Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: Datganodd y Cynghorydd M Sherwood gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 42 “Cronfa Compact Abertawe 2018/19” – fel aelod o Bwyllgor Rheoli Dinas Noddfa (Abertawe) a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Panel Ariannu
Allanol a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2018 yn gofnod cywir. |
|
Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod a Chodi Safonau - Cyllid Grant Llywodraeth Cymru. PDF 111 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad i roi gwybod i'r panel
am y bwriad i wneud cais am arian grant gan Lywodraeth Cymru i leihau maint
dosbarthiadau babanod a chodi safonau. Mae Llywodraeth
Cymru wedi cynnig grant newydd i awdurdodau lleol â'r nod o leihau maint
dosbarthiadau babanod a chodi safonau.
Bydd y ffocws ar ysgolion â dosbarthiadau o 29 o ddysgwyr neu fwy, a lle
mae'r ysgolion yn dangos o leiaf un o'r canlynol neu gyfuniad ohonynt: ·
Lefelau
sylweddol o brydau ysgol am ddim; ·
Deilliannau
llai na'r cyfartaledd a lle bernir bod ysgol yn goch neu'n ambr (yn ôl
categoreiddio rhanbarthol ERW); ·
Lefelau
sylweddol o anghenion addysgol arbennig ac anghenion dysgu ychwanegol; ·
Nifer
sylweddol o blant nad yw'r Gymraeg/Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Y cynnig
arfaethedig yw sefydlu un sylfaen dosbarth newydd yn yr ysgolion canlynol gyda
chyllid cyfalaf a refeniw cysylltiedig: ·
Ysgol
Gynradd Hendrefoilan (estyniad i ystafell ddosbarth); ·
Ysgol
Gynradd Penyrheol (gwaith ailfodelu mewnol); ·
Ysgol
Gynradd Sea View (estyniad bach a gwaith ailfodelu); ·
YGG Bryniago (gwaith ailfodelu mewnol). Penderfynwyd cymeradwyo'r cais am yr arian grant i Leihau Maint Dosbarthiadau Babanod a Chodi Safonau. |
|
Cais am Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru 2018/19. PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Peiriannydd Rheoli Traffig adroddiad i roi gwybodaeth am y cais am Grant
Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru 2018/19. Mae'r fenter
Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn gwella darpariaeth llwybrau cerdded a beicio mewn
cymunedau, yn enwedig y tu allan i ysgolion ac o'u hamgylch. Nod hyn yw annog ffordd fwy cynaliadwy o fyw
mewn cymunedau a mynd i'r afael â materion eithrio cymdeithasol. Mae'r cais am
gyllid yn cynnwys cynigion ar gyfer y 3 ardal ganlynol: ·
Gŵyr; ·
Gorseinon
a Phenyrheol; ·
Llangyfelach
a Mynydd-bach. Penderfynwyd cymeradwyo'r cais am gyllid grant Llwybrau
Mwy Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru 2018/19 ac y dylai swyddogion
dderbyn unrhyw ddyraniad a wneir yn unol â'r argymhellion canlynol: a)
Datblygu
amgylcheddau cerdded a beicio mwy diogel yn ardal Gŵyr i adeiladu ar waith
sydd eisoes yn cael ei wneud yn yr ardal; b)
Datblygu
a chyflwyno amgylcheddau cerdded a beicio mwy diogel yn ardaloedd Gorseinon a Phenyrheol; c)
Datblygu
a chyflwyno amgylcheddau cerdded a beicio mwy diogel yn ardaloedd Llangyfelach
a Mynydd-bach. |
|
Cais am Grant (Cyfalaf) Diolgelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru 2018/19. PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y
Peiriannydd Rheoli Traffig wybodaeth am y cais am Grant Diogelwch Ffyrdd
Llywodraeth Cymru (Cyfalaf) 2018/19. Mae'r Grant
Diogelwch Ffyrdd (Cyfalaf) yn galluogi awdurdodau lleol ledled Cymru i wneud
cais am gyllid â'r nod o gefnogi mentrau allweddol i helpu i gyflawni targedau
lleihau damweiniau ffyrdd a nodwyd yn y Fframwaith Diogelwch Ffyrdd ar gyfer
Cymru 2018. Yn benodol, mae'n ymdrechu i
gyflawni'r targedau lleihau damweiniau canlynol: ·
40%
yn llai o bobl yn cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru; ·
25%
yn llai o yrwyr beiciau modur yn cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd
Cymru; ·
40%
yn llai o bobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) yn cael eu lladd a'u hanafu'n
ddifrifol ar ffyrdd Cymru. Mae'r cais am
gyllid yn cynnwys cynigion ar gyfer y 3 phrosiect canlynol: ·
Diweddaru
4 camera diogelwch ffyrdd presennol a datblygu safleoedd gorfodi symudol; ·
Cyflwyno
mesurau diogelwch ffyrdd i hyrwyddo opsiynau teithio diogel yn ardal Portmead/Blaen-y-maes; ·
Gwella
cyffordd allweddol ar Heol y Trallwn. Penderfynwyd cymeradwyo'r cais am gyllid grant
Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru (Cyfalaf) 2018/19 ac y dylai swyddogion
dderbyn unrhyw ddyraniad a wneir yn unol â'r argymhellion canlynol: a)
Diweddaru
4 camera diogelwch ffyrdd presennol a datblygu safleoedd gorfodi symudol; b)
Cyflwyno
mesurau diogelwch ffyrdd i hyrwyddo opsiynau teithio diogel yn ardal Portmead/Blaen-y-maes; c) Gwella cyffordd allweddol ar Heol y Trallwn. |
|
Cais am Grant (Refeniw) Diolgelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru 2018/19. PDF 117 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Peiriannydd Rheoli Traffig adroddiad i roi gwybodaeth am y cais am Grant
Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru (Refeniw) 2018/19. Mae'r cais hwn am
gyllid yn cynnwys cynigion am yr 8 menter addysg a hyfforddiant diogelwch
ffyrdd ganlynol: 1.
Kerbcraft – hyfforddiant cerddwyr i blant 5-7 oed (1,701
o leoedd am gyfanswm o £51,030); 2.
Mega Drive – Hyfforddiant
cyn-yrru i bobl ifanc 16-18 oed (100 o leoedd am gyfanswm o £2,600); 3.
Rider Safe – Hyfforddiant
beic modur i rai 16-24 oed ar gyfer defnyddwyr newydd mopedau
a beiciau 2 olwyn pŵer isel (60 o leoedd am gyfanswm o £8,100); 4.
Bikesafe – Asesiad beic modur i feicwyr ar ôl y prawf ar
y cyd â Heddlu De Cymru (40 o leoedd am gyfanswm o £2,400); 5.
Dragon Rider – Hyfforddiant
beic modur DVSA ar gyfer beicwyr ar ôl y prawf (40 o leoedd am gyfanswm o
£5,400); 6.
Pass Plus Cymru –
Hyfforddiant i yrwyr newydd gymhwyso 17-24 oed (110 o leoedd £15,180); 7.
Hyfforddiant Beicio Safonau Cenedlaethol – Lefelau 1 a 2 ar gyfer
disgyblion 10/11 oed a Lefel 3 ar gyfer beicwyr mwy profiadol 16+ oed (992 o
leoedd am gyfanswm o £41,664); 8.
Gyrru am Oes – Hyfforddiant gloywi i yrwyr 65+ oed (40 o leoedd am
gyfanswm o £2,320). Bu'r panel yn
trafod a fyddai modd cynnwys Addysg Diogelwch Ffyrdd benodol mewn cynigion yn y
dyfodol er mwyn addysgu rhieni/gwarchodwyr am faterion diogelwch penodol megis
parcio diystyriol, e.e. ar linellau igam-ogam y tu allan i ysgolion. Penderfynwyd cymeradwyo'r cais am Grant
Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru (Refeniw) 2018/19 ac y dylai swyddogion
dderbyn unrhyw ddyraniad a wneir yn unol â'r argymhellion canlynol: a) Darparu addysg, hyfforddiant ac ymyriadau cyhoeddusrwydd ar ddiogelwch ffyrdd i helpu i leihau damweiniau mewn grwpiau defnyddwyr ffyrdd risg uchel a diamddiffyn fel a amlinellwyd yn yr adroddiad. |
|
Cronfa Compact Abertawe 18/19. PDF 144 KB Cofnodion: Cyflwynodd Cydlynydd Comisiynu'r Trydydd Sector a Chronfeydd
Ymddiriedolaeth adroddiad i benderfynu ar y cais gohiriedig i gyfres untro o gyllid gan Gronfa Compact Abertawe 2018/19. Gohiriwyd y cais gan y Ddinas Noddfa er mwyn cael eglurhad ar nodau'r
prosiect a'r canlyniadau arfaethedig. Clustnodwyd £7,500 - y swm llawn y
gofynnwyd amdano - yn y gyllideb gan ddisgwyl am benderfyniad y panel. Amlinellwyd y diweddariad, a oedd yn cynnwys mwy o wybodaeth am y prosiect
ar gyfer 2018 ac a oedd yn cynnig targedau newydd, yn Atodiad B. Cwestiynodd y panel rôl yr ymddiriedolwyr a'r Pwyllgor Rheoli a ph'un a oedd y rôl yn dyblygu'r hyn sydd eisoes yn cael ei
ddarparu gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe. Penderfynwyd cymeradwyo'r cais ar y ffigur llai, sef £5,000. |
|
Grant Pwysau'r Gaeaf. PDF 107 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Bartner Ariannol (Pobl) adroddiad i roi gwybod i'r panel
am ddyraniad cyllid mewn perthynas â chefnogi cyflwyniad y Gwasanaethau
Cymdeithasol yn ystod gaeaf 2017/18. Dyrannodd Llywodraeth Cymru'r grant hwn yn uniongyrchol ac nid oedd rhaid
i'r cyngor gyflwyno cais. Cynigiwyd
dyraniadau i holl gynghorau Cymru. Roedd
y cynnig ar gyfer £795,988 ac am y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2018. Diben y cyllid yw cefnogi cyflwyniad y Gwasanaethau Cymdeithasol dros
gyfnod gaeaf 2017-2018 drwy: ·
Becynnau gofal cartref o 1 Ionawr i 31 Mawrth 2018; ·
Gwasanaethau gofal a thrwsio ar gyfer addasiadau bach i
gartrefi a chyfarpar i hwyluso rhyddhau pobl a'u helpu i gynnal annibyniaeth; ·
Gofal preswyl tymor byr a defnydd o welyau gofal llai
dwys i hwyluso rhyddhau a throsglwyddo o'r ysbyty i'r cartref. Penderfynwyd y byddai'r panel yn nodi'r goblygiadau sydd yn yr
adroddiad ac, yn dilyn hynny, gymeradwyo derbyn y grant. |
|
Trafnidiaeth Leol a Chais Cronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol 2018/19. PDF 158 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Strategaeth Cludiant adroddiad i gymeradwyo'r cais am gyllid gan y
Gronfa Drafnidiaeth Leol 2018/19. Cyflwynwyd cais
am gyllid i'r Gronfa Trafnidiaeth Leol a Chronfa'r Rhwydwaith Trafnidiaeth
Lleol (LTF ac LTNF) i Lywodraeth Cymru ar 25 Ionawr 2018 yn unol ag arweiniad
gan Lywodraeth Cymru. Cyflwynodd Dinas
a Sir Abertawe bedwar cais - cyfanswm o £3.388 miliwn - ac roedd yn aros am
gyhoeddiad ffurfiol gan Lywodraeth Cymru o ran pa gynlluniau fyddai'n cael eu
hariannu'r rhannol neu'n llawn.
Amlinellwyd y cynlluniau a swm eu ceisiadau, a oedd yn cynnwys: ·
Metro
De-orllewin Cymru (LTF); ·
Ffordd
Fabian (Pont Baldwin)
(LTF); ·
Datblygu'r
Cynllun Teithio Llesol (LTF); ·
Coridorau
Bysus Strategol (LTNF). Penderfynwyd y byddai'r panel yn cymeradwyo'r cais am gyllid i'r Gronfa Drafnidiaeth Leol 2018/19. |
|
Amgueddfa Abertawe - Cronfa Drawsnewid Llywodraeth Cymru 18/19. PDF 99 KB Cofnodion: Penderfynwyd gohirio'r eitem i gyfarfod nesaf y Panel Ariannu
Allanol. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 113 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r panel
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd
yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a nodwyd ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y panel
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle roedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol, fel a
nodwyd yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol. Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad ar geisiadau Ewropeaidd presennol ac arfaethedig a
cheisiadau allanol eraill gan y Rheolwr Ariannu Allanol: ·
Brexit a Pholisi
Rhanbarthol y Dyfodol; ·
Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) 2014-2020; ·
Cronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE) 2014-2020; ·
Cronfeydd Allanol Eraill. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn
yr adroddiad. |