Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd M Sherwood fudd personol yng Nghofnod 12 "Ariannu Cyfalaf Cronfa Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru" fel aelod o fwrdd WCADA.  Ni bleidleisiodd y Cynghorydd Sherwood dros yr eitem hon.

11.

Cofnodion: pdf eicon PDF 72 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd llofnodi cofnodion y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 5 Gorffennol 2017 a'u cymeradwyo fel cofnod cywir.

12.

Arian Cyfalaf Cronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru. pdf eicon PDF 102 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog dros Gefnogi Pobl adroddiad i roi gwybod i'r panel am y bwriad i wneud cais am gynnig grant newydd.

 

Amlinellodd fod y cyngor yn ymddwyn fel derbynnydd grant i alluogi sefydliadau partner i dderbyn arian cyfalaf gan Lywodraeth Cymru. Mae'r grantiau hyn yn rhan o gyllid y Gronfa Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau.

 

Cynigiwyd grant gwerth £85,491.07 i alluogi WCADA (Canolfan Gweithredu ar Ddibyniaeth a Chaethiwed Cymru) i ariannu gwelliannau yn ei hisadeiledd TGCh.

 

Bydd WCADA yn ariannu costau cynnal y cyfarpar ac nid oes unrhyw gostau i'r awdurdod wrth dderbyn y cynnig, oni bai am gostau gweinyddu derbyn y grant a'i ddostalu.

 

Penderfynwyd y dylai'r panel nodi'r goblygiadau yn yr adroddiad a chymeradwyo derbyn y grant.

13.

Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog dros Gefnogi Pobl adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i dderbyn Grant Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol.

 

Byddai'r arian yn cefnogi awdurdodau lleol i reoli effeithiau ariannol costau a threfn newid y gweithlu yn y sector gofal cymdeithasol, yn enwedig y pwysau sy'n codi o'r cyflog byw cenedlaethol.

 

Nod y grant yw galluogi'r sector gofal cymdeithasol i wynebu'r pwysau ariannol sy'n gysylltiedig â'r cyflog byw cenedlaethol. Mae sicrhau bod y bobl sy'n gweithio yn y sector yn cael eu gwobrwyo'n addas ar gyfer y gwaith maent yn ei wneud yn rhan o'r ystod ehangach o welliannau i'w hamodau a thelerau. Disgwylir i'r newidiadau hyn gefnogi gwelliant yn safon a pharhad y gwasanaeth a gyflwynir. 

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol am y term Cyflog Byw Cenedlaethol a gofynnodd a oedd y term cywir yn cael ei ddefnyddio neu a ddylid defnyddio'r term 'Isafswm Cyflog' yn lle. Dywedodd y Prif Swyddog dros Gefnogi Pobl y byddai'n gwirio'r derminoleg a ddefnyddiwyd.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Y byddai'r Prif Swyddog yn gwirio'r term 'Cyflog Byw Cenedlaethol';

2)    Y byddai'r panel yn nodi goblygiadau'r adroddiad ac yn cymeradwyo derbyn y grant.

14.

Cais 2017/18 Cronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Lleol. pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Strategaeth Cludiant adroddiad i gymeradwyo'r cais am gyllid ar gyfer Cronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol 2017/18.

 

Byddai'r cais yn cyflwyno cyfres o welliannau i wella effeithlonrwydd y  rhwydwaith priffyrdd mewn ardaloedd lle ceir tagfeydd yn aml oherwydd traffig oriau brig.  Bydd y mesurau'n gwella dibynadwyedd amser teithio ar gyfer teithiau cludiant cyhoeddus ar fysus ac yn cefnogi'r cysyniad o gyfnewidfeydd bysus. Bydd y cyfnewidfeydd yn hyrwyddo gwell integreiddio rhwng dulliau cludiant, ac yn nodi'r camau cyntaf o ran cyfuno rhwydwaith o opsiynau cludiant er mwyn dechrau trefnu a gwireddu system cludiant integredig ar gyfer Abertawe a De-orllewin Cymru.

 

Roedd y cais am gyllid eisoes wedi cael ei gyflwyno oherwydd yr amser cyfyngedig a roddwyd gan Lywodraeth Cymru rhwng y gwahoddiad a'r dyddiad cyflwyno. Cafwyd cymeradwyaeth gan Aelodau'r Cabinet cyn cwblhau'r ceisiadau.

 

Gofynnodd yr aelodau amryw o gwestiynau ac ymatebodd y Swyddog yn briodol.

 

Penderfynwyd y byddai'r Panel Ariannu Allanol yn cymeradwyo'r cais i'r Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol 2017/18.