Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

63.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorwyr P M Black, L S Gibbard, M H Jones, P Lloyd, M B Lewis, A H Stevens, D W W Thomas a T M White – Personol - Eitem 3 – 2019/0431/FUL – mae'r ymgeisydd yn gyd-gynghorydd.

 

Y Cynghorwyr L S Gibbard, P Lloyd ac A H Stevens – Personol - Eitem 4 – 2019/0171/FUL - mae'r ymgeisydd yn gyd-gynghorydd.

 

Y Cynghorydd D W W Thomas - Personol a Rhagfarnol - Eitem 4 - 2019/0171/FUL – mae'r ymgeisydd yn gyd-gynghorydd - gwnaeth ddatganiad dan baragraff 14(2) y côd a gadawodd cyn y drafodaeth.

 

64.

Cofnodion. pdf eicon PDF 113 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 2 Ebrill 2019 fel cofnod cywir.

 

65.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

66.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

Penderfynwyd: -

 

(1) Gwrthod y cais cynllunio isod am y rhesymau a nodir isod:

 

#(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2018/2059/FUL - Cyfleuster bach adfer ynni o wastraff sy'n cynnwys estyniad i'r adeilad presennol, ffatri allanol, adeileddau cysylltiedig â chorn simnai 25m ar safle Gwasanaethau Gwastraff Biffa, Clôs Clarion, Parc Menter Abertawe, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y gwrthwynebydd, Geraint Havard, a'r asiant, Mark Walton.

 

Siaradodd lant o Ysgol Gynradd y Trallwn ac Ysgol Gymraeg Lôn Las yn erbyn y cais.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr P M Matthews, A Pugh, C R Doyle ac M Sykes (aelodau lleol) ac amlinellon nhw eu gwrthwynebiadau i'r cais.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd R C Stewart (Arweinydd) ac amlinellodd ei wrthwynebiadau i'r cais.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Adroddwyd am 2 lythyr gwrthwynebu hwyr.

 

Gwrthodwyd y cais yn groes i argymhellion y swyddog am y rheswm canlynol:

1.   Byddai'r simnai 25 metr o uchder arfaethedig i wasanaethu'r datblygiad yn nodwedd weledol amlwg a fyddai'n niweidiol i amwynder gweledol yr ardal, yn enwedig o edrych arni o eiddo preswyl yng Nghlôs y Fendrod ac o Warchodfa Natur y Fendrod ac yn methu cadw neu wella amgylchedd gweledol ardal gadwraeth Llansamlet ac eglwys restredig St.Samlet’s. O ganlyniad, ystyrir bod y cynnig yn mynd yn groes i bolisïau HC1, HC2, PS2 ac RP8 Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 2019.

 

2) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu’r hyn a nodir isod (#):

 

#(Eitem 2) - Cais Cynllunio 2019/0450/S73 - Datblygu 61 o anheddau â mannau agored cysylltiedig, tirlunio, trefniadau mynediad, gwaith isadeiledd a pheirianneg cysylltiedig (Amrywiad ar Amod 2 Caniatâd Cynllunio 2017/1948/FUL a gymeradwywyd ar 1 Awst 2018 i ganiatáu diwygiad i'r gwaith priffyrdd arfaethedig) ar dir oddi ar Lôn Summerland, Newton, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Mae amod 1 yr argymhelliad (tudalen 75) yn anghywir ac fe'i disodlir gan y canlynol:

 

1. Rhaid ymgymryd â'r datblygiad yn unol â'r cynlluniau a'r dogfennau cymeradwy canlynol:

 

17032(05) 100 Rev B - Cynllun Lleoliad Safle

17032(05) 106 - Manylion Ffin Math A

17032(05) 107 - Manylion Ffin Math B

W173072-AT_B01 Rev A - Dadansoddiad o Symudiad a Llwybr Cerbydau Sbwriel, a dderbyniwyd ar 1 Medi 2017.

 

W173072_AT_C03 Rev D - Dadansoddiad o Symudiad a Llwybr Cerbydau Sbwriel ar gyfer rhodfa breifat o Lôn Summerland, a dderbyniwyd ar 3 Hydref 2017.

 

W173072_AT_D01- Dadansoddiad o Symudiad a Llwybr Mewnol Cerbydau Sbwriel y safle ar y ffordd feingefn - dadansoddiad o Symudiad a Llwybr ac 17032(05) 215 Rev D - Pren tebyg i Dŷ Cennen (lleiniau 9, 40, 56 a 57), a dderbyniwyd ar 15 Tachwedd 2017.

 

2979_220 Rev A - Nodi gwybodaeth

2979_211 Rev A - Adrannau Hir - Taflen 2

2979_210 - Adrannau Hir - Taflen 1

2979_100 Rev D - Draenio Sgematig ac 17032(05) 108 Rev A - Strategaeth Sbwriel, a dderbyniwyd ar 21Tachwedd 2017.

 

17032(05) 105 Rev D - Deunyddiau a Chynllun yr Amgaead a 17032(05) 102 Rev G - Cynllun Safle Arfaethedig, a dderbyniwyd 1 Rhagfyr 2017.

 

W173072_A06 - Croesfan Sebra Heol Newton, a dderbyniwyd ar 6 Rhagfyr 2017.

 

17032(05) 109 - Manylion Ffin Math C, a dderbyniwyd ar 11 Rhagfyr 2017.

 

Darlun Rhif NB55.C.S Math o garreg a geir yn Nhŷ Caernarfon

Darlun Rhif NB55.C.R Math o rendro a geir yn Nhŷ Caernarfon

Darlun Rhif NB55.PL.CS1 Math o dalcen blaen a geir ar Dŷ Camrose 

Darlun Rhif NB55.PL.CS2 Yr un math â Thŷ Camrose

Darlun Rhif NB55.PL.CW.S Math o garreg a geir yn Nhŷ Carew

Darlun Rhif Math o bren a geir yn Nhŷ Carew

Darlun Rhif NB55.CE.S Math o garreg a geir yn Nhŷ Cennen

Darlun Rhif NB55.CE.T Math o bren a geir yn Nhŷ Cennen

Darlun Rhif NB55.D Yr un math a Thŷ Dinefwr

Darlun Rhif NB55.PL.H1.S Math o garreg a geir yn Nhŷ Harlech (gydag integreiddiad)

Darlun Rhif NB55.PL.H1.T Math o bren a geir yn Nhŷ Harlech (gydag integreiddiad) 

Darlun Rhif NB55.PL.H2.S Math o garreg a geir yn Nhŷ Harlech

Darlun Rhif NB55.PL.H2.T Math o bren a geir yn Nhŷ Harlech

Darlun Rhif NB55.O.R Math o rendro a geir yn Nhŷ Ystumllwynarth

Darlun Rhif NB55.O.R Math o rendro a geir yn Nhŷ Ystumllwynarth

Darlun Rhif NB55.PL.PB Yr un math a Thŷ Sir Penfro

Darlun Rhif NB 55.P.02 Math o weddlun a geir yn Nhŷ Pennard,

Darlun Rhif NB55.P.01 Yr un math o gynlluniau â Thŷ Pennard,

Darlun Rhif NB55.PL.1B2P 1B2P Fflatiau,

Darlun Rhif NB55.PL2B3P 2B3P Byngalo,

Darlun Rhif NB55.3B5P.R 3B5P Math o rendro a geir mewn Tŷ

Darlun Rhif NB55.3B5P.T 3B5P Math o bren a geir mewn tŷ,

Darlun Rhif NB55.PL.G.01 Garejis (Taflen 1),

Darlun Rhif NB55.PL.G.02 Garejis (Taflen 2)

a dderbyniwyd ar 28 Awst 2018 a

 

Darlun Rhif NB55.90.001 Cynllun Gorffeniadau Allanol,

a dderbyniwyd ar 3 Medi 2018.

 

18_P_017 – Gwelliannau i Lôn Summerland/Briffordd Newton, Adran 106 Cynllun Amrywio Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, a dderbyniwyd ar 26 Chwefror 2019.

 

Rheswm: I osgoi amheuaeth a sicrhau cydymffurfio â'r cynlluniau a gymeradwywyd.

 

 

#(Eitem 3) - Cais Cynllunio 2019/0431/FUL - Estyniad cefn llawr cyntaf ac ychwanegu to ar oleddf i'r estyniad cefn deulawr presennol yn 39 Heol Pennard, Pennard, Abertawe

 

 

#(Eitem 4) - Cais Cynllunio 2019/0171/FUL - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i westy (Dosbarth C1) â 4 ffenestr do yn y cefn yn 18 Stryd y Capel, y Mwmbwls, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

Gwnaed datganiad gan y Cynghorydd D W W Thomas dan baragraff 14(2) y côd a gadawodd cyn y drafodaeth.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y gwrthwynebydd, Greg Hopkins, a'r ymgeisydd, Adam Gilbert.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd M Langstone (aelod lleol) ac amlinellodd bryderon yr oedd trigolion lleol wedi'u hanfon ato ynglŷn â pharcio, sbwriel a cholli cartref teuluol.

 

 

#(Eitem 5) - Cais Cynllunio 2018/2622/FUL - ysgol gynradd â dau ddosbarth mynediad, gan gynnwys mynedfeydd, parcio, cyfleusterau hamdden awyr agored, triniaeth tirwedd ac isadeiledd draenio ar dir i'r dwyrain o Gilgant Hill View, y Clâs, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Siaradodd y Cynghorydd J A Raynor (Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau) o blaid y cais.

 

 

#(Eitem 6) - Cais Cynllunio - 2018/2691/RG3 - Adeiladu bloc addysg deulawr ar wahân (gan gynnwys saith ystafell ddosbarth, ystafell adnoddau dysgu, cegin, ffreutur/ardal amlbwrpas a thoiledau), gosod arwynebau chwarae artiffisial allanol, ychwanegu 4 ffenestr i hen floc drama, ffordd fynediad newydd, ardal barcio ar gyfer 16 o geir â’r system daenellu gysylltiedig ac adeiladau storio biniau (Rheoliad Datblygu 3 y Cyngor) yn Ysgol Gyfun Gŵyr, Talbot Green, Tre-gŵyr, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Siaradodd y Cynghorydd J A Raynor (Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau) o blaid y cais.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Cafwyd llythyr gwrthwynebu hwyr gan yr Aelod Seneddol Tonia Antoniazzi ar bryderon preswylwyr lleol ynghylch traffig a phroblemau fandaliaeth posib.

 

 

#(Eitem 7) – Cais Cynllunio 2018/2600/S73 - Dymchwel y llety myfyrwyr presennol ac adeiladau eraill y brifysgol ac ailddatblygu cynhwysfawr o'r safle at ddibenion preswyl, ag isadeiledd ar gyfer ffyrdd mynediad, mannau agored cyhoeddus, plannu coetiroedd a gwaith cysylltiedig (amlinelliad gyda'r holl faterion wedi'u cadw’n ôl) - cais Adran 73/Amrywiad ar Amod 3 i ymestyn yr amserlen ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl o Ganiatâd Cynllunio 2014/1192 a gymeradwywyd ar 6 Ionawr 2016 ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan, Ffordd Fynediad o Heol Gŵyr trwy Ffordd yr Olchfa, Sgeti, Abertawe