Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Y Cynghorydd P Lloyd – Eitem 5 (1) - 2023/1680/FUL - Personol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd P
Lloyd – Eitem 5 (1) - 2023/1680/FUL - Personol |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Medi 2023 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Cais i ychwanegu Llwybrau Troed at Fap Diffiniol, Cwm Level Road, Glandwr. PDF 8 MB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Tîm Mynediad i Gefn Gwlad adroddiad a oedd yn gofyn i'r Aelodau
ystyried a ddylid derbyn neu wrthod cais a wnaed i'r awdurdod hwn i wneud
Gorchymyn Addasu i ychwanegu llwybr troed yn mynd o Cwm Level
Road i Dinas Street, a'i gofnodi felly ar Fap
Diffiniol Hawliau Tramwy Cyhoeddus y cyngor. Amlinellwyd a
manylwyd ar fanylion cefndir y cais a'r dystiolaeth a gyflwynwyd ynghyd â'r
ymchwiliadau a gynhaliwyd gan Swyddogion. Amlinellodd, er
mwyn i'r cyngor gyflwyno'r llwybrau troed i'r cyhoedd, fod yn rhai i'r sawl a
ymgeisiodd am y gorchymyn addasu dynnu ei gais yn ôl. Mae'r ymgeisydd wedi cytuno i wneud hyn ar yr
amod bod y cyngor yn cyflwyno'r llwybrau troed i'r cyhoedd. Penderfynwyd bod y cyngor yn
cyflwyno'r ddau lwybr troed ar ei dir fel llwybrau traed cyhoeddus, fel a
ddangosir ar y map a amlinellir yn 2.1 i'r adroddiad |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. 2023/1680/FUL – Cymeradwywyd 2. 2023/0744/FUL - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio
isod. Adroddwyd
am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)
(Sylwer: Dosbarthwyd diweddariadau i'r adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r
Pwyllgor yn ogystal â'i gyhoeddi ar wefan y cyngor cyn y cyfarfod. (Eitem 1)
Cais Cynllunio 2023/1680FUL - Newid defnydd o annedd breswyl (Dosbarth C3) i
HMO 4 ystafell wely (Dosbarth C4) 65 Windmill Terrace, St Thomas, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Roedd Aelodau'r
pwyllgor wedi ymweld â safle'r cais ar fore'r cyfarfod. Siaradodd y
Cynghorydd Hayley Gwilliam (Aelod Lleol) yn erbyn y cais. #(Eitem 2)
- Cais Cynllunio 2023/0744/FUL - Newid defnydd o 3 fflat i HMO i hyd at 9
person (Dosbarth Defnydd Unigryw) yn 42 Bryn Road, Brynmill, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Siaradodd Derek a
Nicola Bruce (gwrthwynebwyr) yn erbyn y cais.
Siaradodd y
Cynghorydd Peter May (Aelod Lleol) yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Dylai'r amod ychwanegol canlynol (Amod 5) gael ei gynnwys yn yr
argymhelliad. Dylai'r defnydd o'r eiddo fel HMO gael ei gyfyngu i uchafswm o 9 person ar
unrhyw adeg yn byw yn yr eiddo, yn unol â'r cynllun mewnol a ddangosir ar
Gynllun Rhif 1.02 H, sef cynllun llawr diwygiedig a dderbyniwyd ar 22 Awst
2023. Rheswm: Er mwyn cyfyngu ar y defnydd o'r eiddo i'r hyn y gwnaed cais amdano,
er mwyn diogelu amwynderau'r deiliaid cyfagos ac amwynderau deiliaid yr HMO yn
y dyfodol a darparu ar gyfer lefelau addas o le mewnol ar gyfer y deiliaid ac
yn unol â Pholisïau PS2 a H9 Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (2010-2025). Mae'r ffin llinell goch ar y Cynllun Lleoliad Safle
yn y pecyn agenda yn anghywir ac nid yw'n cynnwys y garej sydd y tu ôl i 44,
Bryn Road. Derbyniwyd Cynllun Lleoliad Safle diwygiedig ar 28
Medi 2023, Cynllun Rhif. 0.01B sy'n dangos bod 3 lle parcio i raddfa wedi'u
cynnwys, y tu ôl i'r safle a nodir yn y cais. Derbyniwyd 1 llythyr sylwadau hwyr yn codi'r
pryderon canlynol:
|
|
Cais Cynllunio: 2015/0453 - Penderfyniad Apel. PDF 211 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn
manylu ar ganlyniad apêl yn erbyn penderfyniad y pwyllgor ar 4 Gorffennaf 2023
i wrthod cais cynllunio ar dir yn ac oddi ar The Croft,
Castle Street, Abertawe. Amlinellwyd a
manylwyd ar resymau'r arolygwyr dros wrthod yr apêl yn yr adroddiad. |