Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

46.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

47.

Cofnodion. pdf eicon PDF 108 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2017 fel cofnod cywir.

 

48.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

(Eitem 1) Cais Cynllunio 2017/1684/OUT - Adeiladu 40 o anheddau, ffordd fynediad newydd a gosod pont newydd (amlinellol) ar dir yn Felin Frân, Llansamlet, Abertawe

 

Tynnwyd y cais yn ôl gan yr ymgeiswyr.

 

 

49.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

Penderfynwyd

 

1) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod:

 

(Eitem 2) Cais Cynllunio 2017/2201/FUL - Annedd newydd ar wahân gyda garej ar wahân yn Underhill, Llanmadog, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

(Eitem 3) Cais Cynllunio 017/2220/FUL - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO 3 ystafell wely (Dosbarth C4) yn 8 Stryd Lewis, St. Thomas, Abertawe.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Mr Rowe (gwrthwynebydd).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr C E Lloyd a J Hale (aelodau lleol) a siaradon nhw yn erbyn y cais.

 

(Eitem 4) Cais Cynllunio 2017/1451/OUT - Datblygiad preswyl o hyd at 100 o anheddau yn ogystal â lleoedd parcio, mynediad tirlunio a mannau agored cysylltiedig. (cais amlinellol - holl faterion wedi'u cadw ar wahân) yn hen Bwll Glo Cefn Gorwydd, Heol Gorwydd, Tregŵyr, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Mike Rowlands a Val Higgon (gwrthwynebwyr) a Phillipa Cole (asiant).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd C A Holley ar ran y Cynghorydd S M Jones (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais.

 

Cymeradwywyd y cais yn unol â'r argymhelliad yn amodol ar adran 106 y Rhwymedigaeth Gynllunio fel y'i nodir yn yr adroddiad.

 

(Eitem 5) Cais Cynllunio 2017/2195/ADV - 1 arwydd mewnol sy'n sefyll ar ben ei hun wedi'i oleuo a 2 arwydd ffens wedi'u gosod heb eu goleuo yn 30 Cilgant Uplands, Uplands, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorwyr N J Davies ac I E Mann (aelodau lleol), a oedd yn siarad yn erbyn y cais.