Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

23.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd A S Lewis - cofnod 25 - Rhaglen Tai Arloesol - Cefnogi adeiladu 2000 o gartrefi fforddiadwy newydd yng Nghymru - Aelod y Cabinet arweiniol o ran safleoedd Ffordd Colliers a Pharc yr Helyg - personol.

24.

Cofnodion: pdf eicon PDF 112 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2017 fel cofnod cywir.

25.

Rhaglen Tai Arloesol - Cefnogi cyflwyno 2,000 o gartrefi newydd fforddiadwy yng Nghymru. pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Datblygu ‘Mwy o Gartrefi’ adroddiad a ddarparodd fanylion y cais i Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru - i gefnogi adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yng Nghymru.

 

Penderfynwyd y dylid:

 

1)              Cymeradwyo cais cam 1 yn ôl-weithredol;

2)              Cymeradwyo cyflwyno ail gais am gyllid ar gyfer cam 2 erbyn dyddiad cau Llywodraeth Cymru.

26.

Cyllid Compact Abertawe 2018/19. pdf eicon PDF 159 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Partneriaethau a Chomisiynu adroddiad a oedd yn ceisio penderfyniadau o ran ceisiadau rownd ariannu unigryw Cronfa Compact Abertawe 2018/19.

 

Cynigiwyd bod y tri gwasanaeth a gafwyd yn flaenorol drwy’r Gronfa Newid ar sail contract yn cael eu cyflwyno dros gyfnod o 6 mis er mwyn caniatáu parhad wrth i’r broses gomisiynu fynd rhagddi. Y tri gwasanaeth cyfredol a gafwyd oedd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe, Canolfan Cyngor ar Bopeth Abertawe a Fforwm yr Amgylchedd Abertawe.

 

Ychwanegwyd bod y cyllid a oedd yn weddill wedi'i lansio fel rownd ariannu agored sef y Gronfa Compact. Roedd yn rhaid i bob ymgeisydd gysylltu eu ceisiadau, eu prosiectau neu eu gwasanaethau craidd yn uniongyrchol â Chynllun Corfforaethol y cyngor, gan esbonio sut yr oeddent yn cyfrannu at un o'r pum blaenoriaeth.

 

Gofynnodd y cynghorwyr i wybodaeth ychwanegol gael ei darparu mewn perthynas â phob ymgeisydd ar gyfer y Gronfa Compact.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Estyn cytundebau contract am 6 mis ym 2018/19 i'r tri sefydliad presennol a oedd yn derbyn CLG tair blynedd yn flaenorol;

2)              Gohirio’r ceisiadau am arian o'r Gronfa Compact tan gyfarfod nesaf y panel a drefnir ar gyfer dydd Mercher, 10 Ionawr 2018, er mwyn darparu gwybodaeth ategol ychwanegol am bob ymgeisydd.

27.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r panel wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodwyd ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y panel Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle roedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol, fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

28.

Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol.

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Rheolwr Ariannu Allanol adroddiad i ddarparu’r diweddaraf am geisiadau arfaethedig am gyllid Ewropeaidd a cheisiadau eraill am gyllid allanol a darparodd ddiweddariadau o ran perfformiad prosiectau a gymeradwywyd yn flaenorol gan y panel.

 

Penderfynwyd: 

 

1)    Nodi’r diweddariadau am brosiectau a amlinellir yn Adrannau 2 i 5 yr adroddiad, ar y cyd â gwybodaeth fanwl am berfformiad prosiectau o fewn yr adroddiad monitro misol.

2)    Cymeradwyo estyn prosiect presennol Gweithffyrdd+ tan fis Rhagfyr 2022;

3)    Cymeradwyo cyflwyno cynllun busnes i WEFO i geisio cyllid gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop i gyflwyno prosiect diweithdra tymor byr Gweithio Abertawe: Gweithffyrdd+;

4)    Cymeradwyo unrhyw grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ychwanegol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ategu'r Gronfa Datblygu a Gwella Eiddo a chynlluniau Cartrefi Uwchben Siopau presennol.