Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion cyfarfod y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 7 Mawrth
2018 fel cofnod cywir. |
|
Cyfoeth Naturiol Cymru - Rhaglen Partneriaeth AoHNE Gwyr 2018-2021. PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd Tîm AoHNE adroddiad ‘Er Gwybodaeth” mewn perthynas â chynnig am gyllid gan Cyfoeth
Naturiol Cymru ar gyfer rhaglen Partneriaeth AoHNE Gŵyr 2018-2021. Byddai’r rhaglen arfaethedig yn cyflwyno ystod eang o allbynnau gan Is-adran Cynllunio Strategol ac Amgylchedd Naturiol Cyngor Abertawe a’i bartneriaid;
rydym wedi cynnal partneriaeth lwyddiannus a hir-sefydlog â Cyfoeth Naturiol Cymru (a’i gyrff
blaenorol) am fwy na 25 o flynyddoedd. Mae Partneriaeth AoHNE Gŵyr yn gweithredu
fel ymgynghorydd i Gyngor Abertawe
a chorff rheoli’r AoHNE - mae
Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhan o’r
bartneriaeth, gan sicrhau rheolaeth a monitro. Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau
i'r swyddog cyflwyno, a ymatebodd
yn briodol. Nodwyd, mewn perthynas â
chwestiwn 4 ar dudalen 13 y
ffurflen gais mai ‘Ie’ y dylai’r
ateb fod (yn hytrach nag ‘ie’ a ‘na’). Mynegodd y Cadeirydd bryder o ran swm yr arian
cyfatebol a oedd ei angen gan
Ddinas a Sir Abertawe o ystyried y cyfyngiadau ariannol presennol. Byddai’n cysylltu â’r Uwch-swyddogion mewn perthynas â’r broses cyllid grant. Gellid hefyd drefnu cyfarfodydd “arbennig” y Panel Ariannu Allanol ar gyfer unrhyw geisiadau brys am gyllid i’w hystyried. Nodwyd bod y Panel Ariannu
Allanol eisoes wedi darparu cefnogaeth
o ran llunio cais drafft ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru am gefnogaeth grant i gyflwyno Cynllun
Rheoli AoHNE yn ei gyfarfod
ar 7 Mawrth 2018. Yn ychwanegol, ailadroddwyd y goblygiadau cyllidebol a amlinellwyd
yn yr adroddiad fel a ganlyn: 5.1 Mae’r grant yn defnyddio cyllideb
refeniw bresennol i ddefnyddio cyllid
allanol a fydd yn galluogi’r timau
i ddarparu mwy o wasanaethau gyda chyn lleied
o adnoddau’r cyngor (gall arian cyfatebol
hefyd gynnwys amser staff a gwirfoddolwyr a chyllid allanol arall). Os cyfyngir
ar gyllidebau’r cyngor, byddai’r cynlluniau gwaith yn cael
eu diwygio er mwyn lleihau
costau yn unol â hynny. 5.2 Mae’r cynnig hwn am gyllid
yn helpu i gefnogi nifer
bach o swyddi staff yn y Tîm Cadwraeth
Natur. 5.3 Ni fyddai derbyn y cynnig am gyllid yn cynyddu
rhwymedigaethau ariannol Cyngor Abertawe nawr neu yn
y dyfodol. Penderfynwyd nodi cynnwys yr
adroddiad, ond nid ei gymeradwyo. |
|
Cyfleusterau Chwaraeon Pob Tywydd Arfaethedig ar safle Lôn Sgeti/Heol Ashley. PDF 131 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad
ar y cyd â’r Rheolwr Strategol, Hamdden, Partneriaethau, Iechyd a Lles er
mwyn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno cynnig i’r Grŵp Cyfleusterau
Hamdden Cydweithredol (sy’n
cynrychioli Chwaraeon Cymru a chyrff llywodraethu rygbi, pêl-droed a hoci yng Nghymru) er
mwyn datblygu meysydd chwaraeon artiffisial 3edd genhedlaeth ac i osod arwyneb
hoci bob tywydd newydd yn Lôn
Sgeti/Heol Ashley. Gofynnodd y panel gwestiynau
amrywiol yr ymatebwyd iddynt yn briodol gan
Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a’r Rheolwr Strategol, Hamdden, Partneriaethau, Iechyd a Lles. Penderfynwyd bod y Panel Ariannu Allanol
yn nodi’r goblygiadau a nodwyd yn yr adroddiad ac yn cymeradwyo cyflwyno
achos busnes er mwyn denu
hyd at werth £500,000 o gyllid. |