Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2018
a’u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Arian Cronfa Bontio'r UE i Fynd i'r Afael â Thlodi Bwyd ac Ansicrwydd Bwyd. PDF 306 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi adroddiad a oedd yn darparu
manylion y dyraniad cyllid gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlC) i Gyngor Abertawe i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac
ansicrwydd bwyd. Ers drafftio'r adroddiad, roedd CLlC
wedi egluro ymhellach y gellid defnyddio'r arian ar gyfer unrhyw ddiben sy'n
angenrheidiol ym marn yr awdurdod, megis ar gyfer cyfleusterau storio e.e.
oergelloedd, paratoi bwyd, hyfforddi unigolion, treuliau gwirfoddolwyr, bwyd
etc. Yn ogystal, roedd 'ap' bwyd dros
ben yn cael ei ystyried. Gan fod yr arian eisoes wedi cael ei dderbyn, byddai
grantiau llai yn cael eu dyrannu cyn y Nadolig, gydag un arall yn cael ei roi
yn ystod mis Ionawr 2020. Byddai unrhyw arian dros ben yn cael ei ddyrannu ym
mis Chwefror 2020. Penderfynwyd y byddai'r panel yn nodi cynnig y cyngor ar gyfer arian gan CLlC i fynd i'r afael â thlodi bwyd. |
|
Cronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru. PDF 353 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr Trawsnewid y Gwasanaethau i Oedolion adroddiad er mwyn nodi cais yr
arian cyfalaf ar gyfer Cronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru (CGI). Eglurwyd efallai
y byddai 4 eitem olaf y tabl ym mharagraff 5.1 yn newid rhwng nawr a mis Mawrth
2020. Penderfynwyd: 1)
Y byddai'r
panel yn nodi cynnig elfen cyfalaf y cyngor o ran y Gronfa CGI; 2) Y byddai'r panel yn nodi gofyniad y Prif Swyddog Cyllid i gymeradwyo a llofnodi unrhyw dderbyniadau grant yn unol â Rheol 8 y Weithdrefn Ariannol. |