Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: Datganodd y
Cynghorydd M H Jones gyswllt personol a rhagfarnol yng Nghais Cynllunio rhif 2018/0191
(eitem 9) - Mae fy ngŵr wedi cyflwyno sylwadau'n erbyn y cynnig, a
gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth. |
|||
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2018 yn gofnod cywir. |
|||
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: (Eitem 7)
Cais Cynllunio 2018/0119/FUL - Newid adeilad presennol ac adeiladu estyniad
unllawr ar yr ochr er mwyn darparu 13 uned breswyl i fyfyrwyr yn Twizzle Lodge,
Rhodfa Hawthorne, Uplands, Abertawe. Tynnwyd y cais yn
ôl gan yr ymgeiswyr. |
|||
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd 1) Cymeradwyo'r
ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir
isod(#): #(Eitem 1)
Cais Cynllunio 2013/1403 - Dymchwel hen Sinema'r Castell/Laserdome
(to ac ardaloedd mewnol yn rhannol), a'i newid o Ddosbarth D2 (Gwasanaethau a
Hamdden) i ddatblygiad defnydd cymysg gan gynnwys 2 uned fasnachol (Dosbarth
A1/A2/A3) ar y llawr gwaelod isaf (ar y Strand), 1
uned fasnachol (Dosbarth A1/A2/A3) ar y llawr gwaelod/llawr cyntaf (i Worcester Place), gyda 58 o
ystafelloedd gwely ar gyfer myfyrwyr o fewn 11 fflat clwstwr ynghyd ag
addasiadau allanol gan gynnwys agoriadau ffenestr newydd a tho newydd yn hen
Sinema'r Castell, Worcester Place,
Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan John Skinner (Cymdeithas Sinema Theatr Cymru), Moira Lucas (asiant) a Richard Jones (perchennog). Amod ychwanegol wedi'i ychwanegu fel a ganlyn: 12. Ni ymgymerir ag unrhyw ddatblygiad nes bod yr ymgeisydd neu ei asiant
neu ei olynydd mewn teitl wedi sicrhau cytundeb ar gyfer cynllun ysgrifenedig o
liniariad amgylchedd hanesyddol sydd wedi'i gyflwyno a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig
gan yr awdurdod cynllunio lleol. Ar ôl hynny, cynhelir y rhaglen waith yn unol
â gofynion a safonau'r cynllun ysgrifenedig. #(Eitem 2)
Cais Cynllunio 2013/1405 - Dymchwel hen Sinema'r Castell/Laserdome
(to ac ardaloedd mewnol) yn rhannol, a'i newid o Ddosbarth D2 (Gwasanaethau a
Hamdden) i ddatblygiad defnydd cymysg gan gynnwys 2 uned fasnachol (Dosbarth
A1/A2/A3) ar y llawr gwaelod isaf (ar y Strand), 1
uned fasnachol (Dosbarth A1/A2/A3) ar y llawr gwaelod/llawr cyntaf (i Worcester Place), gyda 58 o ystafelloedd
gwely ar gyfer myfyrwyr o fewn 11 fflat clwstwr ynghyd ag addasiadau allanol
gan gynnwys agoriadau ffenestr newydd a tho newydd (cais am Ganiatâd Adeiladau
Rhestredig) yn hen Sinema'r Castell, Worcester Place, Abertawe. Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gyfeiriad i CADW am benderfyniad. #(Eitem 4)
Cais Cynllunio 2017/2641/S73 - Cais o dan Adran 73 i amrywio amodau 1 a 32 o
Ganiatâd Cynllunio 2014/1946 a gymeradwywyd ar 15 Medi 2017 i ddiwygio
ffiniau'r adeilad a'r strategaeth dylunio fanwl mewn perthynas ag
ailddatblygiad cynhwysfawr ar dir ym Mhen y Mwmbwls a Blaendrawth
ar dir ym Mhen y Mwmbwls, y Pafiliwn a Blaendraeth y Mwmbwls, Heol y Mumbles, y Mwmbwls, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan John Powell (gwrthwynebydd). Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd M A Langston
(aelod lleol) a gofynnodd am eglurdeb ar ran preswylwyr ynghylch effaith bosib
y diwygiadau arfaethedig, yn enwedig yr angen ar gyfer amddiffyn golygfa ac
agwedd y goleudy. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am lythyr hwyr gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Adroddwyd am lythyr gwrthwynebu hwyr arall gan Gyngor Cymuned y Mwmbwls. Adroddwyd am 7 llythyr gwrthwynebiad a anfonwyd yn hwyr. #(Eitem 5)
Cais Cynllunio 2017/2665/RG3 - Dymchwel adeiladau presennol ac adeiladu Uned
Cyfeirio Disgyblion newydd (a adwaenir fel UCD Abertawe) a mynediad, mannau
parcio a thirweddu cysylltiedig. (Rheoliad Datblygu 3 y Cyngor) ar dir y tu ôl i Dŷ'r
Cocyd, Heol y Cocyd, y Cocyd, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Diwygiwyd Amod 21 fel a ganlyn: Mae'r geiriau "darparu croesfan i gerddwyr" wedi'u hepgor o'r
amod. #(Eitem 6)
Cais Cynllunio 2018/0036/FUL - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO 6 ystafell
wely (Dosbarth C4) yn 6 Heol Bryn-y-môr, Brynmill,
Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr I E Mann, P N May, N J Davies
(aelodau lleol) a siaradon nhw yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am ddeiseb wrthwynebu ychwanegol a lofnodwyd gan 31 o bobl. (Eitem 9)
Cais Cynllunio 2018/0191.FUL - Cadw adeilad allanol ar wahân o flaen yr ardd yn
489 Heol Gŵyr, Cilâ, Abertawe. Anerchwyd y pwyllgor gan Rob Hesketh
(gwrthwynebydd). Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd J W Jones (aelod lleol) a siaradodd
yn erbyn y cais. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. 2) Gwrthodwyd y ceisiadau isod am y rhesymau a amlinellir isod: #(Eitem 3)
Cais Cynllunio 2017/1429/FUL - Dymchwel strwythur presennol ac adeiladu adeilad
3 llawr i ddarparu unedau llety myfyrwyr â 72 o ystafelloedd gwely (fflatiau
stiwdio a chlwstwr), mynediad o Stryd Miers, tirweddu
a mannau parcio beiciau a cheir yn yr hen Dŷ Cyhoeddus Cape Horner, Stryd Miers, St Thomas,
Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan David Edwards (gwrthwynebydd) a Phil Baxter
(asiant). Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr J A Hale a C E Lloyd (aelodau lleol)
a siaradodd yn erbyn y cais. Gwrthodwyd y cais yn groes i argymhellion y swyddog am y rhesymau canlynol: 2) Bydd y datblygiad arfaethedig, y tu allan i ganol y ddinas, oherwydd ei
faint, ei ffurf a'i berthynas ag anheddau preswyl presennol, yn arwain at
grynhoad niweidiol o lety myfyrwyr yn yr ardal, a fydd yn cael effaith negyddol
ar amwynderau preswyl a chydlyniant cymdeithasol y
gymuned leol yn groes i ofynion Polisïau EV1, EV2 ac HC2 Cynllun Datblygu
Unedol Dinas a Sir Abertawe (2008) a nodau'r polisi cenedlaethol a bennwyd ym
Mholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 9 Tachwedd 2016), sef creu cymunedau cymysg,
cynaliadwy a chynhwysol.
#(Eitem 8) Cais Cynllunio 2018/0161/FUL - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i
HMO 6 ystafell wely (Dosbarth C4) yn 199 Rhodfa San Helen, Brynmill,
Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr I E Mann, P N May, N J Davies (aelodau
lleol) a siaradon nhw yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am ddeiseb wrthwynebu ychwanegol a lofnodwyd gan 17 o bobl. Gwrthodwyd y cais yn groes i argymhellion y swyddog am y rhesymau canlynol: Byddai'r cynnig, ar y cyd â Thai Amlfeddiannaeth (HMO) yn Rhodfa San Helen
yn arwain at grynhoad niweidiol o HMO a mwy ohonynt yn y stryd a'r ardal
ehangach. Byddai'r effaith gronnus hon
yn arwain at niweidio cymeriad yr ardal a chydlyniant
cymdeithasol gyda lefelau uwch o breswylwyr dros dro a llai o aelwydydd tymor
hir a theuluoedd sefydledig. Byddai'r fath effaith, yn y tymor hir, yn arwain
at gymunedau na fyddent yn gytbwys nac yn hunangynhaliol. O ganlyniad, mae'r
cynnig yn groes i faen prawf (ii) Polisi HC5 Cynllun
Datblygu Unedol Dinas a Sir Abertawe (2008) a nodau'r polisi cenedlaethol a
bennwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 9 Ionawr 2016), sef creu cymunedau
cymysg, cynaliadwy a chynhwysol. |