Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

63.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

64.

Cofnodion: pdf eicon PDF 102 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 1 Awst 2018 fel cofnod cywir.

65.

Cais Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru ar gyfer Hwb Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Amlddisgyblaethol, Integredig. pdf eicon PDF 138 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Partneriaeth a Chomisiynu gyflwyniad i gymeradwyo'r mynegiant o ddiddordeb i wneud cais am gyllid i gronfa 'Buddsoddi i Arbed' Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Hwb Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Integredig.

 

Penderfynwyd y dylai'r Panel Ariannu Allanol gymeradwyo cais yr Hwb Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.

66.

Cais Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Canfod Teuluoedd. pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, ynghyd â'r Prif Swyddog - Sefydlogrwydd adroddiad i gymeradwyo'r mynegiant o ddiddordeb i wneud cais am gyllid i gronfa 'Buddsoddi i Arbed' Llywodraeth Cymru ar gyfer y Prosiect Canfod Teuluoedd.

 

Penderfynwyd y dylai'r Panel Ariannu Allanol gymeradwyo'r cais i'r gronfa 'Buddsoddi i Arbed' ar gyfer y prosiect Canfod Teuluoedd.

67.

Y Gronfa Gofal Integredig: Cyllid Dementia 2018/19. pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cydlynydd Rhaglen Bae'r Gorllewin adroddiad i roi gwybod i'r panel am gyllid refeniw  y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer gwasanaethau a phrosiectau dementia yn unol â'r Cynllun Gweithredu Dementia Cenedlaethol ar draws rhanbarth Bae'r Gorllewin ar gyfer 2018/19.

 

Nododd Cydlynydd Rhaglen Bae'r Gorllewin fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r 6 chynllun a amlinellwyd yn Atodiad 1 sy'n berthnasol i ardal Abertawe ers i'r adroddiad gael ei ddrafftio.  Yn ogystal, cymeradwywyd 8 cynllun ychwanegol hefyd.

 

Penderfynwyd y dylai'r Panel Ariannu Allanol gymeradwyo derbyn cyllid gan y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer gwasanaethau dementia yn Abertawe.

68.

Rhaglen Ddysgu 3 Blynedd Arfaethedig - Oriel Gelf Glynn Vivian - Drafftio'r Dyfodol. pdf eicon PDF 231 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno cais i gronfa Casgliadau Esmee Fairbairn/Cymdeithas Amgueddfeydd Llundain ar gyfer arian grant 100% am Raglen Ddysgu ran-amser 3 blynedd o hyd i ddod â chasgliad 'cudd' Gwaith ar Bapur yr oriel i'r amlwg drwy gysylltu â chyfranogwyr o gefndiroedd economaidd isel a difreintiedig yn Abertawe - o'r enw Drafftio'r Dyfodol.

 

Penderfynwyd y dylai'r Panel Ariannu Allanol nodi'r goblygiadau  yn yr adroddiad a chymeradwyo'r cais i ddenu hyd at £80,200 o gyllid ychwanegol heb unrhyw gost i'r cyngor.

69.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

70.

Trosolwg o'r ceisiadau presennol a'r rhai sydd ar ddod am arian Ewropeaidd ac allanol.

Cofnodion:

Darparodd y Rheolwr Cyllid Allanol a'r Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol ddiweddariadau ar geisiadau am gyllid cynlluniedig Ewropeaidd ac Allanol eraill.

 

Diolchwyd i'r Tîm Cyllid Allanol am ei ymdrechion parhaus wrth geisio dod o hyd i'r arian grant addas ar gyfer prosiectau amrywiol yn yr awdurdod.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r 4 argymhelliad fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.