Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

8.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

9.

Cofnodion. pdf eicon PDF 213 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2019 yn gofnod cywir. 

10.

Cronfa Gofal Integredig a Chronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru. pdf eicon PDF 343 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Trawsnewid (Gwasanaethau i Oedolion), â chefnogaeth Rheolwr y Rhaglen Drawsnewid, adroddiad a oedd yn rhoi cyngor i'r Panel Ariannu Allanol ynghylch arian Cronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru (CGI) a'r Gronfa Drawsnewid.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y byddai'r Panel Ariannu Allanol yn cynnig elfen y cyngor o'r Gronfa Drawsnewid;

2)              Y byddai'r Panel Ariannu Allanol yn nodi cynnig y cyngor o ran elfen refeniw'r Gronfa CGI;

3)              Y byddai'r panel allanol yn nodi gofyniad y Prif Swyddog Cyllid i gymeradwyo a llofnodi unrhyw dderbyniadau grant yn unol â Rheol 8 y Weithdrefn Ariannol.

11.

Canolfannau Dysgu Cymunedol Ysgolion yr 21ain Ganrif / Grant Cyfalaf Hybiau Cymunedol a Grant The Football Foundation - Ceisiadau am Gyllid ar gyfer Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed. pdf eicon PDF 573 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth yr Uned Cynllunio a Chyflwyno Cyfalaf a'r Rheolwr Strategol ar gyfer Hamdden, Partneriaethau, Iechyd a Lles adroddiad i roi gwybod i'r Panel Ariannu Allanol am y cais am arian i Lywodraeth Cymru a gymeradwywyd mewn perthynas â Rhaglen Grant Cyfalaf Canolfannau Dysgu Cymunedol/Canolfannau Cymunedol, gan geisio cymeradwyaeth i gyflwyno cais i'r Football Foundation i ddatblygu arwynebedd chwarae 3G dan do fel rhan o'r datblygiad hwn.

 

Nododd Pennaeth yr Uned Cynllunio a Chyflwyno Cyfalaf y byddai angen amserlen diwygiedig o 3 mis i gynnwys y broses dendro.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y byddai'r Panel Ariannu Allanol yn nodi'r cynnig am gyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ac yn cymeradwyo cynnydd y cynllun arfaethedig a chyflwyno cais i'r Football Foundation i ddatblygu arwynebedd chwarae 3G dan do fel rhan o'r datblygiad hwn;

2)              Y byddai'r Panel Ariannu Allanol yn nodi'r amserlen ddiwygiedig.

12.

Rhaglen Wastraff Cynnyrch Hylendid sy'n Amsugno Llywodraeth Cymru - Cynnig o Gymorth Cyfalaf. pdf eicon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn darparu manylion am Raglen Gwastraff Cynnyrch Hylendid Amsugnol (CHA) Llywodraeth Cymru - i gefnogi rhoi'r gwasanaeth casglu CHA (cewynnau/cynnyrch anymataliaeth) ar waith yng Nghymru.

 

Soniodd Aelod y Cabinet am ddiwygiadau posib i drefniadau'r gwasanaeth presennol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y byddai'r Panel Ariannu Allanol yn cymeradwyo derbyn y cynnig grant ar ôl cyflwyno cais am gyllid i Raglen Gwastraff Cynnyrch Hylendid Amsugnol (CHA) Llywodraeth Cymru, i gefnogi rhoi'r gwasanaethau casglu CHA (cewynnau/cynnyrch anymataliaeth) ar waith ar draws yr awdurdod.

13.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

14.

Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol.

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad ar geisiadau Ewropeaidd arfaethedig a cheisiadau allanol eraill gan y Rheolwr Ariannu Allanol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r 7 argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad.