Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

45.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

 

 Y Cynghorydd  P Lloyd and T M White Eitem 2 - Personol

 

Cofnodion:

 

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr P Lloyd a T M White gysylltiad personol ag Eitem 2 - 2023/1227/FUL - Tir yn Pentrechwyth Road, Bôn-y-maen, Abertawe.

 

46.

Cofnodion. pdf eicon PDF 239 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2024 fel cofnod cywir.

 

47.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Dim.

48.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     2023/1240/S73 – Cymeradwywyd

 

2.     2023/1227/FUL - Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

(Sylwer: Dosbarthwyd diweddariadau i'r adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau’r Pwyllgor cyn y cyfarfod.)

 

(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2023/1240/S73 - Adeiladu fferm solar 4MW sy'n cynnwys 14,790 o baneli unigol ac adeileddau a gwaith cysylltiedig - amrywiad ar amodau 2 (cynlluniau), 4 (Rheoli Tirwedd a Chynefinoedd), 7 (Cynllun Rheoli Dŵr Arwyneb), a 10 (System Draenio Gynaliadwy) o ganiatad cynllunio 2014/1837 a roddwyd ar 18 Awst 2015 yn Fferm Solar Dyffryn y Cocyd, Waunarlwydd, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

 

#(Eitem 2) - Cais Cynllunio 2023/1227/FUL - Dymchwel adeileddau presennol ac adeiladu 34 annedd breswyl fforddiadwy, sy'n cynnwys 5 pâr o anheddau pâr a 24 o fflatiau mewn 2 floc tri llawr a gwaith cysylltiedig ar dir yn Pentrechwyth Road, Bôn-y-maen, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchodd Richard Bowen (asiant ar gyfer ymgeiswyr) y Pwyllgor a siaradodd o blaid y cais.

 

Anerchodd Daniel Mills (gwrthwynebydd) y Pwyllgor a siaradodd yn erbyn y cynnig ar sail parcio.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Mae sylwadau'r Awdurdod Priffyrdd Lleol yn nodi mai dim ond 1.2m o ymyl sydd ar ddwy ochr y lleoedd parcio i'r anabl.  Er eglurder dylid nodi bod cynllun safle diwygiedig wedi'i dderbyn yn ystod y broses cyflwyno cais (cynllun safle arfaethedig A112 FERSIWN DDIWYGIEDIG) sy'n dangos 1.2m o ymylon ar y tair ochr. 

 

 

Diwygiwyd amodau 10, 12 a 15 i newid y geiriad o 'cyn cychwyn' i 'cyn cychwyn unrhyw waith uwchstrwythur uwchben y ddaear':

 

10.     Cyn cychwyn ar unrhyw waith uwchstrwythur uwchben y ddaear, mae manylion y cwmni rheoli mannau agored a chynllun cynnal a rheoli mannau agored wedi'u cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo.

 

Bydd yr wybodaeth yn cynnwys y canlynol:

a) Cynllun Cynnal a Rheoli Tirwedd ar gyfer y mannau agored a ddangosir ar gynllun safle arfaethedig cynllun rhif  A112 FERSIWN DDIWYGIEDIG .

b) Manylion y cwmni rheoli (asiant, corff neu sefydliad) sy'n gyfrifol am roi'r Cynllun Rheoli Tirwedd ar waith; a'r mecanwaith/mecanweithiau cyfreithiol a chyllidol a sicrheir er mwyn gwneud y gwaith o gyflawni'r Cynllun Cynnal a Rheoli Tirwedd drwy gydol oes y datblygiad arfaethedig. Bydd y mannau agored a ddangosir ar gynllun rhif. A112 FERSIWN DDIWYGIEDIG - cynllun safle arfaethedig yn cael eu rheoli gan y cwmni  cymeradwy a'u cynnal yn unol â'r manylion cymeradwy a'r cynllun ar gyfer oes y datblygiad cymeradwy.

 

Rheswm: Er budd amwynderau gweledol a chyffredinol ac ecoleg/bioamrywiaeth ac i sicrhau bod y cynigion tirwedd yn cael eu rheoli a'u cynnal yn unol â Pholisïau PS2 ac SI6 CDLl Abertawe.

 

12.     Er gwaethaf y manylion a gyflwynwyd a chyn i unrhyw waith uwchstrwythur uwchben y ddaear ddechrau, caiff cynllun o Fesurau Gwella Ecolegol ac Amserlen Weithredu eu cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo. Wedi hynny, eir ati i ymgymryd â'r dasg o gyflwyno mesurau Gwella Ecolegol yn unol â'r cynllun a'r Amserlen Gweithredu a gymeradwywyd, a'u cadw wedi hynny am oes y datblygiad. 

          

Rheswm: Er budd bioamrywiaeth ac i ddarparu budd net i fioamrywiaeth yn unol â Pholisi 9 Cymru'r Dyfodol ac ER 9 o Gynllun Datblygu Lleol Abertawe (2010-2025).  

 

15.     Cyn cychwyn unrhyw waith uwchstrwythur uwchben y ddaear, caiff manylion llawn yr is-orsaf  arfaethedig fel a ddangosir ar gynllun rhif  A112 FERSIWN DDIWYGIEDIG eu cyflwyno i'r  Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo, wedi hynny bydd yr is-orsaf  arfaethedig yn cael ei hadeiladu yn unol â'r manylion hyn a'i chadw felly ar gyfer oes y datblygiad.

 

Rheswm: Er budd amwynder gweledol, yn unol â Pholisi PS2 CDLl Abertawe.

 

 

49.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. 

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol. 

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

 

50.

Adroddiad Gorfodi.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad i'r Pwyllgor (ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas) a oedd yn amlinellu'r achosion o dorri rheolaeth gynllunio sy'n digwydd ar y safle.

 

Darparwyd cyflwyniad gweledol a ffotograffau o'r safle.

 

Anerchodd y Cynghorydd Will Thomas (Aelod Lleol) y Pwyllgor a siaradodd o blaid y camau gorfodi arfaethedig. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad.