Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

56.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

57.

Cofnodion. pdf eicon PDF 152 KB

Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2018 fel cofnod cywir.

 

58.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

59.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

Penderfynwyd

 

1) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod(#):

 

#(Eitem 1) Cais cynllunio 2017/2572/FUL - Datblygiad amlddefnydd sy'n cynnwys 28 o anheddau preswyl a dwy uned fasnachol (Dosbarth A1) yn Pines Country, 692 Heol Llangyfelach, Treboeth, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Gill Bramley (gwrthwynebydd) a Phil Baxter (asiant).

 

Cymeradwywyd y cais yn unol ag argymhelliad yn amodol ar ymrwymo i Rwymedigaeth Cynllunio Adran 106 ac yn amodol ar y diwygiadau canlynol i delerau'r rhwymedigaeth ac amodau 10 ac 19:

 

Yng nghytundeb A106, dylai'r gofyniad i derfynu defnydd preswyl tŷ 690 Heol Llangyfelach hefyd gynnwys amserlen ar gyfer dymchwel yr eiddo yn dilyn cymeradwyaeth unrhyw hysbysiad o'r gwaith dymchwel ymlaen llaw.

 

Dylid diwygio amod 10 i nodi:

Cyn i unrhyw waith uwchstrwythurol ddechrau, cyflwynir yr uchder, dyluniad, y deunyddiau a'r math o driniaeth ffiniau a fydd yn cael eu codi i'r awdurdod cynllunio lleol a bydd hwnnw yn ei gymeradwyo.  Bydd y cynllun yn cynnwys darparu sgrîn sain ar hyd y ffin ddeheuol fel y nodir yng nghynllun HG.13.65 (0) 50 T (Cynllun arfaethedig y safle) ac yn rhoi manylion am sut gellir atgyfnerthu ffin ogleddol y safle, ger tŷ 694 Heol Llangyfelach gan ddefnyddio cerrig o'r wal derfyn bresennol ar ôl lleihau ei huchder.  Caiff y driniaeth i'r ffin ei gorffen fel y cymeradwywyd cyn y datblygiad a gymeradwyir drwy hyn gael ei feddiannu a bydd yn cael ei chynnal felly am gyhyd â bydd y datblygiad yn cael ei ddefnyddio.

Rheswm: At ddiben cynnal a chadw cynllun tirlunio boddhaol ac i ddiogelu amwynder gweledol yr ardal.

 

Dylid diwygio amod 19 i nodi:

Ni chaniateir cwsmeriaid i fynd i'r fangre fanwerthu y tu allan i'r oriau rhwng 07:00 a 22:00 ar unrhyw ddiwrnod.  Caiff nwyddau ar gyfer yr unedau masnachol eu dosbarthu rhwng 08:00 a 09:00 yn unig ar unrhyw ddiwrnod.

Rheswm: Diogelu amwynderau'r rhai sy'n byw yn nhai gerllaw.

 

 

 

 

(Eitem 2) Cais cynllunio 2017/2360/OUT
Annedd ar wahân (amlinellol) ar dir sy'n rhan o rif 44 Heol Cefn Stylle, Tre-gŵyr, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

(Eitem 3) Cais cynllunion 2017/2511/FUL - Adeiladu 25 o unedau preswyl (16 o dai tref tri llawr, bloc tri llawr o 6 fflat a thri fflat "uwchben garej") gyda mynediad cysylltiedig, parcio, man storio sbwriel a beiciau a gwaith tirlunio yn llain E3b i'r de o Ffordd Fabian, Heol Langdon, Dociau Abertawe, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Robin Vaughan (gwrthwynebydd) a Phil Baxter (ymgeisydd).

 

Cymeradwywyd y cais yn unol â'r argymhelliad yn amodol ar yr ymgeisydd yn ymrwymo i Rwymedigaeth Gynllunio Adran 106 ac yn amodol ar ychwanegu amod i fynd i'r afael â gwanhau sain yn yr eiddo fel a ganlyn:

Cyn dechrau unrhyw waith uwchstrwythurol, cyflwynir manylion gwanhau sain yr eiddo ar gyfer y drysau, y ffenestri a'r waliau allanol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a bydd hwnnw yn cymeradwyo hyn yn ysgrifenedig. Bydd y cynllun a gyflwynir yn sicrhau bod ystafelloedd y gellir byw ynddynt yn amodol ar fesurau inswleiddio sain yn cael eu darparu gydag unedau awyru mecanyddol fel bod y rhai a fydd yn byw ynddynt yn y dyfodol yn gallu cadw eu ffenestri ar gau. Ni fydd unrhyw uned breswyl yn cael ei meddiannu tan i'r mesurau inswleiddio sain ac awyru a gymeradwywyd gael eu gosod mewn perthynas â'r uned honno.

Rheswm: Diogelu defnydd preswyl arfaethedig yn erbyn sain bresennol sy'n deillio o draffig yn yr ardal a gweithdrefnau masnachol gerllaw.

 

60.

Gwagle Cyhoeddus Agored - SA1 Glannau Abertawe pdf eicon PDF 633 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn ymwneud â darparu Ardaloedd Chwarae i Blant o fewn y datblygiad yn SA1.

 

Amlinellwyd y manylion cefndir a'r cyd-destun mewn perthynas â'r ddarpariaeth, yn ogystal â'r cynnig diwygiedig gan Lywodraeth Cymru i ariannu tri man agored/cyhoeddus yn y lleoliadau a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd:

 

1) ymrwymo i Rwymedigaeth Cynllunio Adran 106 i ddarparu man agored/cyhoeddus yn ogystal ag ardal chwarae i blant yn y tair ardal a nodir o fewn Datblygiad Abertawe SA1, yn amodol ar dderbyn taliad gwerth £1,000,000 gan Lywodraeth Cymru i dalu am y dyluniad, y cynllun a chostau cynnal a chadw'r ddarpariaeth yn y dyfodol.      

 

2) cytuno ar yr ymagwedd a nodir uchod gan y Pwyllgor Cynllunio a rhoi

pwerau dirprwyedig i Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas er mwyn cytuno

ar fanylion Rhwymedigaeth Gynllunio Adran 106  Llywodraeth Cymru.