Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

65.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

 

 

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd P M Black – Personol a Rhagfarnol – Cais Cynllunio 2017/2441/RES (Eitem 1) – Cyfrannodd y datblygwr arian at fy ymgyrch etholiadol yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016, a gadawodd cyn y drafodaeth.

 

Y Cynghorydd P Lloyd – Personol a Rhagfarnol – Cais Cynllunio 2017/2441/RES (Eitem 1) - Rwy'n adnabod yr ymgeisydd.

 

Y Cynghorydd A H Stevens – Personol – Cais Cynllunio 2018/0358/S73 (Eitem 2) - Rwyf wedi bod yn gysylltiedig â'r cais ar ran y preswylwyr.

 

Y Cynghorydd A H Stevens - Personol a Rhagfarnol – Cais Cynllunio 2016/1478 (Eitem 6) - Bu'n gysylltiedig â'r cais yn flaenorol fel Cynghorydd Cymuned gyda Chyngor Tref Gorseinon ac wedi rhentu rhan o dir ar gyfer anifeiliaid, a gadawodd cyn y drafodaeth.

 

 

66.

Cofnodion. pdf eicon PDF 122 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2018 fel cofnod cywir.

 

67.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

68.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

Penderfynwyd

 

1) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod(#):

 

(Eitem 1) Cais Cynllunio 2017/2441/RES - Datblygiad preswyl gyda 45 o anheddau (manylion mynediad, golwg, tirlunio, cynllun a graddfa'n unol â chaniatâd cynllunio 2006/1902 a roddwyd ar 6 Gorffennaf 2012 fel y'i hamrywir gan gais Adran 73 2014/1189) ar dir yn Upper Bank, Pentrechwyth, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

(#)(Eitem 2) Cais Cynllunio 2018/0358/S73 - Datblygiad preswyl lle'r adeiledir 41 uned, gan gynnwys mynediad a'r holl weithiau cysylltiedig - amrywiad ar amod 2 (cynlluniau cymeradwy) caniatâd cynllunio 2017/0775/FUL a roddwyd ar 8 Awst 2017 er mwyn ychwanegu is-orsaf a diwygio'r parcio ar gyfer lleiniau 3 i 6 yn Heol Pentre Bach, Gorseinon, Abertawe.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Adroddwyd am lythyr dim gwrthwynebiad hwyr (yn amodol ar amodau draenio) gan Ddŵr Cymru.

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar yr ymgeisydd yn ymrwymo i Weithred Amrywio i Adran 106 y Rhwymedigaeth Gynllunio a'r amodau a amlinellir.

 

(Eitem 3) Cais Cynllunio 2017/2610/FUL - Adeiladu ysbyty preifat deulawr/trillawr (Dosbarth C2) gyda maes parcio oddi tano ac yn yr awyr agored, iard wasanaethu a mynediad cysylltiedig, gwaith isadeiledd a thirlunio ar leiniau A15 ac A16 Heol Langdon, SA1 Glannau Abertawe, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd C Lloyd (aelod lleol) a siaradodd o blaid y cais.

 

(Eitem 4 Cais Cynllunio 2018/0413/S73 - Cais Adran 73 i amrywio Amod 3 (caniatáu i ddau ddefnyddiwr werthu bwyd, hyd at gyfanswm o 3,720 metr sgwâr (Arwynebedd Allanol Gros), ac Amodau 2, 4, 5, 6, 7 a 21 (i gyfeirio at y Cynllun Safle diwygiedig - cyfuno Unedau 5A a 5B) ac Amod 9 (diwygio gorffeniadau allanol Unedau 5A/5B) cais cynllunio 2016/0662 a roddwyd ar 26/10/2016 yn Uned 5A a 5B, Parc Tawe, Canol y Ddinas, Abertawe

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar amodau ac ar yr amod bod yr ymgeisydd yn ymrwymo i Weithred o Amrywio newydd i Ymgymeriad Unochrog Adran 106.

 

(#) (Eitem 5) Cais Cynllunio 2017/2638/FUL - Adeiladu ffatri 4,672m2 (Dosbarth B2) gyda pharcio ategol, 2 loches i feiciau, lloches smygu, ystafell switshys,

iard wasanaeth a thirlunio ar Lain H, Heol Bruce, Fforest-fach, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Adroddwyd am lythyr hwyr gan yr Awdurdod Glo a nododd ei fod yn dymuno gwneud sylw am y cais, ond ni fyddai'n gallu cyflwyno sylwadau tan 11 Ebrill 2018.

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar yr amodau a amlinellir, ac yn amodol ar unrhyw amodau y bernir bod eu hangen gan yr Awdurdod Glo. (Os yw'r Awdurdod Glo'n gwrthwynebu, adroddir yn ôl i'r Pwyllgor Cynllunio am y mater)

 

(#) (Eitem 6) Cais Cynllunio 2016/1478 - Cais cynllunio hybrid (gyda'r holl faterion wedi'u cadw ar wahân i fynediad strategol) ar gyfer datblygiad defnydd cymysg, preswyl yn bennaf, i'w ddatblygu fesul cam, gan gynnwys: gwaith paratoi fel y bo angen, gan gynnwys cloddio/ailraddio lefelau safle; hyd at 750 o unedau preswyl (dosbarth defnydd C3, gan gynnwys cartrefi fforddiadwy); darparu 1 ysgol gynradd; arwynebedd llawr A1-A3/D1 hyblyg o oddeutu 280m2 - 370m2; lle agored gan gynnwys parciau; man gwyrdd naturiol a lled-naturiol; mannau gwyrdd ar gyfer amwynderau; cyfleusterau i blant a phobl ifanc; darpariaeth chwaraeon awyr agored, gan gynnwys caeau chwarae; gwasanaethau cysylltiedig, gwaith isadeiledd a pheirianneg gan gynnwys mynediadau cerbydau newydd, gwaith gwella i'r rhwydwaith priffyrdd presennol, ffyrdd, llwybrau cerdded/beicio newydd; gwaith tirlunio (gan gynnwys systemau draenion cynaliadwy) gwaith lliniaru ecolegol a gwaith ategol ar dir i'r gogledd o Bentre'r Ardd, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y cyfarfod gan Geraint John (asiant).

 

Anerchwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd W Evans (aelod lleol) a siaradodd o blaid pryderon/gwrthwynebiadau preswylwyr lleol ynghylch y cais, yn enwedig o ran y problemau traffig, colli mannau gwyrdd a diffyg darpariaeth feddygol ar gyfer y dyfodol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Adroddwyd am un llythyr gwrthwynebu hwyr.

 

Caiff y cais ei gyfeirio at Lywodraeth Cymru fel cais gwyro, ac argymhellir ei fod yn cael ei gymeradwyo'n amodol ar yr amodau ac ar yr ymgeisydd yn ymrwymo i gytundeb Adran 106 fel a fanylir yn yr adroddiad.

 

69.

Cymeradwyo drafft adolygiad ardal cadwraeth Mumbles ar gyfer ymgynghoriad y cyhoedd a hapddalwyr. pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o Adolygiad Drafft o Ardal Gadwraeth y Mwmbwls a cheisiodd ganiatâd i gynnal ymgynghoriad â'r cyhoedd a rhanddeiliaid.

 

Darparwyr cyflwyniad gweledol a oedd yn amlinellu'r prif ddiwygiadau arfaethedig i'r polisi.

 

Penderfynwyd:

1)  Cymeradwyo dogfen Adolygiad Drafft o Ardal Gadwraeth y Mwmbwls ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus â'r cyhoedd a rhanddeiliaid.

 

2) Adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Cynllunio am atodlen o ymatebion i'r sylwadau a dderbyniwyd er mwyn iddo ei ystyried a rhoi cymeradwyaeth derfynol iddo fel Canllawiau Cynllunio Atodol.