Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Y Cynghorydd P Lloyd – Eitem 5 (1) - 2023/1680/FUL - Personol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd P
Lloyd – Eitem 4 (1) - 2023/1680/FUL - Personol |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd
ar 3 a 24 Hydref 2023 a'u llofnodi fel cofnodion cywir. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio
isod. Adroddwyd
am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer:
Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i
Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y
cyfarfod.) (Eitem 1) - Cais
cynllunio2023/1765/S73 - Cae dan do newydd, estyniadau i adeiladau presennol y
ganolfan hamdden ynghyd ag ailgyfluniad mewnol fel y gellir darparu gwell
cyfleusterau campfa a newid, ystafell gymunedol, ardal gaffi a derbynfa,
ailbwrpasu’r ystafelloedd ffitrwydd presennol fel y gall yr ysgol eu defnyddio
at ddibenion buddiol, ailwampio'r cyrtiau tennis, y ffensys a'r goleuadau
cysylltiedig, gosod llwybrau cydgysylltiol i gerddwyr rhwng yr ysgol a'r
ardaloedd hamdden a'r cysylltiadau allanol presennol sy'n amgylchynu'r safle,
maes parcio newydd gyda mynedfa newydd yn agos i Cefn Hengoed Road - Amrywiad
ar amodau 13, 14 a 15 caniatâd cynllunio 2021/1331/FUL a roddwyd ar 1 Tachwedd
2021 i ganiatáu ar gyfer meddiannu'r cyfleuster hamdden a chymunedol cyn i'r
sgubor chwaraeon gael ei chwblhau ac i'r maes parcio, mannau gwefru a lle
storio beiciau gael eu darparu'n llawn pan gaiff y sgubor chwaraeon ei chwblhau
yng Nghanolfan Hamdden Cefn Hengoed
Caldicot Road, Bôn-y-maen, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol manwl. Anerchwyd y
pwyllgor gan Jamie Rewbridge (ymgeisydd– Cyngor Abertawe) . (Eitem 2) - Cais
Cynllunio 2023/2018/RES - Materion a gadwyd yn ôl Cais am adeiladu unedau
preswyl ac uned fasnachol gysylltiedig ar y llawr gwaelod, lle parcio ceir,
gwaith tirlunio ac isadeiledd yn unol â chaniatâd cynllunio amlinellol
2023/0357/OUT a roddwyd ar 22 Medi 2023 a chyflwyno manylion yn unol ag Amod 6
(Cynllun Tirlunio), 7 (Cynllun Rheoli Tirlunio), 8 (Lefelau tir a lefelau
lloriau arfaethedig), 9 (Samplau o orffeniadau allanol), 10 (Lluniadau manwl),
18 (Cilfan i gerbydau a gwaith cysylltiedig i'r briffordd), 27 (Sŵn) yn
Safle B3 , Riverside Wharf, Glannau Abertawe, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol manwl. # Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Awdurdod
Priffyrdd - nid oes ganddynt sylwadau pellach i'w gwneud ar ben y rheini a
ddarparwyd yn y cam amlinellol. |