Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a
Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Panel Cyllid Allanol gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2017 fel
cofnod cywir. |
|
Grant ar gyfer Ehangu Gwasanaethau ar Ffiniau Gofal 2017/18. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad
gan aelodau’r panel ar ddyrannu grant er mwyn ehangu gwasanaethau ar ymyl gofal
2017/18. Mae'r grant eisoes
wedi'i ddyrannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ac nid oedd angen i'r
cyngor gyflwyno cais. Bwriad y cyllid, a
ryddhawyd o ganlyniad i gyllid ôl-ddilynol cyllideb mis Mawrth y Llywodraeth
Brydeinig, oedd cefnogi awdurdodau lleol i fodloni galw cynyddol. Penderfynwyd y byddai'r panel yn nodi goblygiadau’r adroddiad ac yn cymeradwyo derbyn y grant yn ôl-weithredol. |
|
Grantiau i Ddarparu Cefnogaeth Ychwanegol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal. PDF 101 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad
gan y panel ar ddyrannu'r grantiau canlynol i gefnogi'r sawl sy'n gadael gofal: ·
Grantiau
cefnogi pobl ifanc sy'n gadael gofal i gael dyfodol disglair; ·
Grant
Dydd Gŵyl Dewi. Dyrannwyd y
grantiau hyn yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ac nid oedd angen i'r cyngor
gyflwyno cais. Bwriad y cyllid, a
ryddhawyd o ganlyniad i gyllid ôl-ddilynol cyllideb mis Mawrth y Llywodraeth
Brydeinig, oedd cefnogi awdurdodau lleol i fodloni galw cynyddol. Penderfynwyd y byddai'r panel yn nodi goblygiadau’r adroddiad ac yn cymeradwyo derbyn y grantiau'n ôl-weithredol. |
|
Grant i Gefnogi'r Ymagwedd Genedlaethol at Eiriolaeth Statudol. PDF 108 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad
gan y panel ynghylch dyrannu'r grant i Wasanaeth Eiriolaeth Bae'r Gorllewin
2017-18. Mae'r grant eisoes
wedi'i ddyrannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ac nid oedd angen i'r
cyngor gyflwyno cais. Bwriad y cyllid yw
cefnogi rhoi Ymagwedd Genedlaethol at Eiriolaeth Statudol ar waith. Penderfynwyd y byddai'r panel yn nodi goblygiadau’r adroddiad ac yn cymeradwyo derbyn y grant yn ôl-weithredol. |
|
Grant Gofal Seibiant Gofalwyr. PDF 109 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd
adroddiad gan y panel ar ddyrannu'r Grant Gofal Seibiant i Ofalwyr 2017-18. Mae'r grant eisoes
wedi'i ddyrannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ac nid oedd angen i'r
cyngor gyflwyno cais. Bwriad y cyllid
oedd galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno gofal seibiant ychwanegol i ofalwyr
(gan gynnwys gofalwyr ifanc) yn eu hawdurdod lleol, gan gynnwys: ·
Gofal
Dydd – gwasanaeth a ddarperir y tu allan i'r cartref heb unrhyw elfennau aros
dros nos i'r gofalwr neu dderbynnydd y gofal ·
Seibiant
yn y cartref – gweithiwr gofal (â thal) yn dod i'r cartref teuluol i 'eistedd'
gyda derbynnydd y gofal ·
Seibiant
mewn teulu cynnal – mae'r gofalwr a derbynnydd y gofal yn cymryd seibiant
gyda'i gilydd wrth aros gyda theulu cynnal ·
Seibiant
sefydliadol/dros nos – yn galluogi seibiannau i ffwrdd o'r cartref teuluol i
dderbynnydd y gofal am un noson neu fwy Penderfynwyd y byddai'r panel yn nodi goblygiadau’r adroddiad ac yn cymeradwyo derbyn y grant yn ôl-weithredol. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 113 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r panel
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd
yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a nodwyd ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y panel
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle roedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol, fel a
nodwyd yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol. Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad
gan y panel a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am geisiadau presennol a
chynlluniedig am gyllid Ewropeaidd a cheisiadau eraill am gyllid allanol. Roedd yr adroddiad
yn ddiweddariad ar adroddiadau blaenorol ar gyllid Ewropeaidd ac Allanol i'r
Panel Cyllido Allanol a oedd yn ceisio darparu: ·
Diweddariad
ar geisiadau am gyllid Ewropeaidd a chyllid allanol presennol ac sy'n agos at
gael eu cymeradwyo; ·
Hysbysiad
cynnar o geisiadau a rhaglenni cyllid grant arfaethedig sydd ar y gweill. Penderfynwyd nodi a chymeradwyo'r argymhellion fel a amlinellwyd yn yr adroddiad. |