Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

54.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd C R Evans - Personol a Rhagfarnol - Cofnod rhif 57 - Eitem 4 - 2018/2540/FUL - Personol a Rhagfarnol gan fod cefn fy eiddo ar bwys y tir i'w ddatblygu - gwnes i ddatganiad dan baragraff 14(2) y côd a gadewais cyn y drafodaeth.

 

Y Cynghorydd R D Lewis - Personol - Cofnod rhif 57 - Eitem 5 - 2018/2646/FUL - Rydw i wedi adnabod y teulu ers sawl blwyddyn.

 

Y Cynghorydd A H Stevens - Personol a Rhagfarnol - Cofnod rhif 57 - Eitem 5 - 2018/2646/FUL - Perthynas bersonol agos â'r ymgeisydd a gadawodd cyn y drafodaeth.

 

Y Cynghorydd D G Sullivan - Personol - Cofnod rhif 57 - Eitem 3 - 2018/2508/FUL - Aelod Cyngor Cymuned Llangyfelach a llywodraethwr yn Ysgol Llangyfelach ac Ysgol Pontlliw.

 

55.

Cofnodion. pdf eicon PDF 107 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2019 fel cofnod cywir.

 

56.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

57.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn y drafodaeth, rhoddodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno ddiolch i aelodau a swyddogion y Pwyllgor Cynllunio am eu gwaith a'u mewnbwn i ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 2010-2025 a fabwysiadwyd gan y cyngor yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Chwefror.

 

Rhoddodd y Rheolwr Datblygu, Cadwraeth a Dylunio'r diweddaraf ar y sefyllfa ynghylch polisïau'r CDU blaenorol nad ydynt yn berthnasol mwyach a chyfeiriodd at roi'r polisïau newydd o fewn y CDLl ar waith a'u goblygiadau ar wneud penderfyniadau yn y dyfodol.

 

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

Penderfynwyd: -

 

1) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod (#):

 

#(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2018/1001/RES - Adeiladu 36 uned breswyl - yn cynnwys 17 o anheddau teras cysylltiedig, 5 pâr o dai pâr, 1 annedd ar wahân ac 8 fflat mewn 2 floc deullawr a gwaith cysylltiedig (manylion ymddangosiad, tirlunio, cynllun a graddfa), a manylion amodau 9 (draenio), 11 (tirlunio, coed a Chanclwm Japan), 15 (triniaeth i'r ffin), ac 18 (cadw a gwarchod coed), yn unol â chaniatâd cynllunio amlinellol 2008/0512 a roddwyd ar 8 Tachwedd 2017 ar Dir oddi ar Heol Brithwen, Waunarlwydd, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchodd Phil Baxter (asiant) y pwyllgor.

 

Anerchodd y Cynghorydd W G Lewis (Aelod Lleol) y pwyllgor ac amlinellodd ei phryderon hi a phryderon preswylwyr lleol ynghylch diogelwch ffyrdd a'r angen i osod llinellau melyn yn yr ardal leol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Adroddwyd am 2 lythyr gwrthwynebiad a anfonwyd yn hwyr.

 

#(Eitem 2) - Cais Cynllunio 2018/1014/FUL - Adeiladu 20 o anheddau ar wahân, garejis a mynediad a gwaith tirwedd cysylltiedig, a dymchwel rhif 188, Stryd Teilo Sant ar dir a adwaenid fel y Gerddi gynt a chefn 188 Stryd Teilo Sant, Pontarddulais, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Nid oedd y cynnig hwn wedi bodloni'r trothwy tai fforddiadwy o 25 o anheddau o fewn y CDU. Serch hynny, mae'r CDLl a fabwysiadwyd wedi gostwng y trothwy hwn i 5 uned  neu fwy ar y safle hwn ac wedi gosod trothwy o 15% ar gyfer tai fforddiadwy i'w darparu ar y safle sy'n cyfateb i 3 uned. Hysbyswyd yr ymgeisydd o'r gofyniad hwn, a chytunwyd i ddiwygio'r penderfyniad er mwyn cynnwys y ddarpariaeth hon o fewn y cytundeb S106.

 

Mae'r Tîm Galluogi Tai wedi nodi bod angen i'r unedau tai fforddiadwy gydymffurfio â Gofynion Ansawdd Datblygu, a gofyn am 3 thŷ 3 ystafell wely, i gael eu trosglwyddo i'r cyngor/Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (i'w benderfynu/drafod), deiliadaethau wedi'u rhentu'n gymdeithasol. Dylai dyluniad a manyleb y tai fforddiadwy fod o safon sy'n gyfartal â'r rhai a ddefnyddir yn yr Unedau Marchnad Agored.

#(Eitem 3) - Cais Cynllunio 2018/2508/FUL - Adeiladu 20 o anheddau preswyl fforddiadwy gyda mynediad a gwaith tirlunio cysylltiedig ar dir oddi ar Heol Rhydypandy a Heol Mynydd Gelli Wastad, Treforys, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchodd Phil Baxter (asiant), Gareth Davies (ymgeisydd) a Robert Bowen (asiant ar gyfer y gwrthwynebwyr) y pwyllgor.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd D G Sullivan (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Mae PABM wedi ysgrifennu er mwyn dweud bod y bwrdd wedi cyrraedd cytundeb â'r tirfeddiannwr er mwyn cydweithio i sicrhau opsiwn addas sy'n gallu gweithio gyda mabwysiadu'r ysbyty. O'i gymharu â'r CDU, mae sefyllfa polisi'r CDLl yn sylweddol wahanol, yn enwedig gwaharddiad dynodiadau lletem las a chynnwys y polisi Safleoedd Tai Fforddiadwy Eithriedig. Ystyrir bod y cynnig hwn yn bodloni polisi'r CDLl yn fras. Mae cofnod da o'r angen am dai fforddiadwy a bydd y cynnig yn helpu i fynd i'r afael ag anghenion bobl leol, gan gynnwys gweithwyr PABM. Mae'r Bwrdd Iechyd yn cefnogi datblygu'r y math hwn o lety mewn lleoliadau addas fel hwn.

 

Adroddwyd am lythyr gwrthwynebu hwyr gan breswylydd lleol.

 

Mae asiant yr ymgeisydd wedi ymateb i'r sylwadau hyn ac wedi nodi nad yw'r polisi yn gofyn am gynnal prawf dilyniannol. Mae asiant yr ymgeisydd wedi cyflwyno cyfiawnhad ar gyfer y cynnig, gan ddangos bod cyfle yn bodoli i ddarparu 100% o Dai Anghenion Lleol Fforddiadwy gyda'r gallu i'w cyflwyno o fewn 12 mis o ddechrau. Bydd y safle yn darparu nifer cyfwerth o dai fforddiadwy a rentir yn gymdeithasol ar yr un pryd, bydd angen safle tai marchnad â lleiafswm o 200 uned, gan ragdybio bod y safle tai marchnad yn gallu gwneud hyn yn ymarferol.

 

Sylw swyddog:

Nid oes gofyniad i gynnal prawf dilyniannol ym mholisi H6 y CDLl.

 

Mae'r angen am dai fforddiadwy a nodwyd yn y CDLl yn fwy na nifer y tai fforddiadwy sy'n gallu cael eu darparu trwy'r safleoedd dyranedig a'r safleoedd annisgwyl, ac o ganlyniad i hyn, bydd angen darganfod ffyrdd eraill i gyrraedd y targed cyffredinol. Bydd polisi H6 100% Safleoedd Tai Fforddiadwy Eithriedig yn rhan o'r ateb hwn. Ystyrir bod y datblygwr wedi arddangos nad oes unrhyw drefniadau amgen boddhaol i ddiwallu'r angen o fewn yr ardal, ac o ganlyniad i hyn, mae'r cynnig yn cydymffurfio â pholisi H6.

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gwblhau Adran 106 y Rhwymedigaeth Gynllunio.

 

#(Eitem 5) - Cais Cynllunio 2018/2646/FUL - Annedd newydd ar wahân ar Fferm Lesliedale, Porth Einon, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Derbyniwyd llythyr gwrthwynebu hwyr gan Swyddog Ecoleg y cyngor yn gofyn i osod amod ychwanegol (a amlinellir isod) a gosod hysbyswr ychwanegol (a amlinellir isod);

 

Amod

Cyn i'r datblygiad ddechrau, bydd strategaeth goleuadau sensitif (yn berthnasol i gamau adeiladu a gweithredol y datblygiad) yn cael ei chyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i'w chymeradwyo'n ysgrifenedig. Bydd y strategaeth goleuadau'n amlinellu'r mesurau i'w hystyried er mwyn osgoi effaith goleuadau (yn ystod y cam adeiladu a'r cam gweithredol) ar ystlumod a rhywogaethau nosol eraill. Bydd y strategaeth goleuadau'n sicrhau nad yw'r cynefinoedd sy'n gyfagos i'r safle a thu mewn iddo'n cael eu goleuo a bod rhywogaethau a warchodir sy'n defnyddio'r safle i deithio ac i hela yn gallu parhau i wneud hyn heb aflonyddwch.

 

Bydd y mesurau o fewn y strategaeth goleuadau a gymeradwywyd yn cael eu gweithredu ar bob adeg wedi hynny ac ni ddylai unrhyw olau allanol sy'n gwasanaethu'r datblygiad arfaethedig wrthdaro â'r mesurau lliniaru sydd o fewn y strategaeth ar unrhyw adeg.

 

Rheswm: Er lles ystlumod a rhywogaethau nosol eraill.

Hysbyswr

Sylwer bod holl ymlusgiaid Prydeinig wedi'u gwarchod o dan Atodlen 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 fel y'i diwygiwyd. Golyga hyn mai trosedd yw lladd neu niweidio gwiber, dallneidr neu fadfall yn fwriadol. Os ydych yn dod ar draws yr ymlusgiaid uchod, mae'n rhaid i waith ddod i ben yn syth ac mae'n rhaid gofyn am gyngor Cyfoeth Naturiol Cymru cyn parhau ag unrhyw waith (01792 634 960).

Ynghylch ymlusgiaid (ac amffibiaid):

Dylid cynnal gwiriadau ar gyfer unrhyw rywogaethau cyn adeiladu

Dylid clirio unrhyw lystyfiant gan osgoi'r prif gyfnod gaeafgwsg (mis Hydref tan fis Mawrth).

 

#(Eitem 6) - Cais Cynllunio 2018/2280/FUL - Adeiladu 16 o anheddau preswyl fforddiadwy gyda mynediad, parcio, tirlunio a gwaith atodol cysylltiedig ar dir yn Lôn Brynawel, Llansamlet, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y cyfarfod gan Geraint John (asiant).

 

Anerchodd y Cynghorwyr A Pugh a P M Matthews (Aelodau Lleol) y pwyllgor gan amlinellu eu gwrthwynebiad i golli'r mynediad presennol ar draws y safle i breswylwyr.

 

#(Eitem 7) - Cais Cynllunio 2018/2671/S73 - Adeiladu 80 o unedau preswyl fforddiadwy gyda mynediad a thirlunio cysylltiedig (cael gwared ar amod 9 (Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop) caniatâd cynllunio 2017/0986/FUL a roddwyd ar 30 Mai 2018) ar safle'r hen Ganolfan Ddinesig, Penllergaer, Abertawe

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Yn dilyn cyflwyno cynllun tirlunio newydd, dylid diweddaru amod 7 i gynnwys y canlynol:

 

Dylid gweithredu'r datblygiad yn unol â'r cynllun tirlunio fel a ddangosir ar y  darluniau hyn: CA 2018 - 071 Rev D Cynigion Tirlunio Cyffredinol; CA 2018-72 Rev D Cynigion Tirlunio Coed a Bylbiau; CA 2018-73 Rev D Cynigion Tirlunio Perthi; CA 2018-74 Rev C Cynigion Tirlunio Gwelyau Plannu; CA 2018-80 Rev C Cynigion Tirlunio Brodorol a Gwair; CA Amserlen Plannu Rev 4 Mawrth 2019 (a dderbyniwyd ar 4 Mawrth 2019). Bydd angen cyflwyno Cynllun Rheoli Tirlunio manwl yn ysgrifenedig, i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol, o fewn mis o ddyddiad caniatáu hyn. Dylai'r Cynllun Rheoli Tirlunio fanylu ar yr holl waith cadwraeth tymor hir a'r mesurau rheoli ar gyfer gwarchod a rheoli'r holl goed sydd wedi'u cadw a'r rhai newydd a phlannu o fewn y cynllun tirlunio a gymeradwywyd.

 

Rheswm: Er lles cynnal cynllun tirlunio addas er mwyn amddiffyn amwynderau gweledol yr ardal, i gynnal rhinweddau arbennig y dirwedd a'r cynefinoedd trwy amddiffyn, creu a gwella cysylltiadau rhwng safleoedd a'u hamddiffyn am eu gwerth o ran amwynderau, tirwedd a bioamrywiaeth.

 

(2)      Gwrthod y ceisiadau cynllunio isod am y rhesymau a nodir isod:

 

#(Eitem 4) - Cais Cynllunio 2018/2540/FUL - Dymchwel yr adeilad sydd eisoes yn bodoli ar y safle ac adeiladu datblygiadau preswyl sy'n cynnwys 40 o fflatiau fforddiadwy, 3 uned fanwerthu, lleoedd parcio, tirlunio a gwaith atodol cysylltiedig ar dir i'r gogledd o Rodfa Fadog, Cwmrhydyceirw, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Gwnaed datganiad gan y Cynghorydd C R Evans dan baragraff 14(2) y côd a gadawodd cyn y drafodaeth.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Geraint John (asiant), Daniel Lloyd (ymgeisydd) a Richard John (gwrthwynebydd).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd A S Lewis (Aelod Lleol) a siaradodd yn erbyn y datblygiad mewn perthynas â'r dyluniad gormesol, yr effaith weledol, problemau parcio a diffyg lle i amwynderau.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Derbyniwyd gohebiaeth hwyr gan breswylydd yng Nghlôs Rhymni sy'n pryderu am y cynnig gan nad yw'r adeilad yn cydweddu â'r ardal, ac mae'r stâd yn brysur iawn yn barod, heb ychwanegu mwy o draffig. Nid yw'r cyngor yn gwrando ar bobl a'r hyn y maen nhw ei eisiau, a chuddiwyd y ffaith bod Grŵp Tai Coastal yn gyfrifol.

Aed i'r afael â'r pryderon hyn yn Adroddiad y Swyddog gan eu bod nhw wedi cael eu codi gan bartïon eraill ac nad yw darparwr y Tai Cymdeithasol yn ystyriaeth hanfodol o ran cynllunio.

Gan y byddai'r cynnig yn golygu colli clwyd ystlumod, cynhaliwyd profion rhanddirymiad sy'n dod i'r canlyniadau isod:

 

Rheoliad 53(2)(e) (Rhesymau hollbwysig budd pennaf i'r cyhoedd etc): Yn yr achos hwn, nid yw'r datblygiad yn debygol o gael effaith fawr ar y rhywogaeth hon o ystlumod, a derbyniwyd y mesur lliniaru gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac Ecolegydd y cyngor. Mae budd ehangach y cyhoedd yn cynnwys:

Gwella'r stoc tai gyda llety byw fforddiadwy o safon

Gwella amwynder gweledol yr ardal gyfagos

Adfywio'r ardal yn dilyn symud yr adeilad adfeiliedig a segur sydd eisoes yn bodoli

Ailddatblygu safle tir llwyd gyda chyfleusterau cymdogaeth ychwanegol.

 

Rheoliad 53(9)(a) (Nid oes unrhyw drefniadau boddhaol amgen i'r gwaith arfaethedig): Mae dau ddewis arall i ailddatblygu'r safle ar gyfer datblygiadau preswyl. Y dewis cyntaf i'w ystyried fyddai ailddatblygu'r safle ar gyfer math arall o ddatblygiad megis tai deulawr/byngalos, ond ystyrir y gallai'r cynlluniau eraill hyn gael effaith debyg i'r datblygiadau preswyl arfaethedig a hefyd arwain at gael gwared ar gyfleuster cymdogaeth. Yr ail ddewis fyddai peidio â datblygu'r safle ond byddai hyn yn golygu colli unedau tai fforddiadwy mawr eu hangen a thanddefnyddio'r safle tir llwyd delfrydol hwn.

 

Rheoliad 53(9)(b) (Ni fydd y gwaith a gymeradwywyd yn niweidiol i gynnal a chadw poblogaeth y rhywogaeth dan sylw): Bydd angen ymgynghori ag ecolegydd y cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cais hwn. Gofynnodd CNC am gyflwyniad o ddatganiad dull lliniaru. Roedd Ecolegydd y cyngor yn fodlon ar y cynlluniau a gyflwynwyd sy'n dangos y mesur lliniaru arfaethedig e.e. blychau ystlumod/adar ac y mae hyn yn dderbyniol i liniaru colled y glwyd ystlumod.

 

Derbyniwyd gohebiaeth bellach gan yr Awdurdod Priffyrdd heb wrthwynebiad i'r cynnig yn dilyn cyflwyno uwchgynllun diwygiedig, yn destun amodau.

 

Gellir dileu amod 14 (Dadansoddiad o Symudiad a Llwybr) bellach gan y darparwyd y manylion ac fe'u hystyrir yn dderbyniol.

 

Cynigwyd yr amodau canlynol: 

14. Ni ddylid dechrau ar unrhyw ddatblygiad nes y cyflwynir manylion y trefniadau arfaethedig ar gyfer rheoli a chynnal a chadw'r strydoedd arfaethedig yn y datblygiad yn y dyfodol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, a'u cymeradwyo ganddo. Dylid cynnal a chadw'r strydoedd wedi hynny yn unol â'r manylion rheoli a chynnal a chadw a gymeradwywyd nes sefydlwyd cwmni rheoli a chynnal a chadw preifat.

Rheswm: Er mwyn diogelwch y briffordd

 

15. Cyn dechrau unrhyw waith ar y safle, ac eithrio clirio'r safle, mae angen cyflwyno Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, a'i gymeradwyo ganddo. Dylid glynu wrth y cynllun rheoli traffig a gymeradwywyd ar bob adeg oni bai y cytunir yn wahanol gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

Rheswm: Lleihau'r tebygolrwydd o rwystro'r briffordd, peri perygl i ddefnyddwyr y ffordd, gwarchod iechyd cyhoeddus ac amwynder lleol, er mwyn sicrhau bod safon foddhaol o ddatblygu cynaliadwy ac er mwyn sicrhau bod safon dda o ddatblygiad a golwg i gadw amwynderau a chymeriad pensaernïol yr ardal.

 

16. Ni ddylid dosbarthu nwyddau i'r unedau manwerthu rhwng 8am a 9.30am neu rhwng 3.30pm a 5.30pm.

Rheswm: I osgoi gwrthdaro â phreswylwyr yn ystod oriau brig.

 

Ar ôl gweld adroddiad y Swyddog, mae'r ymgeisydd wedi gofyn am fân amrywiadau i derminoleg amodau 3 (draenio) a 4 (draenio), 6 (tirlunio) ac 13 (rhywogaethau anfrodorol ymledol) er mwyn cynnig eglurder ar y manylion a'r amserlen a gymeradwywyd ar gyfer y gwaith.  Ystyrir y newidiadau hyn yn dderbyniol.

 

Newid yr amodau arfaethedig fel a ganlyn:

Amod 3: Ychwanegu ar ôl safle ar linell 2 - 'sy'n cydymffurfio ag egwyddorion Datganiad Cynllun Draenio 9 (Cyf:CDGA-9331- Datganiad Cynllun Draenio -P2)'

Amod 4: Gosod 'dwg SK02 R6' yn lle 'dwg SK06 R6'

Amod 6: Ychwanegu '(ac eithrio'r coed i'w symud fel rhan o'r caniatâd cynllunio hwn)' ar ôl 'Dim datblygiad..'

 

Dylid diwygio amod 13 i ddarllen:

13. Er gwaethaf y manylion yn yr asesiad ecolegol a gyflwynwyd, os, cyn i'r datblygiad dechrau (ar wahân i glirio coed a gymeradwywyd fel rhan o'r caniatâd cynllunio hwn), bydd unrhyw rywogaethau anfrodorol ymledol yn cael eu darganfod ar y safle, ni ddylid cynnal unrhyw ddatblygiad pellach nes cyflwynir datganiad o ddull ar gyfer symud y rhywogaeth anfrodorol ymledol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, a'i gymeradwyo ganddo. Caiff y cynllun ei roi ar waith yn unol â'r manylion a gymeradwywyd.

 

Yn ogystal â hyn, dylid ychwanegu amodau er mwyn rheoli oriau gweithredu unedau manwerthu A1 (6.00am i 11.00pm) a chyfyngu eu defnydd i A1 yn unig.

 

Gwrthodwyd y cais yn groes i argymhellion y swyddog am y rhesymau canlynol:

1. Mae'r datblygiad arfaethedig, yn rhinwedd ei ddyluniad, ei raddfa a'i fàs yn gwrthdaro â chymeriad a golwg yr ardal gyfagos er anfantais i'r amwynder gweledol. Felly mae'r cynnig yn groes i bolisi PS2 Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (2019).

 

2. Mae'r datblygiad arfaethedig, yn rhinwedd ei raddfa, yn ddatblygiad rhy ddwys nad yw'n darparu digon o le i amwynderau ar gyfer defnyddwyr y datblygiad yn y dyfodol er anfantais i'r amwynder preswyl. Felly mae'r cynnig yn groes i bolisi PS2 Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (2019).