Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Dros Dro. Cofnodion: Etholwyd y
Cynghorydd J A Raynor yn Gadeirydd Dros Dro. Bu'r Cynghorydd J A Raynor (Cadeirydd Dros Dro) yn
llywyddu. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y cysylltiadau canlynol: Datganodd y
Cynghorydd E J King fudd personol yng Nghofnod 61 'Cais i gronfa Teithio Llesol
2018/19' fel gweithiwr y DVLA. Datganodd y
Cynghorydd R S Stewart fudd personol yng Nghofnod 61 'Cais i gronfa Teithio
Llesol 2018/19' fel gweithiwr y DVLA. Bu'r cynghorydd RC Stewart (Cadeirydd) yn
llywyddu. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 4
Gorffennaf 2018 fel cofnod cywir. |
|
Bid y gronfa teithio llesol 2018/19. PDF 159 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Strategaeth Cludiant adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth mewn
perthynas â chais am gyllid ar gyfer cronfa Teithio Llesol 2018/19. Manylodd ar y
cefndir, y ceisiadau a gyflwynwyd a manylion y cynllun arfaethedig. Gofynnodd yr aelodau
gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Penderfynwyd cymeradwyo Cronfa Teithio Llesol
2018/19. |
|
Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol. PDF 186 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd
cydweithwyr o Dîm Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol a Chynllunio Strategol ac
Amgylchedd Naturiol ddiweddariad ar geisiadau Ewropeaidd arfaethedig a
cheisiadau eraill am gyllid allanol. Gofynnodd aelodau
gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Penderfynwyd: 1.
cymeradwyo cynlluniau busnes a gyflwynwyd i
sicrhau cyllid gan raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru i
adnewyddu adeilad Kings, Orchard
House a hen adeilad BHS. 2.
cymeradwyo cyflwyno ffurflenni cais i Raglen
Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru i sefydlu ac arwain y Gronfa
Datblygu a Gwella Eiddo a'r Gronfa Byw'n Gynaliadwy ar ran y rhanbarth. 3.
cymeradwyo cyflwyno ceisiadau i grant Cyfoeth
Naturiol Cymru er mwyn cyflwyno Gwrychoedd Gŵyr, Ein Natur: Ein Dyfodol a
phrosiectau Gwirfoddolwyr Bywyd Gwyllt Abertawe. 4.
Mae'r panel yn cefnogi Cyngor Abertawe wrth iddo
fabwysiadu rôl arweiniol ym mhrosiect Parc Briallu a chyflwyno ail-broffil er
mwyn sicrhau cyllid gan WREN er mwyn cyflwyno'r prosiect. |