu hyd at 98 o unedau preswyl ac un uned fanwerthu (Dosbarth A1) â mynediad arwyddol/cynllun, paramedrau graddfa (2 i 3 llawr), â mynediad cysylltiedig, maes parcio a gwaith tirlunio - gwedd, cynllun a graddfa materion a gadwyd yn ôl ar Gampws Townhill, Heol Townhill, y Cocyd, Abertawe

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Georgina Hayman a John Sayce (preswylwyr sy'n cefnogi) a Phil Baxter (asiant).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr N J Davies, I E Mann a P N May (Aelodau Lleol) ac amlinellwyd eu cefnogaeth eang ar gyfer y cynllun, yn enwedig cadw'r adeilad a adeiladwyd ym 1912 a chynnal a chadw'r mynediad i gerddwyr/beicwyr trwy'r safle.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Diwygiad i dudalen 54:

Dileu'r frawddeg 'cyn i'r gwaith buddiol ddechrau ar y safle'.

 

Diwygiad i Amod 36 ar dudalen 61:

Dileu'r geiriau 'Cymeriad y Safle'

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gwblhau Adran 106 y Rhwymedigaeth Gynllunio.

 

 

#(Eitem 2) - Cais Cynllunio 2019/1373/RES - Cymeradwyo materion diwygiedig a gadwyd yn ôl (mynedfa, golwg, tirlunio, cynllun a maint) fel rhan o Gam 1 Abertawe Ganolog, gan gynnwys rhannau o: Ardaloedd Datblygu 1a, 3, 4a, 4c a 5 caniatâd cynllunio amlinellol 2017/0648/OUT fel y'i diwygiwyd (Cyf ACLl: 2019/0980/S73, yn unol ag amod 3, sy'n cynnwys manylion: yr ardaloedd gwasanaethu;  Bloc defnydd cymysg sy'n ymestyn i 36.5m, sy'n cynnwys maes parcio aml lawr, arwynebedd llawr masnachol newydd (dosbarth defnydd A1/A3/B1/D1) a fflatiau preswyl (dosbarth defnydd C3) i'r gogledd o Heol Ystumllwynarth; a gwelliannau cysylltiedig i fannau cyhoeddus lefel y ddaear; cymeradwyo manylion yn unol ag amod 6 (strategaeth tirlunio), amod 8 (lefelau), amod 9 (gorffeniadau allanol), amod 11 (lliniariad gwynt), amod 21 (draenio dŵr wyneb) ac amod 35 (mesuriadau gwelliannau ecolegol) yn hen Ganolfan Dewi Sant a thiroedd eraill i'r gogledd ac i'r de o Heol Ystumllwynarth, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Diwygiad i Amod 1 ar dudalen 94:

Dylid cyfeirio at luniad trefniant cyffredinol 'P04', Gweddlun Dwyrain Gorllewin' ac nid lluniad trefniant cyffredinol 'P034', Gweddlun Dwyrain Gorllewin.

 

Diwygiad i dudalen 76:

O'r 33 o unedau bydd 14 ohonynt yn unedau un ystafell wely i ddau berson a bydd 19 ohonynt yn unedau 2 ystafell wely i dri pherson

Yn lle:

O'r 33 o unedau bydd 15 ohonynt yn unedau un ystafell wely i ddau berson a bydd 18 ohonynt yn unedau 2 ystafell wely i dri pherson'

 

Bydd y cymysgedd hwn hefyd yn cydymffurfio â'r wybodaeth a gyflwynwyd ar gyfer amod 12 o'r caniatâd cynllunio amlinellol. Gellir cadarnhau bod elfen breswyl y cam hwn yn 100% tai fforddiadwy.

 

 

#(Eitem 3) Cais Cynllunio 2019/0500/FUL - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO 4 ystafell wely i 3 pherson (Dosbarth C4) yn 15 Stryd Middleton, St Thomas, Abertawe

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan John Rowe (gwrthwynebydd).

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorydd C E Lloyd (Aelod Lleol) a amlinellodd ei wrthwynebiad i'r cynnig.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Mae'r disgrifiad o'r cynnig ar dudalen 97 yn anghywir a dylid darllen:

  • Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO 3 ystafell wely i 3 pherson (Dosbarth C4)

 

Derbyniwyd 2 ymateb hwyr ychwanegol gan un preswylydd a oedd yn cyfeirio at bryder bod y cynlluniau'n awgrymu bod 2 eiddo o fewn y cais - 15 a 16 Stryd Middleton. Mae'r ymatebion yn cyfeirio at 2 ffurflen gais a gwallau ar y cynlluniau sy'n cyfeirio at 16 Teras Middleton. Mynegwyd pryder nad yw'r cais sy'n cael ei argymell yn gywir ac ni ddylai'r pwyllgor cael ei gamarwain i dderbyn dogfennaeth anghywir.

 

Ymateb y swyddog:

Derbyniwyd y cais yn wreiddiol ym mis Mawrth eleni ac roedd y ffurflen gais a'r cynlluniau safle ategol yn cynnig HMO 4 ystafell wely yn rhif 16 Stryd Middleton (wedi'i ddiffinio ar gynllun lleoliad y safle ond cyfeirir at Teras Middleton ar y ffurflenni cais).

 

Yn dilyn ymgynghoriad ar y cais, derbyniwyd amrywiaeth o wrthwynebiadau wrth ddechrau ei brosesu ym mis Ebrill. Yn ystod yr amser hwn daeth i'r amlwg fod asiant yr ymgeisydd wedi cyfeirio'n anghywir at rif 16 Teras Middleton er mai rhif 15 Stryd Middleton oedd eiddo'r ymgeisydd.

 

Yn dilyn pryderon a godwyd gan swyddogion ynghylch y lle a oedd ar gael yn yr eiddo, diwygiwyd y cynllun i leihau nifer yr ystafelloedd gwely arfaethedig i 3 (o 4).

 

Derbyniwyd cynlluniau a ffurflenni diwygiedig gyda'r wybodaeth gywir a dechreuwyd ymgynghoriad newydd ym mis Mehefin, gan roi'r cyfle i gymdogion gyflwyno sylwadau ar y cynllun diwygiedig. Mae unrhyw gyfeiriadau at 'Deras Middleton' sy'n dal i fod ar y dyluniadau yn wall argraffyddol ac mae'r hen ffurflen gais wedi'i disodli.

 

I grynhoi, mae'n amlwg mai rhif 15 Stryd Middleton yw eiddo'r cais a phroseswyd y cais ar y sail hon.

 

 

#(Eitem 4) Cais Cynllunio 2019/1325/FUL - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO 4 ystafell wely i 4 person (Dosbarth C4) yn 20 Heol Edgeware, Uplands, Abertawe

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorwyr I Mann a P N May (aelodau lleol) ac amlinellon nhw eu gwrthwynebiadau i'r cynnig.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Derbyniwyd 2 gwrthwynebiad hwyr ychwanegol o'r preswyliwr isod gyda'r materion canlynol yn codi:

4 Heol Edgeware

  • Nid yw'r eiddo sydd eisoes yn bodoli yn wrthsain.
  • Gadawyd y tai i fod yn adfeiliedig.
  • Bydd cyflwyno mwy o HMOs yn datbrisio'r ardal ymhellach a chaiff hyn effaith negyddol ar brisiau tai.
  • Byddai'n cael effaith enfawr ar barcio i breswylwyr.
  • Mae sbwriel yn fater arall.
  • Mae preswylwyr Uplands eisiau cadw'r Uplands yn ardal breswyl sy'n addas i deuluoedd.

 

19 Cilgant Maple

  • Mae'r eiddo yn fach ac mae'n anodd credu bod yr eiddo yn gallu lletya 4 ystafell wely ac ystafelloedd cysylltiedig yn ddiogel a gyda digon o le.
  • Mae parcio yn aml yn anodd iawn o ganlyniad i nifer mawr o geir yn yr ardal, a gallai'r cynnig hwn arwain at 4 car ychwanegol yn ceisio parcio ar strydoedd sydd eisoes yn brysur.
  • Problemau gyda chasglu gwastraff mewn ardaloedd â sawl HMO.
  • Mae'n bosib iawn y gall yr eiddo hwn gael ei rentu i fyfyrwyr a bydd hyn yn arwain at broblemau casglu gwastraff a mwy o sbwriel.
  • Effeithiau amlwg ar brisiau tai, ffyrdd gorlawn, gofynion parcio ychwanegol, problemau sŵn posib a phroblemau sbwriel.

 

 

#(Eitem 5) - Cais Cynllunio 2019/1204/S73 - Amrywiad ar Amod 2 Caniatâd Cynllunio 2016/0086. Rhoddwyd ar 15 Mehefin 2016 er mwyn caniatáu cyfnod cyfyngedig o 40 o flynyddoedd yn lle 24 o flynyddoedd yn Fferm Cefn Betingau, Heol Rhydypandy, Treforys, Abertawe

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Richard Mears (asiant).

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

 

#(Eitem 7) - Cais Cynllunio 2019/0960/FUL sef Estyniad i gyfleuster prosesu metel sgrap ym Mhorthladd Kings, Abertawe

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Gareth Price (ymgeisydd).

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

 

#(Eitem 8) - Cais Cynllunio 2019/1562/FUL - Blaen siop beiciau yn 18 Rhodfa'r Knoll, Uplands, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

 

#(Eitem 10) - Cais Cynllunio 2019/0717/FUL - Estyniad deulawr i ddarparu lolfa gymunedol/ardal fyw â balconïau yng Nghartref Gofal Parc Hengoed, Heol Cefn Hengoed, Winch Wen, Abertawe

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorwyr V M Evans a P Lloyd (aelodau lleol) ac amlinellwyd pryderon y preswylwyr lleol ynghylch datblygiad parhaol y safle a'i effaith ar breswylwyr, yn benodol mewn perthynas ag effaith weledol a materion traffig.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

 

(2) Gwrthod y cais cynllunio a grybwyllir isod am y rhesymau a amlinellwyd yn yr adroddiad:

 

#(Eitem 9) - Cais Cynllunio 2018/2313/FUL - Adeiladu 46 o fflatiau, mewn dau bloc, ar gyfer preswylwyr dros 55 oed gyda pharcio a chyfleusterau cysylltiedig yn hen ddepo'r cyngor, 37 Heol Pontardawe, Clydach, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Patrick Moss (asiant).

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorydd P B Smith (aelod lleol) ac amlinellwyd ei chynigion yn eu ffurf presennol.

18.

Cais cynllunio Cyf: 2019/1232/106 a 2018/2671/S73 - Adeiladu 80 Rhif unedau preswyl gyda mynediad cysylltiedig a thirlunio Cyn safle'r Ganolfan Ddinesig, Penllergaer. pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn
ceisio cymeradwyaeth i addasu'r ymgymeriad unochrog a wnaed yn unol ag Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd) i ddatblygu ar hen safle'r Ganolfan Ddinesig, Penllergaer.

 

Amlinellwyd cefndir cymeradwyaeth wreiddiol y cais a manylwyd arno yn yr adroddiad.

 

Hefyd, amlinellwyd y prif broblemau a gafwyd ynghylch geiriad y cytundeb Adran 106 gwreiddiol mewn perthynas â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig/tai fforddiadwy/tai rhentu cymdeithasol, yn benodol y term "tai rhentu rhyngol".

 

Penderfynwyd y byddai'r aelodau'n cymeradwyo'r addasiad i gytundeb Adran 106 (rhwymedigaeth gynllunio) i newid y derminoleg i hepgor y term "rhentu" o'r diffiniad "tai rhyngol" a diweddaru gweddill y cytundeb yn unol â hynny fel y gall yr ymgeisydd ddefnyddio cynnyrch rhyngol eraill a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru a darparu Cymal Meddiant gan y Morgeisai ar gyfer unedau Rhentu Cymdeithasol yn unig.