Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Y Cynghorydd P Downing – Eitem 6 – 1 (2023/1965/FUL – personol Y Cynghorydd M H Jones – Eitem 8 - personol Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd P
Downing – Eitem 6 (1) - 2023/1965/FUL - Personol Y Cynghorydd M H
Jones – Eitem 8 - Personol |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ebrill 2024 fel cofnod cywir |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Oorchymyn Cadw Coed Amodol 691 Rectory Cottage, Llanilltud Gwyr. (2023) PDF 3 MB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Swyddog Coed ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a
oedd yn ceisio ystyriaeth ar gyfer cadarnhad, fel Gorchymyn llawn, o Orchymyn
Diogelu Coed dros dro GCC 691, Rectory Cottage, Llanilltud Gŵyr. (2023). Amlinellwyd a manylwyd ar hanes cefndir y cynnig a'r gorchymyn dros dro
a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2023, a'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd i'r cynnig
yn yr adroddiad a'r cyflwyniad llafar. Gohiriwyd yr eitem yng nghyfarfod mis Ebrill ar gyfer ymweliad safle,
cynhaliwyd yr ymweliad safle y diwrnod cyn y cyfarfod. Anerchwyd y pwyllgor gan Mr Gordon a Mr Coode
(gwrthwynebwyr) a siaradodd yn erbyn y cadarnhad arfaethedig ar gyfer y GCC. Penderfynwyd cadarnhau
Gorchymyn Cadw Coed GCC 691 Rectory Cottage, Llanilltud Gŵyr (2023) heb ei addasu. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 80 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
2023/1965/FUL – Gohiriedig
- ymweliad safle 2.
2024/0365/LBC – Cymeradwywyd 3.
2023/2630/FUL - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer:
Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i
Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y
cyfarfod.) Penderfynwyd 1) gohirio’r cais
cynllunio a nodir isod er mwyn cynnal ymweliad safle. #(Eitem 1)
- Cais Cynllunio 2023/1965/FUL - Adeiladu 31 o anheddau fforddiadwy gyda gwaith
isadeiledd cysylltiedig ar dir i'r dwyrain o Clordir Road, Pontlliw, Abertawe Cyn gohirio. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol manwl. Anerchwyd y pwyllgor gan Rob Davies (asiant ar gyfer ymgeiswyr) a siaradodd
o blaid y cais. Anerchwyd y
pwyllgor gan Richard Bowen (asiant y Cyngor Cymuned - gwrthwynebwyr) a
siaradodd yn erbyn y cynnig. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd Victoria Holland (Aelod Lleol) a siaradodd yn erbyn y
cynigion ar faterion parcio/diogelwch traffig yn unig. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Mae gohebiaeth wedi’i derbyn yn dangos bod Cyngor Cymuned Pontlliw a Thircoed wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn i
Weinidogion Cymru alw'r cais i mewn i'w ystyried gan Weinidogion Cymru. Hyd
yma, ni dderbyniwyd ymateb na chyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru. Derbyniwyd dau lythyr ychwanegol yn gwrthwynebu'r cais gan breswylwyr lleol
gyda'u sylwadau wedi'u crynhoi fel a ganlyn: 1. Effaith newid
yn yr hinsawdd gan gyfeirio at lifogydd a materion draenio 2. Materion
traffig a diogelwch priffyrdd, gan gynnwys agosrwydd at ysgol, anawsterau
mynediad i gerbydau mawr a gwasanaeth bysus cyfyngedig 3. Ni fyddai'r
cynnig yn gwarchod yr amgylchedd naturiol a byddai’n niweidio buddiannau
ecoleg/bioamrywiaeth 4. Colli coed,
gwrychoedd a llystyfiant 5. Nid oes gan
ysgolion lleol ddigon o leoedd nac adnoddau 6. Amwynderau
annigonol yn y pentref i ddarparu ar gyfer y datblygiad 7. Colli amwynder
i breswylwyr cyfagos gan gynnwys colli preifatrwydd ac aflonyddwch 8. Safleoedd amgen
ar gael yn yr ardal yn hytrach na thir glas ac nid yw'r cynnig yn addas ar
gyfer y pentref Mae'r materion a
godwyd eisoes wedi cael sylw rhesymol yn adroddiad gwreiddiol y pwyllgor. 2. cymeradwyo'r
ceisiadau cynllunio isod. (Eitem 2) -
Cais Cynllunio 2024/0365/LBC - Ailadeiladu dwy bont hanesyddol adfeiliedig (a
enwir yn Bont Morfa a Phont Silverstack) sy'n croesi Camlas Abertawe sydd bellach
yn segur, ynghyd â'r llwybr halio ochr a waliau'r gamlas, i ddarparu cysylltiad
rhwng Morfa Road a safle Gwaith Copr y Morfa (cais am Ganiatâd Adeilad
Rhestredig) ym Mhontydd Morfa a Silverstack, Morfa Road, yr Hafod, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Caiff y cais ei
gyfeirio at CADW. #(Eitem 3)
- Cais Cynllunio 2023/2630/FUL - Dymchwel adeilad rhannol unllawr,
rhannol deulawr sy’n bodoli eisoes ac adeiladu annedd rhannol unllawr, rhannol deulawr newydd, gyda garej unllawr â tho gwastad ar wahân yn Cobwebs, Penmaen,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol manwl. Roedd ymweliad
safle wedi'i gynnal â safle'r cais y diwrnod cyn y cyfarfod. Anerchwyd y
pwyllgor gan David Patton (gwrthwynebydd) a siaradodd
yn erbyn y cynnig. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd Lynda James (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y
cynnig ar amwynder/dylunio gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Diwygiwyd Amod 2 fel a ganlyn; Rhaid ymgymryd â'r datblygiad yn unol â'r cynlluniau a'r dogfennau
cymeradwy canlynol: 2023/CBWEBS/SLP - Cynllun Lleoliad Safle, 2023/COBWEBS/P01 - Cynllun Safle Arfaethedig, 2023/COBWEBS/P12
- Cynllun Llawr Cyntaf Arfaethedig, 2023/COBWEBS/P13 - Cynllun To Arfaethedig,
2023/COBWEBS/P17 - Gweddlun Ochr (Dwyreiniol) Arfaethedig, 2023/COBWEBS/P19 -
Gweddlun Ochr (Gorllewinol) Arfaethedig a 2023/COBWEBS/P20 - Garej/Storfa
Arfaethedig, a dderbyniwyd ar 19 Rhagfyr 2023. 2023/COBWEBS/P11 - Cynllun Llawr Gwaelod Arfaethedig, a dderbyniwyd ar 26
Chwefror 2024. 2023/COBWEBS/P16 B - Gweddlun Blaen (Gogleddol) Arfaethedig –
Llun o’r Stryd, a dderbyniwyd ar 4 Mawrth 2024. 2023/COBWEBS/P15 B - Gweddlun Blaen (Gogleddol) Arfaethedig (O'r tu mewn
i'r ffin) a Gweddlun Cefn (Deheuol) Arfaethedig P18, a dderbyniwyd ar 8 Mai
2024. 2023/COBWEBS/P14 B - Gweddlun Blaen (Gogleddol) Arfaethedig (O flaen y
garej), a dderbyniwyd ar 14 Mai 2024. Rheswm: I osgoi amheuaeth a sicrhau cydymffurfiaeth â'r cynlluniau a
gymeradwywyd. |
|
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Arweinydd y Tîm Mynediad i Gefn Gwlad ar ran Pennaeth Cynllunio
ac Adfywio'r Ddinas a oedd yn ceisio ystyriaeth ar gyfer cais a wnaed i'r
Awdurdod hwn i wneud Gorchymyn Addasu i gywiro gwall sydd wedi digwydd ar y map
diffiniol sy'n arwain at ddangos llwybr ceffyl 12, Llanmadog ar aliniad
anghywir. Amlinellwyd a
manylwyd ar hanes cefndir y mater yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwneud
gorchymyn addasu map diffiniol i gywiro'r gwall ar lwybr ceffyl 12, ac, os
derbynnir gwrthwynebiadau, i'r gorchymyn a'r gwrthwynebiadau gael eu cyflwyno i
Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW). |
|
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Arweinydd y Tîm Mynediad Cefn Gwlad ar ran Pennaeth Cynllunio ac
Adfywio'r Ddinas a oedd yn ceisio ystyriaeth ar gyfer cais a wnaed i'r Awdurdod
hwn i wneud Gorchymyn Addasu i ychwanegu llwybr troed sy'n rhedeg o Stephenson
Road i Olchfa Lane (llwybr ceffyl KI111) at Fap Diffiniol y Cyngor o Hawliau
Tramwy Cyhoeddus. Amlinellwyd a
manylwyd ar hanes cefndir y mater yn yr adroddiad. Penderfynwyd, gan fod llwybr troed
eisoes wedi'i gofnodi drwy gytundeb cyflwyno gyda pherchennog y tir, y dylid
gwrthod y cais ac ni chaiff Gorchymyn Addasu ei wneud i ychwanegu llwybr troed
at y map diffiniol. |