Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 a 16 Mai 2024 a'u llofnodi fel
cofnodion cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 79 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. 2023/1965/FUL - Cymeradwywyd 2. 2024/0164/S73 - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer:
Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i
Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y
cyfarfod.) Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod: #(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2023/1965/FUL -
Adeiladu 31 o anheddau fforddiadwy gyda gwaith isadeiledd cysylltiedig ar dir
i'r dwyrain o Clordir
Road, Pontlliw, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol manwl. Roedd ymweliad safle
wedi'i gynnal â safle'r cais y diwrnod cyn y cyfarfod. Anerchwyd y pwyllgor gan Rob Davies (asiant ar gyfer ymgeiswyr) a siaradodd
o blaid y cais. Anerchodd y Cynghorydd Victoria Holland (Aelod Lleol) y pwyllgor a
siaradodd yn erbyn y cynigion ar faterion parcio/diogelwch traffig ac ynghylch
diffyg cludiant cyhoeddus/cludiant ysgol am ddim yn unig. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Derbyniwyd pum
llythyr ychwanegol, a dau ohonynt o un cyfeiriad, yn gwrthwynebu'r cais. Mae'r
sylwadau wedi'u cyfuno a'u crynhoi fel a ganlyn: 1. Diogelwch ar y priffyrdd i blant ysgol, rhieni a phreswylwyr.
Yn enwedig yn ystod amserau gollwng plant am 8-9am, 11am–12pm ar gyfer plant
meithrin a 2.30-4pm ond drwy gydol y diwrnod ysgol cyfan; 2. Mae parcio ceir anghyfreithlon ar ffyrdd yn
niweidiol i ddiogelwch ar y priffyrdd a materion mynediad ar gyfer gwasanaethau
brys; 3. Nifer o safleoedd mwy addas, yn hytrach na
defnyddio ardaloedd maes glas a'r llain las; 4. Effaith o ganlyniad i fwy o draffig a
thagfeydd ar yrhwydwaith priffyrdd ehangach; 5. Mae'r safle y tu allan i ffin y pentref; ac 6. Mae
gwasanaethau lleol, gan gynnwys Ysgol Gynradd Pontlliw, meddygfeydd a
gwasanaeth bws eisoes yn cael trafferth neu'n llawn ac mae ganddynt broblemau
wrth ehangu. 7.
Effaith andwyol ar bathewod a bywyd gwyllt arall, ecoleg a bioamrywiaeth 8. Llygredd aer/ansawdd aer 9. Y posibilrwydd o ehangu'r
datblygiad yn y dyfodol 10. Dibrisiad eiddo 11. Ddim yn cyd-fynd â'r ardal 12. Colli'r olygfa Mae'r materion
a godwyd eisoes wedi derbyn sylw rhesymol yn adroddiad gwreiddiol y pwyllgor. O ran ehangu yn y dyfodol, asesir pob cais yn ôl ei
rinweddau ei hun, gan
ystyried yr amgylchiadau penodol a'r polisïau a'r
canllawiau sy'n berthnasol ar adeg asesu'r cais. Ni chyflwynwyd unrhyw
geisiadau cynllunio eraill i'r awdurdod ar gyfer ehangu'r safle hwn. O'r
herwydd, gellid ond rhoi pwysau cyfyngedig ar y mater penodol
hwn ar hyn o bryd wrth ystyried y cais hwn. Ystyrir nad yw colli'r
olygfa'n ystyriaeth gynllunio sylweddol wrth benderfynu ar y cais hwn. Cymeradwywyd y
cais yn amodol ar gytundeb Adran 106. (Eitem 2) - Cais Cynllunio 2024/0164/S73 - Cais cynllunio
amlinellol (gyda phob mater ar wahân) ar gyfer adnewyddu, newid a/neu ddymchwel
yr holl adeiladau/adeileddau presennol ar y safle (ac eithrio Eglwys y Santes Fair ac Eglwys Dewi Sant) ac ailddatblygu safle gyda
mynediad/cynllun dangosol a pharamedrau graddfa ar safle'r gogledd o uchafswm o
1 i 7 llawr ac uchafswm arwynebedd llawr newydd o 84,050 metr sgwâr sy'n
cynnwys defnydd manwerthu/masnachol/swyddfa (Dosbarthiadau A1/A2/A3/B1) preswyl
(Dosbarth C3), sefydliad dibreswyl (Dosbarth D1) a hamdden (Dosbarth D2), maes
parcio aml-lawr ac ailddatblygu safle'r de ag uchafswm o 40,700 metr sgwâr o
arwynebedd llawr sy'n cynnwys arena newydd (Dosbarth D2), gwesty/adeilad
preswyl â hyd at 13 llawr (Dosbarth C1/C3), bwyd a diod (Dosbarth A3), maes
parcio yn yr is-grofft a chanolfan ynni posib. Ar
draws y ddau safle, darperir mannau agored cyhoeddus newydd cysylltiedig/mannau
cyhoeddus a thirlunio, trefniadau mynediad a gwasanaethu newydd i gerddwyr a
cherbydau (gan gynnwys pont gyswllt i gerddwyr ar draws Oystermouth Road),
darparu arosfannau bysiau newydd ar Oystermouth Road,
mynediad newydd i gerddwyr trwy fwâu presennol ar hyd Victoria Quay, adleoli cerflun Syr H Hussey
Vivian, gwaith cloddio, a pheirianwaith - Cais Adran
73 i amrywio amodau 1 a 4 o ganiatâd 2019/0980/S73 a roddwyd ar 5 Mehefin 2019
i ddiwygio'r paramedrau datblygu a chaniatáu amserlen ddiwygiedig lle mae
Materion a Gadwyd yn Ôl yn cael eu cyflwyno yn Hen Ganolfan Dewi Sant a thir
arall i'r gogledd ac i'r de o Oystermouth Road, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol manwl. Anerchodd Gordon Gibson (gwrthwynebwr) y pwyllgor a siaradodd yn erbyn y
cynigion. |