Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

19.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

20.

Cofnodion. pdf eicon PDF 211 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2018 a’u llofnodi fel cofnod cywir.

21.

Arian Cronfa Bontio'r UE i Fynd i'r Afael â Thlodi Bwyd ac Ansicrwydd Bwyd. pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi adroddiad a oedd yn darparu manylion y dyraniad cyllid gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlC) i Gyngor Abertawe i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd.

 

Ers drafftio'r adroddiad, roedd CLlC wedi egluro ymhellach y gellid defnyddio'r arian ar gyfer unrhyw ddiben sy'n angenrheidiol ym marn yr awdurdod, megis ar gyfer cyfleusterau storio e.e. oergelloedd, paratoi bwyd, hyfforddi unigolion, treuliau gwirfoddolwyr, bwyd etc.  Yn ogystal, roedd 'ap' bwyd dros ben yn cael ei ystyried.

 

Gan fod yr arian eisoes wedi cael ei dderbyn, byddai grantiau llai yn cael eu dyrannu cyn y Nadolig, gydag un arall yn cael ei roi yn ystod mis Ionawr 2020. Byddai unrhyw arian dros ben yn cael ei ddyrannu ym mis Chwefror 2020.

 

Penderfynwyd y byddai'r panel yn nodi cynnig y cyngor ar gyfer arian gan CLlC i fynd i'r afael â thlodi bwyd.

22.

Cronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru. pdf eicon PDF 353 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Trawsnewid y Gwasanaethau i Oedolion adroddiad er mwyn nodi cais yr arian cyfalaf ar gyfer Cronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru (CGI).

 

Eglurwyd efallai y byddai 4 eitem olaf y tabl ym mharagraff 5.1 yn newid rhwng nawr a mis Mawrth 2020. 

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y byddai'r panel yn nodi cynnig elfen cyfalaf y cyngor o ran y Gronfa CGI;

2)              Y byddai'r panel yn nodi gofyniad y Prif Swyddog Cyllid i gymeradwyo a llofnodi unrhyw dderbyniadau grant yn unol â Rheol 8 y Weithdrefn Ariannol.