Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

51.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

None.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

52.

Cofnodion. pdf eicon PDF 128 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Approved

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2024 fel cofnod cywir.

 

53.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

None

Cofnodion:

Dim..

54.

Cadarnhad o Orchymyn Cadw Coed 691 Rectory Cottage, Llanilltud Gwyr. pdf eicon PDF 2 MB

Penderfyniad:

Gohiriedig ar gyfer ymweliad safle.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Coed ar ran y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn gofyn am ystyriaeth o'r cadarnhad, fel Gorchymyn llawn, am Orchymyn Cadw Coed dros dro ar gyfer 691, Rectory Cottage, Llanilltud Gŵyr. (2023).

 

Amlinellwyd hanes cefndir y cynnig a’r gorchymyn dros dro a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2023 a manylwyd arnynt, yn ogystal â'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd i’r cynnig yn yr adroddiad a’r cyflwyniad llafar.

 

Adroddwyd am lythyr o wrthwynebiad pellach a dderbyniwyd yn hwyr.

 

Anerchodd Mr Gordon a Mr Coode (gwrthwynebwyr) y Pwyllgor a siaradon nhw erbyn y cadarnhad Gorchymyn Cadw Coed arfaethedig.

 

Penderfynwyd y dylid gohirio'r Gorchymyn Cadw Coed ar gyfer ymweliad safle.

 

 

 

55.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(1) - 021/0033/FUL - Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir ato isod.

 

(Eitem 1) - Cais Cynllunio - 021/0033/FUL - Adeiladu 20 annedd, ffordd fynediad newydd, pont newydd a gwaith cysylltiedig ar dir oddi ar Felin Frân, Felin Frân, Gellifedw, Abertawe

 

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb Adran 106.