Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Y Cynghorydd M H Jones – Eitem 1 (2024/0277/S73) – Personol Y Cynghorydd R A Williams – Eitem 6 (2024/0081/FUL) – Personol Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd M H
Jones - eitem 1 (2024/0277/S73) – personol Y Cynghorydd R A
Williams - eitem 6 (2024/0081/FUL) - personol |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2024 fel cofnod
cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 80 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. 2024/0277/S73 – Cymeradwywyd 2. 2024/0733/FUL – Cymeradwywyd 3. 2023/1174/FUL – Cymeradwywyd 4. 2023/1175/LBC – Cymeradwywyd 5. 2024/0604/S73 – Cymeradwywyd 6. 2024/0081/FUL - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer:
Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i
Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor cyn y cyfarfod.) Penderfynwyd cymeradwyo'r
ceisiadau cynllunio isod: #(Eitem 1) - Cais Cynllunio - 2024/0277/S73 - Adeiladu adeilad
ystafelloedd newid unllawr, un cae rygbi maint llawn,
un cae hyfforddi, maes parcio â lle i 36 car a gosod colofnau llifoleuadau
uchel 11 x 15m (amrywio amodau 20 a 22 caniatâd cynllunio 2014/0306 a roddwyd
ar 27 Awst 2014 i ganiatáu i'r llifoleuadau weithredu o ddydd Llun i ddydd
Gwener o 16:30 - 21:00 ac i'r cyfleusterau weithredu tan 21:00) yng Nghae
Chwaraeon Casllwchwr, Ffordd Cae Duke, Gorseinon Abertawe. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: a. Derbyniwyd
dau wrthwynebiad ychwanegol yn dilyn anfon llythyrau hysbysu'r pwyllgor at yr
holl wrthwynebwyr, yn mynegi'r pryderon canlynol: · Mae'r ffurflen gais yn nodi'n anghywir nad
yw'r safle'n weladwy o'r ffordd · Mae'r ddarpariaeth barcio ar gyfer 36 car
ond mae 80 yn defnyddio'r safle · Materion diogelwch ar y briffordd · Materion preswyl ac amwynder cyffredinol,
gan gynnwys sŵn a tharfu o ganlyniad i ddefnyddio cerbydau o fewn Ffordd Cae Duke · Cyflymder troseddol defnyddwyr sy'n gadael
Ffordd Cae Duke · Mae'r giatiau'n aml yn cael eu gadael heb
eu cloi gan annog defnydd anawdurdodedig y tu hwnt i oriau gweithredu Sylwadau'r Swyddog: Mae'r ddau wrthwynebydd wedi cyflwyno sylwadau am y cais yn flaenorol gan
fynegi pryderon tebyg (er y mae un gwrthwynebydd bellach yn cyfeirio at nifer
uwch o gerbydau'n defnyddio'r safle). Fodd bynnag ystyrir bod y materion hyn
eisoes wedi cael sylw sylweddol o fewn adroddiad gwreiddiol y pwyllgor b. Nodwyd gwall
yn y frawddeg gyntaf o dan yr is-bennawd 'Materion Eraill' lle cyfeirir at
ddatblygiad preswyl (tudalen 13 adroddiad y pwyllgor). Er eglurder, mae'r cais
yn ymwneud â chyfleusterau hamdden yn unig ac nid yw'n cynnwys unrhyw
ddatblygiad preswyl. Adroddwyd am
lythyr gwrthwynebu hwyr ar lafar. Anerchodd
y Cynghorydd Robert Smith (Aelod Lleol) y pwyllgor a siaradodd o blaid y cais
oherwydd y mesurau lliniaru a roddwyd ar waith sy'n golygu bod y safle’n addas i'w ddefnyddio. (Eitem 2) -
Cais Cynllunio 2024/0733/FUL - Adeiladu 22 annedd preswyl fforddiadwy a gwaith
isadeiledd cysylltiedig ar dir i'r gogledd o Heol Dynys, Ravenhill,
Abertawe. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Ychwanegwyd nodyn
cynghori ychwanegol yn cyfeirio at nwy pwll (Eitem 3) -
Cais Cynllunio 2023/1174/FUL - Ailddatblygu hen Sinema'r Castell i ddarparu
cynllun defnydd cymysg o unedau masnachol a 30 fflat preswyl sy'n cynnwys
ailwampio, estyniad a gwaith cysylltiedig yn hen Sinema'r Castell, Worcester Place, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol manwl a chynhwysfawr. (Eitem 4) -
Cais Cynllunio 2023/1175/LBC - Ailddatblygu hen Sinema'r Castell er mwyn
darparu cynllun defnydd cymysg o unedau masnachol a 30 fflat preswyl sy'n
cynnwys ailwampio, estyniad a gwaith cysylltiedig (cais am gydsyniad adeilad
rhestredig) yn hen Sinema'r Castell, Worcester Place, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Caiff
y cais ei gyfeirio at CADW. (Eitem 5) -
Cais Cynllunio 2024/0604/S73 - Adeiladu 166 o anheddau gyda mynedfa
gysylltiedig, tirlunio, man agored, isadeiledd gwyrdd, isadeiledd draenio a
gwaith cysylltiedig - amrywiad ar amod 2 caniatâd cynllunio 2021/1495/FUL a
roddwyd ar 5 Gorffennaf 2022 i alluogi ar gyfer amnewid mathau o dai cymeradwy
ar 47 llain ar dir i'r gogledd o Llewellyn Road, Penlle'r-gaer, Abertawe. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Cymeradwywyd y
cais yn amodol ar addasiad i A106. (Eitem 6) -
Cais Cynllunio 2024/0081/FUL - Defnyddio tir ar gyfer lleoli 4 cwt bugail i'w gosod
fel llety gwyliau tymor byr yn Fferm Tyle House, Llangynydd, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol |
|
Cyf. Cais Cynllunio: 2024/1110/106 - Tir i'r goggled o Bentre'r Ardd Abertawe SA4 4HE. PDF 166 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Ardal ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r
Ddinas adroddiad a oedd yn ceisio awdurdodiad i addasu'r Cytundeb A106 mewn
perthynas â Chaniatâd Cynllunio 2016/1478 (ar gyfer y datblygiad a ddisgrifir
uchod). Cyflwynwyd y cais gan yr ymgeisydd o dan A106(A)(1)(a) o Ddeddf Cynllunio
Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd) a gofynnwyd i wneud y diwygiad canlynol: ·
Diwygio'r drydedd atodlen i alluogi Cyngor Abertawe i fod yn ddewis ar
gyfer derbyn / trosglwyddo'r cartrefi fforddiadwy, yn ogystal â/yn lle'r
Landlord Cymdeithasol Cofrestredig. Amlinellwyd a manylwyd ar hanes cefndir y mater yn yr adroddiad. Penderfynwyd rhoi caniatâd i addasu trydedd atodlen y Cytundeb A106 i alluogi Cyngor
Abertawe i fod yn ddewis ar gyfer derbyn / trosglwyddo'r cartrefi fforddiadwy,
yn ogystal â/yn lle'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig. |