Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau
canlynol: Y Cynghorydd C R
Doyle – Personol – Cais Cynllunio 2017/2677/FUL (Eitem 2) – Llywodraethwr Ysgol
Gynradd Gellifedw. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2018 fel cofnod cywir |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Protocol Coed a Warchodir. PDF 115 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn gofyn i'r pwyllgor
ystyried y ddogfen "Protocol Coed a Warchodir" i'w mabwysiadu'n
ffurfiol a'i gweithredu i warchod coed yn Ninas a Sir Abertawe. Amlinellwyd y
manylion cefndir a'r cyd-destun a oedd yn ymwneud â datblygu'r protocol ac fe'u
nodwyd yn yr adroddiad. Penderfynwyd bod y "Protocol Coed a
Warchodir" yn cael ei gymeradwyo fel proses gwneud penderfyniadau'r cyngor
o ran materion coed a warchodir. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad sy’n nodi'r weithdrefn
llofnodi a selio bresennol ar gyfer gwneud GCC newydd ac yn awgrymu newidiadau
i'r weithdrefn, a fyddai'n galluogi GCC i gael eu gwneud yn fwy cyflym, gan
sicrhau bod coed sydd dan fygythiad dybryd yn cael eu diogelu. Byddai'r
newidiadau arfaethedig hefyd yn arbed amser swyddogion yn unol ag argymhellion
yr Adolygiad Comisiynu. Penderfynwyd: 1)
y
byddai Gorchmynion Cadw Coed yn y dyfodol yn cael eu cyflwyno fel Gorchymyn
Dros Dro gan Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas ac ni fyddant yn cael eu
llofnodi a'u selio gan yr Adran Gyfreithiol. 2)
bydd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas yn rhoi awdurdod i'r Rheolwr Cynllunio
Strategol ac Amgylchedd Naturiol ac Arweinydd y Tîm Tirlunio i ddyfarnu'r
gorchmynion fel a nodwyd ym mharagraff 5.1 yr adroddiad yn ei absenoldeb; Petai
angen hyn, byddai'r Pennaeth yn cael gwybod am greu GCC newydd ac yn cael
gwybod am y rhesymau dros y buddioldeb gofynnol. 3)
erys
y weithdrefn bresennol ar gyfer cadarnhau Gorchmynion Dros Dro. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd 1) Cymeradwyo'r
ceisiadau cynllunio isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir
isod(#): (Eitem 1)
Cais Cynllunio 2017/0986/FUL - Adeiladu 80 o unedau preswyl gyda mynediad a
thirlunio cysylltiedig yn yr hen Ganolfan Ddinesig, Penllergaer,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Bu Richard Bowen
(asiant) yn annerch y pwyllgor. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd E W Fitzgerald (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y
cynigion. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: O ran lliniaru pathewod, mae CNC wedi nodi pryderon ynghylch a ellir
cyflwyno’r lliniariad gan fod y gwaith ar dir y tu hwnt i reolaeth yr
ymgeisydd. Serch hynny, ers derbyn y sylwadau gan CNC, derbyniwyd cadarnhad
ysgrifenedig ar ran Ymddiriedolaeth Penllergaer a'r
tirfeddiannwr yn cadarnhau nad oes ganddynt wrthwynebiad i'r lliniariad ar y
tir yn eu rheolaeth. O ganlyniad, ystyrir bod rheolau digonol ar waith er mwyn
ymgymryd â'r lliniariad. Cymeradwywyd y cais yn unol â'r argymhelliad bod yr ymgeisydd yn cytuno i
gytundeb Adran 106 ac yn amodol ar yr amod ychwanegol isod: Amod ychwanegol wedi'i ychwanegu fel a ganlyn o ran cynnal a chadw mannau
agored a llwybrau cerdded ar y safle: 18. Ni ddechreuir ar unrhyw ddatblygiad nes y derbynnir manylion llawn y
trefniadau arfaethedig ar gyfer rheoli a chynnal a chadw'r llwybr cerdded yn y
dyfodol sy'n cysylltu rhan ddeheuol y safle, yr ardal agored o amgylch yr
arsyllfa, yr ardal sy'n cysylltu'r arsyllfa â Choed Cwm Penllergaer
gerllaw a'r llwybrau cerdded/beicio yn yr ardaloedd agored a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig
gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd y llwybrau cerdded a'r mannau agored wedi
hynny'n cael eu cynnal yn unol â'r manylion rheoli a chynnal a chadw a
gymeradwywyd am hyd oes y datblygiad. Rheswm: Sicrhau bod y llwybrau cerdded/beicio a'r mannau agored yn cael eu
cynnal a'u cadw i safon foddhaol i sicrhau bod cysylltiadau teithio llesol ar
gael am hyd oes y datblygiad a sicrhau bod y man agored yn cael ei gynnal a'i
gadw i safon foddhaol. (Eitem 3)
Cais Cynllunio 2017/2693/FUL - Newid defnydd o dafarn (Dosbarth A3) i HMO 11
ystafell wely ar gyfer 11 o bobl gyda newidiadau cysylltiedig i'r ffenestri yn
y Robin Hood, 37 Stryd Fleet,
Sandfields, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd Marie Prices (gwrthwynebydd) y pwyllgor. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd E T Kirchner (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y
cynigion. (Eitem 4)
Cais Cynllunio 2018/0268/FUL - Datblygiad defnydd cymysg sy'n cynnwys newid
defnydd y llawr gwaelod (6 uned) o ddefnydd masnachol cymysg i fanwerthu (Dosbarth
A1), gwasanaethau proffesiynol (Dosbarth A2) neu fwyd a diod (Dosbarth A3), a
newid y llawr 1af, 2il a’r 3ydd llawn o ddefnydd masnachol gydag adeiladu
estyniad i'r 2il a'r 3ydd llawr, ac ychwanegu 4ydd llawr i ddarparu 28 uned
breswyl, ynghyd ag addasiadau allanol gan gynnwys blaenau siopau newydd a
gwaith ategol yn 12-14 Stryd y Coleg, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. (Eitem 5)
Cais Cynllunio 2018/0285FUL - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO 3
ystafell wely ar gyfer 6 pherson (Dosbarth C4) yn 34 Stryd Westbury,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd y
Cynghorydd I E Mann (aelod lleol) y pwyllgor a siarad yn erbyn y cynigion. (Eitem 6)
Cais Cynllunio 2018/0322/FUL - Newid defnydd o annedd breswyl (Dosbarth C3) i
HMO ar gyfer 7 person gydag estyniad cefn unllawr a
lle parcio cysylltiedig yn 14 Cilgant Gwydr, Uplands,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd y
Cynghorydd I E Mann (aelod lleol) y pwyllgor a siarad yn erbyn y cynigion. (Eitem 7)
Cais Cynllunio 2017/0674FUL - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO 4
ystafell wely ar gyfer 4 person (Dosbarth C4) yn 25 Stryd y Bae, Port Tennant, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd y
Cynghorydd C Lloyd (aelod lleol) y pwyllgor gan siarad yn erbyn y cynigion. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Derbyniwyd 1 cynrychioliad sy'n cefnogi ar 25 Ebrill 2018 sy'n nodi
sylwadau gan landlord bod HMO sy'n llawn myfyrwyr neu bobl sy'n gweithio yn
cael eu cadw mewn gwell cyflwr, oherwydd eu bod yn cael eu rheoli'n bersonol a
bod problemau'n cael eu datrys yn gyflym. Noda'r awdur nad oes gwahaniaeth mewn
rhentu i grŵp o 4 gweithiwr neu fyfyrwyr na theulu mawr. Derbyniwyd 1 ddeiseb o wrthwynebiad ar 20 Ebrill 2018 y tu allan i'r cyfnod
ymgynghori. Noda'r ddeiseb, "Cafwyd cynnydd sylweddol mewn ceisiadau
HMO (Tai Amlfeddiannaeth) yn ein cymuned i newid eiddo preswyl i deulu'n llety
cyfyng i fyfyrwyr. Mae'r sector HMO â'r amodau gwaethaf, ewch i
ymweld â wardiau Uplands a'r Castell i weld yr
hyn y mae'n rhaid i breswylwyr lleol ymdrin ag ef a'r effaith y mae'n ei chael.
Rydym am wrthwynebu'r crynodiad niweidiol o geisiadau HMO oherwydd byddant
yn cael effaith andwyol ar gymeriad ein cymuned" ac mae'n rhestru
amrywiaeth o wrthwynebiadau gyda llofnod o 37 cyfeiriad gwahanol. Derbyniwyd 1
gwrthwynebiad ychwanegol ar 23 Ebrill 2018 sy'n nodi "NID ydym am i'n
cymuned hyfryd gael ei throi'n lleoliad dynodedig ar gyfer HMO, lle mae
landlordiaid am wneud elw'n unig a lle nad oes DIM llety fforddiadwy ar gyfer
EIN plant a'n hwyrion a’n hwyresau. Nid ydym ac ni fyddwn yn cael ein gwthio
ymaith”. 2) Bydd y cais cynllunio a nodwyd isod yn cael yn cael
ei ohirio dan y broses bleidleisio dau gam er mwyn cael adroddiad pellach
ar y rhesymau dros y gwrthodiad: (Eitem 2)
Cais Cynllunio 2017/2677/FUL - Datblygiad defnydd cymysg sy'n cynnwys 23 annedd
breswyl a siop goffi gyda chyfleuster gyrru trwodd a gwaith cysylltiedig ar dir
ar Fferm Heol Ddu, Heol Gellifedw, Gellifedw, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd Phil
Baxter (asiant) y pwyllgor. Anerchodd Emma
Jason ac Estelle Bubear
(gwrthwynebwyr) y pwyllgor. Anerchodd y
Cynghorwyr C R Doyle, M Sykes, A Pugh a P M Matthews (aelodau lleol) y pwyllgor
a siarad yn erbyn agwedd fanwerthu'r datblygiad arfaethedig. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn amlinellu
canlyniadau apêl at yr Arolygydd Cynllunio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor
Cynllunio ym mis Mehefin 2016 i wrthod y cais cynllunio ar safle'r chwarel. Nodwyd o
ganlyniad i raddfa'r datblygiad, roedd yr apêl wedi'i hadfer er mwyn i
Weinidogion Cymru wneud penderfyniad arni. Roedd yr arolygydd wedi argymell
caniatáu'r apêl, ac roedd y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |