Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

78.

Ethol Cadeirydd Dros Dro

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd M C Child yn Gadeirydd Dros Dro.

 

Bu'r Cynghorydd M C Child (Cadeirydd Dros Dro) yn llywyddu.

79.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd J E Burtonshaw gysylltiad personol â chofnod 81 fel Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Portmead.

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd C E Lloyd gysylltiad personol â chofnod 81 fel Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Dan-y-graig.

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd M Thomas gysylltiad personol â chofnod 81 fel Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Penclawdd.

80.

Cofnodion: pdf eicon PDF 101 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

Cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir.

81.

Gofal Plant 30 Awr Llywodraeth Cymru Grant Cyfalaf - Cais am Grant. pdf eicon PDF 149 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Tlodi a'i Atal adroddiad i hysbysu'r panel am y cais am grant cyfalaf 30 awr o ofal plant Llywodraeth Cymru a phroffil dangosol y gwariant a'r amserlenni ar gyfer cyflwyno'r rhaglen.

 

Penderfynwyd y dylai'r Panel Ariannu Allanol nodi cynnwys y cais a phroffil disgwyliedig y gwariant a'r amserlenni ar gyfer cyflwyno'r rhaglen.

 

Bu'r Cynghorydd RC Stewart (Cadeirydd) yn llywyddu 

82.

Cefnogi Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. pdf eicon PDF 106 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Bartner Ariannol (Pobl) adroddiad i roi gwybod i'r panel am ddyraniad cyllid mewn perthynas â chefnogi Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yn ystod 2018/19.

 

Penderfynwyd y byddai'r panel yn nodi'r goblygiadau sydd yn yr adroddiad ac, yn dilyn hynny, yn cymeradwyo derbyn y grant.

83.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

84.

Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol.

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad ar geisiadau Ewropeaidd arfaethedig a cheisiadau allanol eraill gan y Rheolwr Ariannu Allanol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r 4 argymhelliad, y'u hamlinellir yn yr adroddiad.