Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2019 fel cofnod cywir. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cais
cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd
cymeradwyo'r cais
cynllunio isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu'r hyn a nodir isod
(#): #(Eitem 1)
- Cais Cynllunio
2019/0911/S73 - datblygiad preswyl sy'n cynnwys man agored cyhoeddus a
ffyrdd mynediad newydd o Heol Gower View a Heol Brynafon (amlinelliad) (amrywiad ar amodau 1, 3 a 4
caniatâd cynllunio 2005/2355 a roddwyd ar 23 Ebrill 2010) i estyn y cyfnod
amser i gyflwyno Materion a Gadwyd yn Ôl am weddill y safle'n unol â'r
Datganiad Dylunio a Mynediad diwygiedig a'r Uwch-gynllun ar dir i'r gorllewin o
Heol Gower View ac i'r gogledd o Heol Brynafon, Penyrheol, Abertawe Anerchwyd y
pwyllgor gan Graham Howells (gwrthwynebydd) a Phil Baxter (asiant). Anerchodd y
Cynghorydd J P Curtice (aelod lleol) y pwyllgor a chyfeiriodd at ei phryderon
ynghylch yr angen i gynnal man agored ar y datblygiad a chadw'r ardal chwarae a
ailwampiwyd yn ddiweddar, gan gynnwys adleoli'r wifren sip. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Mae ecolegydd y
cyngor wedi cynnal asesiad o effaith arwyddocaol debygol y datblygiad
arfaethedig ar safleoedd Ewropeaidd a warchodir. Daw'r asesiad i'r casgliad nad
oes unrhyw effeithiau arwyddocaol tebygol ar y safleoedd a warchodir. Er mwyn sicrhau
na fydd unrhyw effeithiau arwyddocaol ar y SoDdGA,
dylid diwygio amod 26 rhan viii) i ddweud: ‘viii) yr oll fesurau atal llygredd sy'n ymwneud
â chyrff dŵr gerllaw, yn enwedig o ran ACA Bae a Morydau Caerfyrddin ac
AGA Moryd Burry, a SoDdGA
Moryd Llwchwr a Chasllwchwr (gan gynnwys mesurau
lliniaru a gwella a argymhellwyd yn Adran 2 yr Asesiad o Effeithiau Datblygu
Ecolegol a'r Adroddiad Cynigion Lliniaru a baratowyd gan Hawkeswood
Ecology ym mis Mehefin 2019), a ' Cymeradwywyd y cais yn amodol ar weithred
amrywio ar gyfer y cytundeb S106
yn unol â'r argymhelliad ac yn amodol ar y diwygiad uchod i amod 26. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn amlinellu'r cais gan
yr ymgeisydd (Enzo Homes) i addasu'r ymgymeriad
unochrog a wnaed yn unol ag Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel
y'i diwygiwyd) i ddatblygu ar hen safle'r Ganolfan Ddinesig, Penllergaer. Amlinellwyd a manylwyd ar y manylion cefndir, yr ymgynghoriad a wnaed a'r
prif faterion yn codi o'r cais yn yr adroddiad. Siaradodd y Cynghorydd
E W Fitzgerald (Aelod Lleol) mewn perthynas â'r cais a chefnogodd argymhelliad
y swyddogion i'w wrthod. Penderfynwyd gwrthod y cais i addasu'r ymgymeriad
unochrog i'r weithred amrywio (rhwymedigaeth cynllunio). |