Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

30.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

31.

Cofnodion. pdf eicon PDF 109 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2020 yn gofnod cywir.

32.

Cronfa Gyfalaf yr Economi Gylchol Llywodraeth Cymru 2019-20 - Cynnig cefnogaeth gyfalaf er mwyn cyflwyno gweithio ystwyth yn Neuadd y Ddinas, Abertawe. pdf eicon PDF 307 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo adroddiad i roi manylion am Gronfa Gyfalaf Economi Cylchol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 i gefnogi'r gwaith parhaus o gyflwyno gweithio ystwyth yn Neuadd y Ddinas, Abertawe.

 

Penderfynwyd rhoi cymeradwyaeth i dderbyn unrhyw gynnig grant yn sgîl cyflwyno cais ariannu i Gronfa Gyfalaf Economi Gylchol Llywodraeth Cymru 2019-20 i gefnogi'r gwaith o gyflwyno gweithio ystwyth yn Neuadd y Ddinas, Abertawe.

33.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

34.

Ceisiadau Cronfa Isadeiledd Gwyrdd Llywodraeth Cymru a Chyfle am Arian Grant Cyfalaf Tasglu'r Cymoedd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Economaidd adroddiad a oedd yn rhoi manylion y ceisiadau ariannu a gyflwynwyd i Gronfa Isadeiledd Gwyrdd Llywodraeth Cymru (LlC).

 

Yn dilyn trafodaethau, gofynnodd y Cadeirydd am adroddiad, i'w gyflwyno yn un o gyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol, a oedd yn amlinellu manylion y ceisiadau prosiect Isadeiledd Gwyrdd llwyddiannus.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cefnogir y saith o gynigion a wnaed i Gronfa Isadeiledd Gwyrdd LlC;

2)              Mae'r panel yn bwriadu cynnal trafodaethau ynghylch cronfa arian grant cyfalaf ar gyfer ardaloedd Tasglu Cymoedd De-orllewin Cymru.