Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

8.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Y Cynghorydd M Baker, P M Black, P Downing, A J Jeffrey, M H Jones, M B Lewis, R D Lewis, P Lloyd, N L Matthews, M S Tribe, T M White & A Williams – eitem 1 - 2024/0728/FUL – personol.

 

 

Cofnodion:

 

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol.

 

Y Cynghorwyr P M Black, P Downing, A J Jeffrey, M H Jones, S E Keeton, M B Lewis, R D Lewis, P Lloyd, N L Matthews, M S Tribe, T M White ac A Williams - Eitem 1 - 2024/0728/FUL – personol

 

 

9.

Cofnodion. pdf eicon PDF 128 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2024 fel cofnod cywir.

 

10.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Dim.

11.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(1)  2024/0728/FUL - Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir ato isod:

 

(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2024/0728/FUL - Estyniad ochr deulawr yn 3 Acacia Road, West Cross, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

12.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 115 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. 

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. 

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

13.

Adroddiad Gweithredu Gorfodi Dirprwyedig.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad i'r Pwyllgor ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a oedd yn amlinellu'r achosion o dorri rheolaeth gynllunio sy'n digwydd ar y safle.

 

Amlinellwyd yr hanes cefndir sy'n berthnasol i'r materion amrywiol yn yr eiddo a manylwyd arnynt i'r aelodau.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol a dangoswyd ffotograffau amrywiol o'r safle.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad gorfodi.