Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7
Tachwedd 2023 fel cofnod cywir. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1) -
2023/2111/LBC - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cais
cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Penderfynwyd cymeradwyo'r
cais cynllunio y cyfeirir ato isod. (Eitem 1) -
Cais Cynllunio 2023/2111/LBC - Gosod sgrîn yn llys 2 i gyd-fynd â llys 1 i
wella'r system glyweledol yn neuadd y Ddinas. Llysoedd (cais
am ganiatâd adeilad rhestredig) yn Neuadd y Ddinas, St Helens
Crescent, Brynmill, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Sylwer:
Cymeradwywyd y cais a chafodd ei gyfeirio at CADW a Llywodraeth Cymru. |
|
Arweiniad Cynllunio Atodol Newydd: Addasu Adeiladau Gwledig Traddodiadol. PDF 403 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Creu Lleoedd a Chynllunio Strategol adroddiad a oedd yn crynhoi ac yn
nodi canlyniadau'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar fersiwn ddrafft o'r Canllawiau
Cynllunio Atodol (CCA) a cheisiodd gymeradwyaeth gan aelodau i fabwysiadu
fersiwn derfynol ddiwygiedig o'r CCA. Darparwyd
cyflwyniad PowerPoint a oedd yn crynhoi pwyntiau ac agweddau allweddol o'r
adroddiad i'r Pwyllgor. Yn dilyn y
cyflwyniad, gofynnodd yr aelodau gwestiynau amrywiol a cheisiwyd eglurder
ynghylch meysydd penodol yn yr adroddiad, ymatebodd swyddogion yn unol â hynny.
Penderfynwyd 1) Mabwysiadu
CCA Addasu Adeiladau Gwledig Traddodiadol, fel yr atodir yn Atodiad A, fel y
CCA ar gyfer y CDLl a fabwysiadwyd. 2) Bydd Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog priodol a ddirprwyir, yn cael ei
awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau argraffyddol, gramadegol, cyflwyniadol neu
ffeithiol i'r CCA cyn iddynt gael eu cyhoeddi. |
|
Cynllun Mynediad i Gefn Gwlad Drafft 2023-2033. PDF 248 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Mynediad i
Gefn Gwlad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer
y Cynllun Drafft at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus. Amlinellwyd yr
wybodaeth gefndirol ar gyfer y datblygiad o'r cynllun, y manylion a chrynodeb
o'r rhannau gwahanol amrywiol o'r cynllun drafft a gynhwysir ynddo, a dylid
cymryd y camau nesaf yn dilyn cymeradwyaeth o'r adroddiad drafft a manylwyd
arnynt yn yr adroddiad. Byddai'r
cynllun yn cael ei gyflwyno ar gyfer cyfnod ymgynghori cyhoeddus 12 wythnos cyn
gynted ag y bo'n ymarferol wedi iddo gael ei gymeradwyo. Amlinellodd
fyddai'r Awdurdod yn gallu cael mynediad at £25,000 o'r cyllid tuag at gynnal a
chadw a gwella hawliau tramwy gan Lywodraeth Cymru os byddai'r cynllun yn cael
ei gymeradwyo. Penderfynwyd cymeradwyo'r
Cynllun Mynediad i Gefn Gwlad ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ac adroddir yn ôl
i'r cyngor, fel y'i diwygiwyd, ar gyfer cymeradwyaeth derfynol. |