Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd M H
Jones - Personol - Cais Cynllunio 2017/1801(Eitem 3) - Rwyf yn byw yn agos i'r goleuadau
traffig y cynigir eu hadnewyddu drwy arian Adran 106. |
|||
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2017 fel cofnod cywir. |
|||
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Eitem 1) Cais
Cynllunio 2017/1342/FUL - Tir i'r de o 28 Christopher Rise,
Pontlliw, Abertawe Gohiriwyd y cais gan swyddogion er mwyn ystyried materion trefniadol
ymhellach. |
|||
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 55 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau
i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd 1) Cymeradwyo'r
ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir
isod(#): #(Eitem 2) Cais
cynllunio 2017/1440/FUL/S73 - 30 Cilgant Uplands, Uplands, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Anerchodd y
Cynghorwyr N J Davies, I E Mann a M Sherwood (Aelodau Lleol) y pwyllgor a
siaradon nhw yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn:
Amod ychwanegol i ddarparu ardal smygu ddynodedig fel a ganlyn: Cyn ei ddefnydd buddiol fel caffi/bar/bwyty caiff manylion yr ardal smygu ddynodedig
ac arwyddion penodol o fewn cwrtil y safle eu cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio
Lleol a'u hawdurdodi'n ysgrifenedig ganddo. Caiff yr ardal smygu ddynodedig ei
nodi gydag arwyddion ar y safle a'i chadw ar ôl hynny i wasanaethu'r fangre. Rheswm: At ddibenion diogelu amwynder cyfagos. #(Eitem 3) Cais
Cynllunio 2017/1801/RES - Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan, Sgeti, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. #(Eitem 4) Cais
Cynllunio 2017/1819/FUL - The Cricketers, 83 Heol y Brenin Edward, Brynmill,
Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Anerchodd Phil
Baxter (asiant) y pwyllgor. Anerchodd y
Cynghorwyr N J Davies, I E Mann a M Sherwood (Aelodau Lleol) y pwyllgor a
siaradon nhw yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Tudalen 55 Diwygiad Galwyd y cais i
mewn ar gyfer penderfyniad ar gais y Cynghorwyr Nick Davies a Peter May. Cymeradwywyd y cais yn unol â’r argymhelliad yn amodol
ar gwblhau Rhwymedigaeth Gynllunio Adran 106 ar gyfer cyfraniad ariannol
i isadeiledd priffyrdd. |
|||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a nododd sylwadau a dderbyniwyd yn
ystod yr ymgynghoriad ar yr Adolygiad o Ardal Gadwraeth Treforys, a geisiodd
gytundeb ar y diwygiadau arfaethedig i'r arweiniad drafft ac i’w mabwysiadu fel
Canllaw Cynllunio Atodol. Penderfynwyd y dylid 1)
Mabwysiadu’r Arfarniad o Gymeriad Ardal Gadwraeth Treforys a’r Cynllun Rheoli
fel a amlinellir yn Atodlen A y Canllaw Cynllunio Atodol i Bolisi EV9 y CDU. 2)
Cymeradwyo ffiniau mwyach yr Ardal Gadwraeth fel a nodir yn Atodlen C yr
adroddiad. 3) Cytuno ar y Cyfarwyddyd Erthygl 4 drafft i dynnu Hawliau Datblygu a Ganiateir ar gyfer eiddo dethol fel a nodir yn Atodlen D yr adroddiad a'i gyflwyno |