Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

41.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd M H Jones - Personol - Cais Cynllunio 2017/1801(Eitem 3) - Rwyf yn byw yn agos i'r goleuadau traffig y cynigir eu hadnewyddu drwy arian Adran 106.  

 

42.

Cofnodion. pdf eicon PDF 128 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2017 fel cofnod cywir.

 

43.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Eitem 1) Cais Cynllunio 2017/1342/FUL - Tir i'r de o 28 Christopher Rise, Pontlliw, Abertawe

 

Gohiriwyd y cais gan swyddogion er mwyn ystyried materion trefniadol ymhellach.

 

44.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 55 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

Penderfynwyd

1) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod(#):

 

#(Eitem 2) Cais cynllunio 2017/1440/FUL/S73 - 30 Cilgant Uplands, Uplands, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchodd y Cynghorwyr N J Davies, I E Mann a M Sherwood (Aelodau Lleol) y pwyllgor a siaradon nhw yn erbyn y cais.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Tudalen 30 - Ymateb i Ymgynghoriad

Ymgynghorwyd ag un eiddo cyfagos nid dau fel y cyfeiriwyd ato. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad yn unol â gofynion Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y'i diwygiwyd) gan anfon llythyr at breswyliwr yr unig safle cyfagos ac arddangos hysbysiad safle.

 

Tudalen 37 – Diwygio Amod Rhif 9 i’w ddarllen fel a ganlyn:

Ni chynhelir unrhyw waith ychwanegol ynglŷn â'r ardal batio gymeradwy nes bod Cynllun Diogelu Coed a Datganiad o Ddull Tyfu Coed wedi'u cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal yn unol â'r manylion cymeradwy a fydd yn cynnwys 'parth dim cloddio'; amlinelliad o sut y bydd system ddraenio'n cael ei gosod heb effeithio'n andwyol ar goed y safle; a phalmant na fydd yn effeithio ar lefelau pH.

 

Rheswm: Er mwyn diogelu coed rhag niwed ar  safle y cais er budd amwynder gweledol a chymeriad a golwg yr ardal gadwraeth.

 

Derbyniwyd sylwadau ychwanegol gan gymydog. Cyfeiriwyd at adroddiad a nododd y bu ymgynghori â 'dau eiddo cyfagos'. Nodwyd pryder am oriau agor a pharcio.

 

Amod ychwanegol i ddarparu ardal smygu ddynodedig fel a ganlyn:

Cyn ei ddefnydd buddiol fel caffi/bar/bwyty caiff manylion yr ardal smygu ddynodedig ac arwyddion penodol o fewn cwrtil y safle eu cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u hawdurdodi'n ysgrifenedig ganddo. Caiff yr ardal smygu ddynodedig ei nodi gydag arwyddion ar y safle a'i chadw ar ôl hynny i wasanaethu'r fangre.

 

Rheswm: At ddibenion diogelu amwynder cyfagos.

 

#(Eitem 3) Cais Cynllunio 2017/1801/RES - Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan, Sgeti, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

#(Eitem 4) Cais Cynllunio 2017/1819/FUL - The Cricketers, 83 Heol y Brenin Edward, Brynmill, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchodd Phil Baxter (asiant) y pwyllgor.

 

Anerchodd y Cynghorwyr N J Davies, I E Mann a M Sherwood (Aelodau Lleol) y pwyllgor a siaradon nhw yn erbyn y cais.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Tudalen 55 Diwygiad

Galwyd y cais i mewn ar gyfer penderfyniad ar gais y Cynghorwyr Nick Davies a Peter May.

 

Cymeradwywyd y cais yn unol â’r argymhelliad yn amodol ar gwblhau Rhwymedigaeth Gynllunio Adran 106 ar gyfer cyfraniad ariannol i isadeiledd priffyrdd.

 

45.

Mabwysiadu Adolygiad Ardal Gadwraeth Treforys fel Canllawiau Cynllunio Atodol, a Chynnig i Gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4(2). pdf eicon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a nododd sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar yr Adolygiad o Ardal Gadwraeth Treforys, a geisiodd gytundeb ar y diwygiadau arfaethedig i'r arweiniad drafft ac i’w mabwysiadu fel Canllaw Cynllunio Atodol.

 

Penderfynwyd y dylid

 

1) Mabwysiadu’r Arfarniad o Gymeriad Ardal Gadwraeth Treforys a’r Cynllun Rheoli fel a amlinellir yn Atodlen A y Canllaw Cynllunio Atodol i Bolisi EV9 y CDU.

 

2) Cymeradwyo ffiniau mwyach yr Ardal Gadwraeth fel a nodir yn Atodlen C yr adroddiad. 

 

3) Cytuno ar y Cyfarwyddyd Erthygl 4 drafft i dynnu Hawliau Datblygu a Ganiateir ar gyfer eiddo dethol fel a nodir yn Atodlen D yr adroddiad a'i gyflwyno