Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd D W W Thomas – Eitem Agenda 7 (Cais Cynllunio 2017/1393/S73) – Personol – Mae fy chwaer yn breswylydd yn Campion Gardens.

 

30.

Cofnodion. pdf eicon PDF 79 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 1 Awst 2017 fel cofnod cywir.

 

31.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Cafodd yr eitem ganlynol ei gohirio gan swyddogion:

Eitem Agenda 6 - Gorchymyn Cadw Coed Dros Dro - GCC629 - Tir wrth 7 Teras Hadland, West Cross, Abertawe.

 

32.

Gorchymyn Cadw Coed Dros Dro - GCC628 - 24 Heol y Chwarel, Treboeth, Abertawe. pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth i gadarnhau fel gorchymyn llawn, orchymyn dros dro GCC 628 wrth dir ger 24 Heol y Chwarel, Treboeth.

 

Amlinellwyd y sylwadau a dderbyniwyd ynghylch y cynnig a manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Gorchymyn Cadw Coed 628: Tir ger 24 Heol y Chwarel, Treboeth.

 

 

33.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

PENDERFYNWYD

 

1) CYMERADWYO'R ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod:

 

(Eitem 1) Cais Cynllunio 2017/1067/FUL – 13A Stryd Balaclave, St Thomas, Abertawe

 

#(Eitem 2) Cais Cynllunio 2016/0354/FUL – Sunnybank, Reynoldston, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

#(Eitem 3) Cais Cynllunio 2017/0425/FUL – The Pines, Oxwich, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

(Eitem 4) Cais Cynllunio 2017/1434/S73 – Pentref Ymddeol Campion Gardens, Comin Clun, Mayals, Abertawe

 

(Eitem 5) Cais Cynllunio 2017/1434/S73 – Birch Court, 44 Heol Sway, Treforys, Abertawe

 

34.

2013/0617 - Tir i'r de o Heol Glebe, Casllwchwr, Abertawe. pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm adroddiad ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a oedd yn amlinellu penderfyniad blaenorol y pwyllgor ynghylch cymeradwyo datblygiad preswyl yn y lleoliad uchod, yn amodol ar gytundeb Adran 106, y cynhwyswyd ei fanylion yn yr adroddiad.

 

Atodwyd copïau o adroddiad gwreiddiol y pwyllgor cynllunio er gwybodaeth.

 

Mae Adran 1.7 yr adroddiad (tudalen 59) yn cyfeirio at adroddiad y Pwyllgor Cynllunio a Thaflen Camau Gweithredu 4 Ebrill 2017 yn cael eu hatodi fel Atodiad B. Fodd bynnag, drwy gamgymeriad nid oedd y dogfennau hyn wedi cael eu hatodi fel atodiad i adroddiad yr eitem. Cafodd copïau o'r dogfennau hyn eu dosbarthu i aelodau'r Pwyllgor Cynllunio cyn dechrau'r cyfarfod.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Dylai llinell olaf Adran 3.1 yr adroddiad (tudalen 60) gael ei diwygio fel a ganlyn:

 

“Ac yn unol â’r amodau a bennwyd yn Atodiad A, ac eithrio Amod 3 y dylid ei ddiwygio er mwyn cyfeirio at y cynllun safle diwygiedig a gyflwynwyd fel rhan o’r cais hwn (Rhif 1107-TP01 Diw. B – Cynllun Presennol y Safle, a dderbyniwyd ar 21 Gorffennaf 2017).”

 

Derbyniwyd hefyd lythyr hwyr breswylydd sy'n byw ar Heol Glebe yn gwrthwynebu i'r cais am y rhesymau a grynhoir isod:

Ni all Heol Glebe ymdopi â’r traffig ychwanegol a gynhyrchir gan y datblygiad arfaethedig. Mae cyfleusterau parcio eisoes yn annigonol i breswylwyr Heol Glebe ac mae'r ffordd eisoes yn beryglus. Bydd y traffig ychwanegol a gynhyrchir gan y cynnig yn gwneud yr ardal o amgylch mynedfa'r safle yn beryglus i breswylwyr lleol.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchodd y Cynghorydd R V Smith (Aelod Lleol) y pwyllgor gan siarad i gefnogi'r cais yn amodol ar beidio â diwygio amodau cytundeb Adran 106 o'r rheiny a gynhwyswyd yn y gymeradwyaeth wreiddiol.

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R cais yn amodol ar gytundeb Adran 106 i ddarparu:

·          15% o dai fforddiadwy ar y safle; sy'n cynnwys cymysgedd 50/50 o eiddo 2 a 3 ystafell wely wedi'u darparu ar 42% o Arweiniad i Gostau Derbyniol, o ddaliadaethau wedi'u rhentu'n gymdeithasol sy'n cydymffurfio â Gofynion Ansawdd Datblygu. Dylai dyluniad a manyleb y tai fforddiadwy fod o safon sy'n gyfartal â'r rhai a ddefnyddir yn yr Unedau Marchnad Agored;

·          Cyfraniad addysg o £100,000;

·          Cyfraniad priffyrdd o £92,100;

·          Cynlluniau rheoli ar gyfer cynnal a chadw a rheoli'r pyllau gwanhau a chynnal a chadw a rheoli mannau agored cyhoeddus a'r ardaloedd chwarae, a mynediad cyhoeddus iddynt;

·          Caiff ffïoedd monitro eu talu'n unol â gofynion CCA mabwysiedig y cyngor yn dwyn y teitl "Rhwymedigaethau Cynllunio" (2010).