Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio 2022-2023. PDF 341 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr
Creu Lleoedd a Chynllunio Strategol adroddiad a oedd yn hysbysu Aelodau o
ganfyddiadau 4ydd Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol (AMB) ar
gyfer y cyfnod 2022 - 2023, ac roedd yn ceisio cymeradwyaeth i'w gyflwyno'n
ffurfiol i Lywodraeth Cymru. Nododd fod
yr adroddiad yn cyflwyno’r canfyddiadau ar gyfer rhan allweddol o'r broses
cynllun datblygu strategol, ac yn nodi sut mae nodau, amcanion a pholisïau
Cynllun Datblygu Lleol Abertawe wedi cael eu rhoi ar waith ar gyfer y cyfnod
2022 i 2023. Darparwyd
diweddariad llafar manwl mewn perthynas â'r prif feysydd a amlinellwyd yn yr
adroddiad a ddarparwyd. Gwnaeth yr
Aelodau sylwadau a gofynnwyd cwestiynau amrywiol i'r Swyddog, a ymatebodd yn
briodol. Caiff ychydig o ddiweddariadau ffeithiol bach eu gwneud i'r ddogfen
AMB cyn ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru, gan adlewyrchu materion a godwyd gan
Aelodau yn ystod y drafodaeth. Penderfynwyd 1)
Nodi canfyddiadau'r 4ydd AMB, fel a grynhowyd yn yr
adroddiad hwn ac fel a nodwyd yn llawn yn y ddogfen AMB (atodedig
yn Atodiad A yr adroddiad); 2)
Bod fersiwn derfynol y 4ydd AMB yn cael ei chymeradwyo
i'w chyflwyno i Lywodraeth Cymru yn unol â gofynion statudol. 3)
Bod Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu Swyddog
dynodedig, yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau argraffyddol,
gramadegol, cyflwyniadol neu ffeithiol i'r 4ydd AMB cyn iddo gael ei gyflwyno
a'i gyhoeddi. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd
y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol er
gwybodaeth. Mae
Llywodraeth Cymru'n ystyried bod yr adroddiad yn ddull pwysig ar gyfer monitro
perfformiad awdurdodau cynllunio lleol yn erbyn cyfres allweddol o
ddangosyddion perfformiad cenedlaethol. Mae'r
adroddiad hefyd yn offeryn pwysig ar gyfer meincnodi perfformiad awdurdodau
lleol ar draws Cymru. Manylwyd ar yr adroddiad drafft ar gyfer y cyfnod o
Ebrill 2022 i Mawrth 2023 yn yr atodiad i'r adroddiad. Rhoddwyd manylion
am y ffigurau perfformiad gwirioneddol, y gwelliannau a gyflawnwyd dros y
blynyddoedd diwethaf a'r materion i'w datrys ymhellach yn yr adroddiad, yn
ogystal â chyfres o benderfyniadau apêl yn deillio o geisiadau y gwnaed
penderfyniadau arnynt, yn groes i argymhellion swyddogion. Gofynnodd
yr Aelodau gwestiynau am bynciau amrywiol mewn perthynas â'r adroddiad, yr
ymatebodd y swyddog yn briodol iddynt, a nodwyd y bydd gwybodaeth fanwl y
gofynnwyd amdani yn cael ei dosbarthu i Aelodau yn dilyn y cyfarfod. |