Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

23.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

24.

Cofnodion: pdf eicon PDF 207 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2019 fel cofnod cywir.

25.

Cyllid Llywodraeth Cymru er mwyn Gwreiddio Ymagwedd Ysgol Gyfan at Gefnogi Iechyd a Lles Emosiynol 19/20. pdf eicon PDF 244 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Tîm Rhaglenni, Perfformiad a Datblygiad adroddiad i gyflwyno manylion dyraniad arian gan Lywodraeth Cymru i Gyngor Abertawe i wreiddio ymagwedd ysgol gyfan at gefnogi iechyd a lles emosiynol plant a phobl ifanc; a chynyddu mynediad staff yr Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) at ddysgu proffesiynol.

 

Penderfynwyd bod y Panel yn nodi'r cynnig gan Lywodraeth Cymru i'r cyngor am gyllid yr Ymagwedd Ysgol Gyfan.