Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2023 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. 2022/1134/RES - Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynwyd cais
cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Penderfynwyd cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir
ato isod. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer:
Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i
Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y
cyfarfod.) #(Eitem 1)
- Cais Cynllunio 2022/1134/RES - Adeiladu hyd at 108 uned breswyl a gwaith
cysylltiedig (manylion mynediad, edrychiad, tirlunio, cynllun, graddfa yn unol
ag amodau 6,8 a 9 caniatâd cynllunio amlinellol 2015/1584 a roddwyd ar 13 Mai
2016) (2008/0996 ac a oedd yn amrywio 2002/1000) ar gyfer datblygiad defnydd
cymysg yn SA1 Glannau Abertawe ar Lain E7 ac E8, Glannau Abertawe, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol manwl. Anerchodd Emily
Avery (asiant o RPS Group ar ran Associated British Ports) y Pwyllgor. Anerchodd Phil
Baxter (asiant ar gyfer yr ymgeiswyr, Pobl) y Pwyllgor. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: adroddwyd am 1
llythyr gwrthwynebu hwyr. Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb Adran
106. |